C.H. Darbishire: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 6: | Llinell 6: | ||
[[Categori:Pobl]] | [[Categori:Pobl]] | ||
[[Categori:Asiantwyr a rheolwyr chwareli]] | [[Categori:Asiantwyr a rheolwyr chwareli]] | ||
[[Categori:Peirianwyr]] |
Fersiwn yn ôl 14:19, 21 Ionawr 2021
Roedd y Cyrnol Charles Henry Darbishire yn un o reolwyr a pherchnogion Cwmni Penmaenmawr ac Ithfaen Cymreig Cyf. Bu cysylltiad clos rhwng chwareli Penmaenmawr ac ardal Trefor ers i Samuel Holland agor Chwarel Gwylwyr yn y 1830au cynnar, gan gyflogi gweithwyr o chwareli Penmaenmawr ar y dechrau. Ym 1878, cymerodd teulu Darbishire chwareli Penmaenmawr drosodd wrth iddynt brynu Ystad Pendyffryn, Dwygyfylchi. Cymerodd y Cyrnol C. H. Darbishire y swydd o reolwr y chwarel. Roedd ganddo gymwysterau priodol gan ei fod wedi bod yn brentis Peirianneg Sifil gyda'r cwmni a oedd yn adeiladu Rheilffordd Mynydd Genis rhwng Ffrainc a'r eidal. Cynyddodd gweithgaredd y chwareli o'r flwyddyn honno; roedd dwwy chwarel gan y teulu: Graiglwyd, neu'r Hen Chwarel dan Darbishire ei hun, a Chwarel Penmaenmawr yn parhau â'i gwmni ei hun hyd nes 1911 pan ffurfiwyd cwmni newydd ar gyfer chwareli ithfaen Penmaenmawr a Threfor, sef y Penmaenmawr & Welsh Granite Co. Ltd, dan gadeiryddiaeth y Cyrnol Darbishire hyd ei farwolaeth ym 1929.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Haydn Mather, rhagymadrodd i restr o ddogfennau Chwarel Penmaenmawr, 2007