Gwesty'r Beuno: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''Gwesty'r Beuno''' yn hen dafarn yn dyddio o oes y coets fawr yng nghanol pentref Clynnog Fawr, ac yn wir dywedir fod rhannau o'r adeilad yn myn...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Gwesty'r Beuno''' yn hen dafarn yn dyddio o oes y coets fawr yng nghanol pentref [[Clynnog Fawr]], ac yn wir dywedir fod rhannau o'r adeilad yn mynd yn ôl i'r 16g. Dichon hefyd bod llety o ryw fath wedi bod yng Nghlynnog ers cyfnod y pererindota i Enlli, gan fod [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr]] wedi bod yn gyrchfan i bererinion erioed. Mae hefyd yn sefyll hannaer ffordd rhwng Caernarfon a Phwllheli, ac yn fan strategol ar gyfer newid ceffylau a chael toriad ar y siwrne yn yr hen oes. Erbyn hyn, mae wedi ei droi'n llety hunan-ddarpar ar gyfer grwpiau o hyd at ddau ddwsin o bobl.
Mae '''Gwesty'r Beuno''' yn hen dafarn yn dyddio o oes y coets fawr yng nghanol pentref [[Clynnog Fawr]], ac yn wir dywedir fod rhannau o'r adeilad yn mynd yn ôl i'r 16g. Dichon hefyd bod llety o ryw fath wedi bod yng Nghlynnog ers cyfnod y pererindota i Enlli, gan fod [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr]] wedi bod yn gyrchfan i bererinion erioed. Mae hefyd yn sefyll hannaer ffordd rhwng Caernarfon a Phwllheli, ac yn fan strategol ar gyfer newid ceffylau a chael toriad ar y siwrne yn yr hen oes. Erbyn hyn, mae wedi ei droi'n llety hunan-ddarpar ar gyfer grwpiau o hyd at ddau ddwsin o bobl, wedi iddi gau fel gwesty a thafarn y pentref tua 2012, er mai'r un perchnogion sydd i'r adeilad o hyd.
 
Yn y 19g., Gwesty'r Newborough Arms oedd enw'r dafarn; hynny'n adlewyrchu'r ffaith mai rhan o [[Ystad Glynllifon]] yr [[Arglwydd Newborough]] oedd y dafarn. Ar fap Ordnans 1888, ceir yr hen enw, ond erbyn map diweddarach a dirfesurwyd ym 1899, ceir yr enw "St Beuno's Hotel".<ref>Mapiau Ordnans 6" i'r filltir, golygyddiadau 1888 a 1901</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Fersiwn yn ôl 13:03, 22 Ionawr 2021

Mae Gwesty'r Beuno yn hen dafarn yn dyddio o oes y coets fawr yng nghanol pentref Clynnog Fawr, ac yn wir dywedir fod rhannau o'r adeilad yn mynd yn ôl i'r 16g. Dichon hefyd bod llety o ryw fath wedi bod yng Nghlynnog ers cyfnod y pererindota i Enlli, gan fod Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr wedi bod yn gyrchfan i bererinion erioed. Mae hefyd yn sefyll hannaer ffordd rhwng Caernarfon a Phwllheli, ac yn fan strategol ar gyfer newid ceffylau a chael toriad ar y siwrne yn yr hen oes. Erbyn hyn, mae wedi ei droi'n llety hunan-ddarpar ar gyfer grwpiau o hyd at ddau ddwsin o bobl, wedi iddi gau fel gwesty a thafarn y pentref tua 2012, er mai'r un perchnogion sydd i'r adeilad o hyd.

Yn y 19g., Gwesty'r Newborough Arms oedd enw'r dafarn; hynny'n adlewyrchu'r ffaith mai rhan o Ystad Glynllifon yr Arglwydd Newborough oedd y dafarn. Ar fap Ordnans 1888, ceir yr hen enw, ond erbyn map diweddarach a dirfesurwyd ym 1899, ceir yr enw "St Beuno's Hotel".[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Mapiau Ordnans 6" i'r filltir, golygyddiadau 1888 a 1901