Gwesty'r Beuno: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Mae '''Gwesty'r Beuno''' yn hen dafarn yn dyddio o oes y coets fawr yng nghanol pentref [[Clynnog Fawr]], ac yn wir dywedir fod rhannau o'r adeilad yn mynd yn ôl i'r 16g. Dichon hefyd bod llety o ryw fath wedi bod yng Nghlynnog ers cyfnod y pererindota i Enlli, gan fod [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr]] wedi bod yn gyrchfan i bererinion erioed. Mae hefyd yn sefyll hannaer ffordd rhwng Caernarfon a Phwllheli, ac yn fan strategol ar gyfer newid ceffylau a chael toriad ar y siwrne yn yr hen oes. Erbyn hyn, mae wedi ei droi'n llety hunan-ddarpar ar gyfer grwpiau o hyd at ddau ddwsin o bobl, wedi iddi gau fel gwesty a thafarn y pentref tua 2012, er mai'r un perchnogion sydd i'r adeilad o hyd. | Mae '''Gwesty'r Beuno''' yn hen dafarn yn dyddio o oes y coets fawr yng nghanol pentref [[Clynnog Fawr]], ac yn wir dywedir fod rhannau o'r adeilad yn mynd yn ôl i'r 16g. Dichon hefyd bod llety o ryw fath wedi bod yng Nghlynnog ers cyfnod y pererindota i Enlli, gan fod [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr]] wedi bod yn gyrchfan i bererinion erioed. Mae hefyd yn sefyll hannaer ffordd rhwng Caernarfon a Phwllheli, ac yn fan strategol ar gyfer newid ceffylau a chael toriad ar y siwrne yn yr hen oes. Erbyn hyn, mae wedi ei droi'n llety hunan-ddarpar ar gyfer grwpiau o hyd at ddau ddwsin o bobl, wedi iddi gau fel gwesty a thafarn y pentref tua 2012, er mai'r un perchnogion sydd i'r adeilad o hyd. | ||
Yn y 19g | Yn y 19g ac ers o leiaf 1790, Gwesty'r Newborough Arms oedd enw'r dafarn; hynny'n adlewyrchu'r ffaith mai rhan o [[Ystad Glynllifon]] yr [[Arglwydd Newborough]] oedd y dafarn.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/7270</ref> Ar fap Ordnans 1888, ceir yr hen enw, ond erbyn map diweddarach a dirfesurwyd ym 1899, ceir yr enw "St Beuno's Hotel".<ref>Mapiau Ordnans 6" i'r filltir, golygyddiadau 1888 a 1901</ref> Ar adeg cynharach, cyfeiria [[Eben Fardd]] at y lle fel "Tafarn y Plas".<ref>Gweler yr erthygl ar [[Ffeiriau Clynnog Fawr]].</ref> | ||
{{eginyn}} | {{eginyn}} |
Fersiwn yn ôl 14:29, 22 Ionawr 2021
Mae Gwesty'r Beuno yn hen dafarn yn dyddio o oes y coets fawr yng nghanol pentref Clynnog Fawr, ac yn wir dywedir fod rhannau o'r adeilad yn mynd yn ôl i'r 16g. Dichon hefyd bod llety o ryw fath wedi bod yng Nghlynnog ers cyfnod y pererindota i Enlli, gan fod Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr wedi bod yn gyrchfan i bererinion erioed. Mae hefyd yn sefyll hannaer ffordd rhwng Caernarfon a Phwllheli, ac yn fan strategol ar gyfer newid ceffylau a chael toriad ar y siwrne yn yr hen oes. Erbyn hyn, mae wedi ei droi'n llety hunan-ddarpar ar gyfer grwpiau o hyd at ddau ddwsin o bobl, wedi iddi gau fel gwesty a thafarn y pentref tua 2012, er mai'r un perchnogion sydd i'r adeilad o hyd.
Yn y 19g ac ers o leiaf 1790, Gwesty'r Newborough Arms oedd enw'r dafarn; hynny'n adlewyrchu'r ffaith mai rhan o Ystad Glynllifon yr Arglwydd Newborough oedd y dafarn.[1] Ar fap Ordnans 1888, ceir yr hen enw, ond erbyn map diweddarach a dirfesurwyd ym 1899, ceir yr enw "St Beuno's Hotel".[2] Ar adeg cynharach, cyfeiria Eben Fardd at y lle fel "Tafarn y Plas".[3]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Archifdy Caernarfon, XD2/7270
- ↑ Mapiau Ordnans 6" i'r filltir, golygyddiadau 1888 a 1901
- ↑ Gweler yr erthygl ar Ffeiriau Clynnog Fawr.