Tai Elen Glynn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Tai Elen Glynn''' yn elusendai yn [[Llandwrog]], nid nepell o fferm Cefn Hengwrt. Mae'r adeilad presennol yn weddol fodern, er i'r hen elusendai fod ar yr un safle.
Mae '''Tai Elen Glynn''' yn elusendai yn [[Llandwrog]], nid nepell o fferm Cefn Hengwrt. Mae'r adeilad presennol yn weddol fodern, er i'r hen elusendai fod ar yr un safle.


Fe'u sefydlwyd gan ewyllys [[Ellen Glynn, Bryn Gwydion]]. Bu i Ellen Glynn farw, mae'n debyg, yn ddibriod, ym 1733 ac iddi yn ei hewyllys ddyddiedig 31 Mawrth 1727, adael rhan helaeth o’i hystâd, sef rhannau o [[Eithinog Wen]] a thir Plas Newydd, er mwyn adeiladu elusendai ar gyfer deuddeg o ferched bonheddig a oedd mewn sefyllfa anffodus, megis diffyg arian neu oedd ag angen edrych ar eu hôl.<ref>J. Jones (Llanllyfni), ''Carn y Gewach'', yn ''Y Brython'', 16 Gorffennaf 1858, t.89</ref> Yn ei geiriau hi, roedd y preswylwyr i fod yn "merched bonheddig dibriod ac bregus ("decayed" yn y gwreiddiol) ac yn hŷn na 50 mlwydd oed" ac roedd blaeoriaeth i'w rhoi i ferched oedd yn perthyn i'w theulu.<ref>''A to Z of Westminster Abbey'', Gwefan Abaty San Steffan, [https://www.westminster-abbey.org/abbey-commemorations/commemorations/ellen-glynne], cyrchwyd 31.12.2020</ref>  Mae'n ymddangos ei bod hi'n ofynnol i offeiriad y plwyf ddweud gweddïau yn yr elusendai bedair gwaith y flwyddyn, ar Ŵyl San Steffan, Gŵyl Fair, Gŵyl Sant Ioan Fedyddiwr a Gŵyl Sant Mihangel.<ref>Archifdy Caernarfon, Cofrestr plwyf Llandwrog, 1734-1767</ref>
Fe'u sefydlwyd gan ewyllys [[Ellen Glynn, Bryn Gwydion]]. Bu i Ellen Glynn farw, mae'n debyg, yn ddibriod, ym 1733. Yn ei hewyllys ddyddiedig 31 Mawrth 1727, bu iddi adael rhan helaeth o’i hystâd, sef rhannau o [[Eithinog Wen]] a thir Plas Newydd, er mwyn adeiladu elusendai ar gyfer deuddeg o ferched bonheddig a oedd mewn sefyllfa anffodus, megis diffyg arian neu oedd ag angen edrych ar eu hôl.<ref>J. Jones (Llanllyfni), ''Carn y Gewach'', yn ''Y Brython'', 16 Gorffennaf 1858, t.89</ref> Yn ei geiriau hi, roedd y preswylwyr i fod yn "merched bonheddig dibriod ac bregus ("decayed" yn y gwreiddiol) ac yn hŷn na 50 mlwydd oed" ac roedd blaeoriaeth i'w rhoi i ferched oedd yn perthyn i'w theulu.<ref>''A to Z of Westminster Abbey'', Gwefan Abaty San Steffan, [https://www.westminster-abbey.org/abbey-commemorations/commemorations/ellen-glynne], cyrchwyd 31.12.2020</ref>  Mae'n ymddangos ei bod hi'n ofynnol i offeiriad y plwyf ddweud gweddïau yn yr elusendai bedair gwaith y flwyddyn, ar Ŵyl San Steffan, Gŵyl Fair, Gŵyl Sant Ioan Fedyddiwr a Gŵyl Sant Mihangel.<ref>Archifdy Caernarfon, Cofrestr plwyf Llandwrog, 1734-1767</ref>


Erbyn 1840, pan wnaethpwyd map o'r plwyf er mwyn pennu rhent y degwm, yr oedd 12 bwythyn ar gyfer pobl dlawd yno, gyda David Williams (sef ficer y plwyf, mae'n debyg) ac ymddiriedolwyr eraill yn gyfrifol amdanynt. Mary Jones oedd enw un o'r preswylwyr.<ref>LLGC, Map a Rhestr Bennu'r Degwm ar gyfer plwyf Llandwrog [https://lleoedd.llyfrgell.cymru/search/53.071/-4.309/14?alt=&page=1&refine=&query=Llandwrog&order=desc&sort=score&rows=100&leaflet-base-layers_92=on]</ref>
Erbyn 1840, pan wnaethpwyd map o'r plwyf er mwyn pennu rhent y degwm, yr oedd 12 bwythyn ar gyfer pobl dlawd yno, gyda David Williams (sef ficer y plwyf, mae'n debyg) ac ymddiriedolwyr eraill yn gyfrifol amdanynt. Mary Jones oedd enw un o'r preswylwyr.<ref>LLGC, Map a Rhestr Bennu'r Degwm ar gyfer plwyf Llandwrog [https://lleoedd.llyfrgell.cymru/search/53.071/-4.309/14?alt=&page=1&refine=&query=Llandwrog&order=desc&sort=score&rows=100&leaflet-base-layers_92=on]</ref>

Fersiwn yn ôl 09:38, 2 Ionawr 2021

Mae Tai Elen Glynn yn elusendai yn Llandwrog, nid nepell o fferm Cefn Hengwrt. Mae'r adeilad presennol yn weddol fodern, er i'r hen elusendai fod ar yr un safle.

Fe'u sefydlwyd gan ewyllys Ellen Glynn, Bryn Gwydion. Bu i Ellen Glynn farw, mae'n debyg, yn ddibriod, ym 1733. Yn ei hewyllys ddyddiedig 31 Mawrth 1727, bu iddi adael rhan helaeth o’i hystâd, sef rhannau o Eithinog Wen a thir Plas Newydd, er mwyn adeiladu elusendai ar gyfer deuddeg o ferched bonheddig a oedd mewn sefyllfa anffodus, megis diffyg arian neu oedd ag angen edrych ar eu hôl.[1] Yn ei geiriau hi, roedd y preswylwyr i fod yn "merched bonheddig dibriod ac bregus ("decayed" yn y gwreiddiol) ac yn hŷn na 50 mlwydd oed" ac roedd blaeoriaeth i'w rhoi i ferched oedd yn perthyn i'w theulu.[2] Mae'n ymddangos ei bod hi'n ofynnol i offeiriad y plwyf ddweud gweddïau yn yr elusendai bedair gwaith y flwyddyn, ar Ŵyl San Steffan, Gŵyl Fair, Gŵyl Sant Ioan Fedyddiwr a Gŵyl Sant Mihangel.[3]

Erbyn 1840, pan wnaethpwyd map o'r plwyf er mwyn pennu rhent y degwm, yr oedd 12 bwythyn ar gyfer pobl dlawd yno, gyda David Williams (sef ficer y plwyf, mae'n debyg) ac ymddiriedolwyr eraill yn gyfrifol amdanynt. Mary Jones oedd enw un o'r preswylwyr.[4]

Tua 1890, yr oedd yr elusendai mewn cyflwr gwael, a chodwyd adeilad newydd ar yr un safle, eto i roi cartref i ddeuddeg o ferched tlawd y plwyf, ac mae'n parhau i gael ei ddefnyddio ar gyfer darparu cartref i hen bobl. Mae'r elusendai ar ffurf sy'n atgoffa rhywun o fynachdy ardal Môr y Canoldir, o gwmpas iard. Cafodd yr adeilad ei ymestyn a'i addasu ym 1960, ac mae'n cael ei weinyddu bellach gan gorff cartrefi lleol.[5]


Cyfeiriadau

  1. J. Jones (Llanllyfni), Carn y Gewach, yn Y Brython, 16 Gorffennaf 1858, t.89
  2. A to Z of Westminster Abbey, Gwefan Abaty San Steffan, [1], cyrchwyd 31.12.2020
  3. Archifdy Caernarfon, Cofrestr plwyf Llandwrog, 1734-1767
  4. LLGC, Map a Rhestr Bennu'r Degwm ar gyfer plwyf Llandwrog [2]
  5. Gwefan COflein, [3], cyrchwyd 2.1.2021