Robert Thomas, Y Ffridd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 8: Llinell 8:


[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Pobl]]
[[CategoriAmaethwyr]]
[[Categori:Amaethwyr]]

Fersiwn yn ôl 19:24, 30 Ionawr 2021

Gwyddom ychydig am Robert Thomas trwy gofiant John Roberts, Llangwm, un o'i feibion: dyn digon ddistadl ei stad oedd o, mae'n debyg; arferai fyw ym Mlaen-y-garth a gweithio yng Ngwaith copr Drws-y-coed. Fe'i ddisgrifwyd fel "gŵr ystwythgryf", ac yn arweinydd dynion plwyf Llanllyfni ym mhob gornest yn erbyn cryfion y plwyfi cyfagos, hyd nes iddo gael troedigaeth.[1]

Rywbryd ar ôl 1752 symudodd Robert Thomas a'i deulu o Flaen-y-garth, gan gymryd tenantiaeth o wythfed ran o Ffridd Baladeulyn, gan aros yno weddill ei oes a magu teulu yno, yn ncynnwys y gweinidogion enwog John Roberts, Llangwm a Robert Roberts, gweinidog Capel Uchaf.

Ni wyddys pryd y sylweddolodd Robert Thomas y byddai buchedd fwy parchus yn gweddu'n well iddo, gan droi at grefydd. Yn sicr, fodd bynnag, roedd yn rhan o'r mudiad i gynnal addysg ymysg y Methodistiaid, trwy sefydlu "ysgol deuluol" yn y Ffridd, lle byddai'n holi'r teulu ama bennau'r ffydd.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

  1. G.T. Roberts, Arfon (1759-1822), Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, Rhif 1 (1939), tt.57-8
  2. Gwynfryn Richards, The Early Story of the Schools of Dyffryn Nantlle, Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, Rhif 24 (1963), t.254