Elernion (tŷ a fferm): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Tŷ sy’n dyddio o’r unfed ganrif ar bymtheg yw '''Elernion''', yn ardal [[Trefor]].
Tŷ sy’n dyddio o’r unfed ganrif ar bymtheg yw '''Elernion''', yn ardal [[Trefor]], er bod neuadd ganoloesol cynharach ar y safle. Mae'r tý presennol wedi moderneiddio'n fawr yn ystod y 20g gan golli llawer o'i nodweddion.
   
Credir i’r adeilad a welir heddiw fod yn estyniad o hen adeilad oedd yno ynghynt, a chafodd ei adeiladu gan Humphrey Evans tua 1590. Dros amser, daeth y lle i ddwylo’r [[Teulu Glynllifon|Glyniaid o Lynllifon]] trwy briodas merch Richard Evans gyda William Glynne yn yr ail ganrif ar bymtheg. Roedd y tŷ hefyd yn rhan o [[Ystad Plas Newydd|ystâd y Glyniaid o Blas Newydd]], ac yna yn perthyn i’r Wyniaid o’r Wern, Penmorfa.
Y ddau deulu amlycaf yn ei hanes yn yr 17g oedd Glyniaid Glynllifon a Bryngwydion a'r Evansiaid, a oedd yn ddisgynyddion teulu stad Talhenbont yn Eifionydd. Cafwyd priodasau buddiol i'r ddwy ochr rhwng y teuluoedd hyn. Bu Richard Evans, Elernion, yn Uchel Siryf Sir Gaernarfon ym 1625 - arwydd sicr o'i statws ymysg yr uchelwyr tiriog. Mae'n bosib mai ef a wnaeth lawer o'r gwaith o ailadeiladu'r hen dŷ neuadd canoloesol yn blasdy carreg cadarn gyda'i simneiau tal a nodweddai dai diwedd y cyfnod Elisabethaidd a dechrau'r cyfnod Stiwartaidd dilynol. Nid oedd gan y Richard Evans hwn fab a phriododd ei unig ferch a'i aeres â William Glynn o Lynllifon, a thrwy'r briodas hon mae'n debyg y llwyddwyd i grynhoi hen drefgordd Elernion yn un stad gryno. Mae'n debyg i William Glynn a'i wraig fyw ym mhlas Elernion ac efallai iddynt ychwanegu at y tŷ. Bu William yn Uchel Siryf ym 1634 a'i fab Richard ym 1665. Fel mwyafrif uchelwyr Sir Gaernarfon mae'n debyg iddynt gefnogi achos y brenin yn Rhyfel Cartref Lloegr, er bod tystiolaeth i filwyr y Weriniaeth fynnu llety yn Elernion ar un adeg - yn groes i ddymuniadau'r perchennog mae bron yn sicr.
Mae’r adeilad hynafol hwn yn dyddio'n ôl cyn belled â’r unfed ganrif ar bymtheg o leiaf.

Roedd [[Elernion (trefgordd)|Elernion]] hefyd yn enw ar un o drefgorddi (neu raniadau) plwyf [[Llanaelhaearn]]. Mae sawl enghraifft yng Ngwynedd o enw hen drefgordd neu dreflan barhau hyd heddiw mewn enw fferm sylweddol. Hefyd, yn achos Elernion, bu'n arfer tan yn weddol ddiweddar ymysg rhai i gyfeirio at ardal Trefor fel 'Elernion'.Ond enw arall am yr ardal, fwy cyffredin, yw 'Hendra'.
Daeth cangen Glyniaid Elernion i ben yn y ddeunawfed ganrif. Yr olaf ohonynt oedd Ellen Glynn, a sefydlodd yr elusendai yn Llandwrog sy'n dwyn ei henw o hyd. Ar ei marwolaeth aeth Elernion yn eiddo i'w chyfnither, Catherine Goodman, a oedd yn ferch i fasnachwr o Fiwmares. Priododd Catherine wedyn â William Wynne o stad Y Wern, Penmorfa. Gosodwyd Elernion i nifer o wahanol denantiaid yn ystod y 18g. Bu Richard Nanney, rheithor Clynnog a phregethwr grymus a oedd yn gwyro at y Methodistiaid, yn byw yno am gyfnod yn nechrau'r 18g ac yn ôl yr Asesiad Treth Tir y tenant ym 1770 oedd un John Griffith. Ym 1785 gwerthwyd Elernion, ynghyd â fferm Penllechog gerllaw (lle roedd hefyd un o felinau'r hen drefgordd), gan stad y Wern i stad y Weirglodd Fawr (Broom Hall yn ddiweddarach), a ddaeth yn un o stadau mwyaf Eifionydd erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. [1]
==Ffynonellau==

[https://www.britishlistedbuildings.co.uk/300004296-elernion-llanaelhaearn Cofnod o’r lle hwn ar wefan ‘British Listed Buildings’.]
Ym 1950 prynwyd fferm Elernion gan Charles S. Darbishire, Plas yr Eifl, Trefor. Penodwyd beiliff i ofalu am y fferm ac, ysywaeth, cafodd yr hen dŷ o'r unfed a'r ail ganrif ar bymtheg ei dynnu i lawr i bob pwrpas a'i foderneiddio'n sylweddol. Ers blynyddoedd bellach mae'r tŷ wedi ei rannu'n ddwy uned ac oddeutu deg mlynedd ar hugain yn ôl daeth y fferm i ben fel uned amaethyddol gyda'r tir yn cael ei rannu a'i werthu i wahanol berchnogion newydd.

[http://www.coflein.gov.uk/cy/site/26427/details/elernion-trevor  Cofnod o’r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol.]
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}

[[Categori: Safleoedd nodedig]]
[[Categori:Ffermydd]]
[[Categori:Safleoedd nodedig]]
[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith]]

Fersiwn yn ôl 10:46, 29 Rhagfyr 2020

Tŷ sy’n dyddio o’r unfed ganrif ar bymtheg yw Elernion, yn ardal Trefor, er bod neuadd ganoloesol cynharach ar y safle. Mae'r tý presennol wedi moderneiddio'n fawr yn ystod y 20g gan golli llawer o'i nodweddion.

Cyfeiriadau