Cored Beuno: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Mae '''Gored Beuno''' yn gasgliad o gerrig mawr yn y môr, sy'n ymddangos ar gyfnodau o drai, tua 400 metr oddi ar y lan gyferbyn â phentref [[Clynnog Fawr]] a [[Porth Clynnog|Phorth Clynnog]]. Y gred oedd bod Beuno wedi | Mae '''Gored Beuno''' yn gasgliad o gerrig mawr yn y môr, sy'n ymddangos ar gyfnodau o drai, tua 400 metr oddi ar y lan gyferbyn â phentref [[Clynnog Fawr]] a [[Porth Clynnog|Phorth Clynnog]]. Y gred oedd bod Beuno, a mynaich ei glas (neu abaty) yng Nghlynnog, wedi adeiladu cored, neu drap, i ddal pysgod yno a bod lefel y môr, pan oedd ef yn fyw, yn sylweddol is nag ydyw heddiw, fel yr oedd modd iddo gyrraedd y gored a dal pysgod yno. | ||
Ystyr ''cored'' yw clawdd cerrig (neu wiail weithiau) ar ffurf lleuad newydd i ddal pysgod. Deuai'r pysgod i mewn gyda'r llanw, ac wrth i'r llanw droi nid oedd modd iddynt ddianc, a chaent eu dal yn y pyllau y tu ôl i'r goredau. Fe'u defnyddid yn aml yn y Canol Oesoedd. Mae sawl enghraifft o hyd i'w gweld ar lannau'r Fenai; er enghraifft, wrth Ynys Gored Goch ger Pont Britannia. Mae olion coredau i'w gweld yn y môr oddi ar arfordir Ceredigion hefyd - Aber-arth yn arbennig - a chysylltir y rhain â mynaich Ystrad Fflur. Yn aml, fe'u cysylltir â safleoedd crefyddol gan fod pysgod yn rhan bwysig o fwyd offeiriaid a mynaich ar ddyddiau ympryd. | |||
Ceir englyn gan Eben Fardd (nid un o’r rai gorau mae’n rhaid cyfaddef) yn sôn am fynaich Beuno yn mynd am y gored i geisio pryd neu ddau o bysgod: | |||
Rhai a geir tua’r ‘Gored’, - am bysgod | |||
I ymmbesgi’n myned; | |||
Ond yr hwyr dyr i waered, | |||
I ado y ‘Cryw’ am dy Gred. | |||
(Yr un yw ystyr "cryw" a "gored") | |||
{{eginyn}} | {{eginyn}} |
Fersiwn yn ôl 15:47, 7 Ionawr 2021
Mae Gored Beuno yn gasgliad o gerrig mawr yn y môr, sy'n ymddangos ar gyfnodau o drai, tua 400 metr oddi ar y lan gyferbyn â phentref Clynnog Fawr a Phorth Clynnog. Y gred oedd bod Beuno, a mynaich ei glas (neu abaty) yng Nghlynnog, wedi adeiladu cored, neu drap, i ddal pysgod yno a bod lefel y môr, pan oedd ef yn fyw, yn sylweddol is nag ydyw heddiw, fel yr oedd modd iddo gyrraedd y gored a dal pysgod yno.
Ystyr cored yw clawdd cerrig (neu wiail weithiau) ar ffurf lleuad newydd i ddal pysgod. Deuai'r pysgod i mewn gyda'r llanw, ac wrth i'r llanw droi nid oedd modd iddynt ddianc, a chaent eu dal yn y pyllau y tu ôl i'r goredau. Fe'u defnyddid yn aml yn y Canol Oesoedd. Mae sawl enghraifft o hyd i'w gweld ar lannau'r Fenai; er enghraifft, wrth Ynys Gored Goch ger Pont Britannia. Mae olion coredau i'w gweld yn y môr oddi ar arfordir Ceredigion hefyd - Aber-arth yn arbennig - a chysylltir y rhain â mynaich Ystrad Fflur. Yn aml, fe'u cysylltir â safleoedd crefyddol gan fod pysgod yn rhan bwysig o fwyd offeiriaid a mynaich ar ddyddiau ympryd.
Ceir englyn gan Eben Fardd (nid un o’r rai gorau mae’n rhaid cyfaddef) yn sôn am fynaich Beuno yn mynd am y gored i geisio pryd neu ddau o bysgod:
Rhai a geir tua’r ‘Gored’, - am bysgod I ymmbesgi’n myned;
Ond yr hwyr dyr i waered,
I ado y ‘Cryw’ am dy Gred.
(Yr un yw ystyr "cryw" a "gored")
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma