Garn Ganol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''Garn Ganol''' yw'r mynydd rhwng dau gopa arall Yr Eifl.'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
'''Garn Ganol''' yw'r mynydd rhwng dau gopa arall [[Yr Eifl]].
'''Garn Ganol''' yw'r mynydd rhwng dau gopa arall [[Yr Eifl]]. Hwn yw'r uchaf o'r tri chopa, yn mesur uchder o 561 metr (1841 troedfedd). Enwau eraill arno yw Marchog a Mynydd Canol. Ar ei ochr ogleddol gwelir braich yn ymestyn o wyneb y mynydd - Braich y Cwm. Enw arall arni yw Trwyn Brân. Ond, meddir, pig sydd gan frân ac nid trwyn! Y dehongliad cywir yw mai cyfeiriad ydi hwn at [[Bendigeidfran]], cawr [[Y Mabinogi]], neu Brân fel y'i gelwid, a bod y Fraich yn edrych fel trwyn y cawr yn torri'r ewyn wrth gerdded am Harlech trwy Fôr Iwerddon. Saif yr Eifl ar gyrion bro'r Mabinogi (yn bennaf ym mhlwyfi [[Clynnog-fawr]], [[Llandwrog]] a [[Llanllyfni]]), a 'rhywle' ym mhlygion y mynydd mae Ogof yr Ellyllon o ble y cipiwyd y memrwn pwysig gan [[Cilmin Droed-ddu]]. Gelwir y nant sy'n llifo o Graig y Cwm i [[Afon Tâl]] yn [[Nant Cilmin]], a dywedir fod ôl troed Cilmin i'w weld ar wely'r nant nid nepell o furddun Nant-y-cwm.<ref>Mary Hughes, pennod 'Cipio Cyfoeth', ''Ellyll Hyll a Ballu'' (Clynnog-fawr, 2008) tt.1-12.</ref> 
 
{{eginyn}}
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Mynyddoedd]]
[[Categorei:Chwedloniaeth]]

Fersiwn yn ôl 10:26, 10 Ionawr 2021

Garn Ganol yw'r mynydd rhwng dau gopa arall Yr Eifl. Hwn yw'r uchaf o'r tri chopa, yn mesur uchder o 561 metr (1841 troedfedd). Enwau eraill arno yw Marchog a Mynydd Canol. Ar ei ochr ogleddol gwelir braich yn ymestyn o wyneb y mynydd - Braich y Cwm. Enw arall arni yw Trwyn Brân. Ond, meddir, pig sydd gan frân ac nid trwyn! Y dehongliad cywir yw mai cyfeiriad ydi hwn at Bendigeidfran, cawr Y Mabinogi, neu Brân fel y'i gelwid, a bod y Fraich yn edrych fel trwyn y cawr yn torri'r ewyn wrth gerdded am Harlech trwy Fôr Iwerddon. Saif yr Eifl ar gyrion bro'r Mabinogi (yn bennaf ym mhlwyfi Clynnog-fawr, Llandwrog a Llanllyfni), a 'rhywle' ym mhlygion y mynydd mae Ogof yr Ellyllon o ble y cipiwyd y memrwn pwysig gan Cilmin Droed-ddu. Gelwir y nant sy'n llifo o Graig y Cwm i Afon Tâl yn Nant Cilmin, a dywedir fod ôl troed Cilmin i'w weld ar wely'r nant nid nepell o furddun Nant-y-cwm.[1]

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

Categorei:Chwedloniaeth

  1. Mary Hughes, pennod 'Cipio Cyfoeth', Ellyll Hyll a Ballu (Clynnog-fawr, 2008) tt.1-12.