Gwesty'r Beuno: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Gwesty'r Beuno''' yn hen dafarn yn dyddio o oes y coets fawr yng nghanol pentref [[Clynnog Fawr]], ac yn wir dywedir fod rhannau o'r adeilad yn mynd yn ôl i'r 16g. Dichon hefyd bod llety o ryw fath wedi bod yng Nghlynnog ers cyfnod y pererindota i Enlli, gan fod [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr]] wedi bod yn gyrchfan i bererinion erioed. Mae hefyd yn sefyll hannaer ffordd rhwng Caernarfon a Phwllheli, ac yn fan strategol ar gyfer newid ceffylau a chael toriad ar y siwrne yn yr hen oes. Erbyn hyn, mae wedi ei droi'n llety hunan-ddarpar ar gyfer grwpiau o hyd at ddau ddwsin o bobl, wedi iddi gau fel gwesty a thafarn y pentref tua 2012, er mai'r un perchnogion sydd i'r adeilad o hyd.
Mae '''Gwesty'r Beuno''' yn hen dafarn yng nghanol pentref [[Clynnog Fawr]]. Mae'n dyddio o oes y goets fawr ac yn wir dywedir fod rhannau o'r adeilad yn mynd yn ôl i'r 16g. Dichon hefyd bod llety o ryw fath wedi bod yng Nghlynnog ers cyfnod y pererindota i Enlli, gan fod [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr]] wedi bod yn gyrchfan i bererinion erioed. Mae hefyd yn sefyll hanner ffordd rhwng Caernarfon a Phwllheli, ac yn fan strategol ar gyfer newid ceffylau a chael toriad ar y siwrne yn yr hen oes. Ychydig is i lawr na'r gwesty, roedd seston ddofn i ddal dŵr i'r ceffylau; mae yno o hyd gyda gorchudd haearn cadarn drosti'n awr. Roedd y dafarn hefyd yn cael ei hystyried yn "dafarn Fethodistaidd" yn niwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, cyn i ddirwest ddod i fri ymysg yr ymneilltuwyr. Byddai pregethwyr teithiol yn aros yno ar eu teithiau pregethu yn yr ardal a dywedir i rai cyfarfodydd gael eu cynnal yn y dafarn hefyd. Erbyn hyn, mae wedi ei droi'n llety hunan-ddarpar ar gyfer grwpiau o hyd at ddau ddwsin o bobl, wedi iddi gau fel gwesty a thafarn y pentref tua 2012, er mai'r un perchnogion sydd i'r adeilad o hyd.


Yn y 19g  ac ers o leiaf 1790, Gwesty'r Newborough Arms oedd enw'r dafarn; hynny'n adlewyrchu'r ffaith mai rhan o [[Ystad Glynllifon]] yr [[Arglwydd Newborough]] oedd y dafarn.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/7270</ref> Ar fap Ordnans 1888, ceir yr hen enw, ond erbyn map diweddarach a dirfesurwyd ym 1899, ceir yr enw "St Beuno's Hotel".<ref>Mapiau Ordnans 6" i'r filltir, golygyddiadau 1888 a 1901</ref> Ar adeg cynharach, cyfeiria [[Eben Fardd]] at y lle fel "Tafarn y Plas".<ref>Gweler yr erthygl ar [[Ffeiriau Clynnog Fawr]].</ref>
Yn y 19g  ac ers o leiaf 1790, Gwesty'r Newborough Arms oedd enw'r dafarn; hynny'n adlewyrchu'r ffaith mai rhan o [[Ystad Glynllifon]] yr [[Arglwydd Newborough]] oedd y dafarn.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/7270</ref> Ar fap Ordnans 1888, ceir yr hen enw, ond erbyn map diweddarach a dirfesurwyd ym 1899, ceir yr enw "St Beuno's Hotel".<ref>Mapiau Ordnans 6" i'r filltir, golygyddiadau 1888 a 1901</ref> Ar adeg gynharach, cyfeiria [[Eben Fardd]] at y lle fel "Tafarn y Plas".<ref>Gweler yr erthygl ar [[Ffeiriau Clynnog Fawr]].</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Fersiwn yn ôl 15:13, 22 Ionawr 2021

Mae Gwesty'r Beuno yn hen dafarn yng nghanol pentref Clynnog Fawr. Mae'n dyddio o oes y goets fawr ac yn wir dywedir fod rhannau o'r adeilad yn mynd yn ôl i'r 16g. Dichon hefyd bod llety o ryw fath wedi bod yng Nghlynnog ers cyfnod y pererindota i Enlli, gan fod Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr wedi bod yn gyrchfan i bererinion erioed. Mae hefyd yn sefyll hanner ffordd rhwng Caernarfon a Phwllheli, ac yn fan strategol ar gyfer newid ceffylau a chael toriad ar y siwrne yn yr hen oes. Ychydig is i lawr na'r gwesty, roedd seston ddofn i ddal dŵr i'r ceffylau; mae yno o hyd gyda gorchudd haearn cadarn drosti'n awr. Roedd y dafarn hefyd yn cael ei hystyried yn "dafarn Fethodistaidd" yn niwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, cyn i ddirwest ddod i fri ymysg yr ymneilltuwyr. Byddai pregethwyr teithiol yn aros yno ar eu teithiau pregethu yn yr ardal a dywedir i rai cyfarfodydd gael eu cynnal yn y dafarn hefyd. Erbyn hyn, mae wedi ei droi'n llety hunan-ddarpar ar gyfer grwpiau o hyd at ddau ddwsin o bobl, wedi iddi gau fel gwesty a thafarn y pentref tua 2012, er mai'r un perchnogion sydd i'r adeilad o hyd.

Yn y 19g ac ers o leiaf 1790, Gwesty'r Newborough Arms oedd enw'r dafarn; hynny'n adlewyrchu'r ffaith mai rhan o Ystad Glynllifon yr Arglwydd Newborough oedd y dafarn.[1] Ar fap Ordnans 1888, ceir yr hen enw, ond erbyn map diweddarach a dirfesurwyd ym 1899, ceir yr enw "St Beuno's Hotel".[2] Ar adeg gynharach, cyfeiria Eben Fardd at y lle fel "Tafarn y Plas".[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, XD2/7270
  2. Mapiau Ordnans 6" i'r filltir, golygyddiadau 1888 a 1901
  3. Gweler yr erthygl ar Ffeiriau Clynnog Fawr.