Walter S. Jones (Gwallter Llyfnwy): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Walter Sylvanus Jones''' (Gwallter Llyfni - neu Llyfnwy ar brydiau) (1883 - 1932) yn fardd gwlad, llenor, hynafiaethydd a hanesydd lleol, yn ogystal â cherddor.  
Roedd '''Walter Sylvanus Jones''' (Gwallter Llyfni - neu Llyfnwy ar brydiau) (1883 - 1932) yn fardd gwlad, llenor, hynafiaethydd a hanesydd lleol, yn ogystal â cherddor.  


Ym [[Pant-glas|Mhant-glas]] y ganed ef ond symudodd y teulu'n ddiweddarach i Coed Cae Newydd (Coecia ar lafar) yn [[Llanllyfni]], ac wedi marw ei rieni symudodd ef a'i frawd i'r Felin yn Llanllyfni, lle treuliodd grynswth ei oes. Yna, ym 1930, ddwy flynedd cyn ei farw annhymig, symudodd i dŷ ym mhentref [[Pen-y-groes]]. Gadawodd yr ysgol yn bedair ar ddeg oed a'i brentisio'n saer coed. Yn ddyn ifanc treuliodd rai blynyddoedd yn gweithio yn Ne Cymru, ac roedd ym mhwll glo Senghennydd pan fu'r danchwa enbyd yno ym 1913. Treuliodd ddwy flynedd yn y fyddin o 1916 tan 1918 pryd y cafodd ei wenwyno gan nwy. Effeithiodd hynny'n sylweddol arno a bu'n fregus ei iechyd weddill ei oes.  
Ym [[Pant-glas|Mhant-glas]] y ganed ef ond symudodd y teulu'n ddiweddarach i Coed Cae Newydd (Coecia ar lafar) yn [[Llanllyfni]], ac wedi marw ei rieni symudodd ef a'i frawd i'r [[Melin Llanllyfni|Felin yn Llanllyfni]], lle treuliodd grynswth ei oes. Yna, ym 1930, ddwy flynedd cyn ei farw annhymig, symudodd i dŷ ym mhentref [[Pen-y-groes]]. Gadawodd yr ysgol yn bedair ar ddeg oed a'i brentisio'n saer coed. Yn ddyn ifanc treuliodd rai blynyddoedd yn gweithio yn Ne Cymru, ac roedd ym mhwll glo Senghennydd pan fu'r danchwa enbyd yno ym 1913. Treuliodd ddwy flynedd yn y fyddin o 1916 tan 1918 pryd y cafodd ei wenwyno gan nwy. Effeithiodd hynny'n sylweddol arno a bu'n fregus ei iechyd weddill ei oes.  


Roedd gan Wallter Llyfni lais bariton cyfoethog a byddai'n cystadlu'n rheolaidd mewn eisteddfodau fel unawdydd ac fel deuawdydd gyda Dafydd ei frawd. Am gyfnod sylweddol bu'n cyfrannu colofn gerddorol i bapur newydd ''Y Dinesydd Cymreig'' dan y ffugenw Largo, a chyfrannai'n achlysurol i ''Y Cerddor Newydd'' dan olygyddiaeth W.S. Gwynn Williams. Gwelid ei waith yn ogystal yn rhai o gylchgronau amlycaf y dydd, megis ''Yr Haul'', ''Y Llan'',''Y Brython'', ''Y Llenor'' a'r ''Ford Gron''. Cafodd ei urddo â'r enw barddol Gwallter Llyfnwy yn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli, er mai enw gwneud ar [[Afon Llyfni]] a fabwysiadwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yw "Llyfnwy" mewn gwirionedd. Dewisodd alw'i hun yn Gwallter Llyfni yn ddiweddarach, ond glynodd rhai at y "Llyfnwy" wrth gyfeirio ato.
Roedd gan Wallter Llyfni lais bariton cyfoethog a byddai'n cystadlu'n rheolaidd mewn eisteddfodau fel unawdydd ac fel deuawdydd gyda Dafydd ei frawd. Am gyfnod sylweddol bu'n cyfrannu colofn gerddorol i bapur newydd ''Y Dinesydd Cymreig'' dan y ffugenw Largo, a chyfrannai'n achlysurol i ''Y Cerddor Newydd'' dan olygyddiaeth W.S. Gwynn Williams. Gwelid ei waith yn ogystal yn rhai o gylchgronau amlycaf y dydd, megis ''Yr Haul'', ''Y Llan'',''Y Brython'', ''Y Llenor'' a'r ''Ford Gron''. Cafodd ei urddo â'r enw barddol Gwallter Llyfnwy yn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli, er mai enw gwneud ar [[Afon Llyfni]] a fabwysiadwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yw "Llyfnwy" mewn gwirionedd. Dewisodd alw'i hun yn Gwallter Llyfni yn ddiweddarach, ond glynodd rhai at y "Llyfnwy" wrth gyfeirio ato.

Fersiwn yn ôl 16:27, 13 Rhagfyr 2020

Roedd Walter Sylvanus Jones (Gwallter Llyfni - neu Llyfnwy ar brydiau) (1883 - 1932) yn fardd gwlad, llenor, hynafiaethydd a hanesydd lleol, yn ogystal â cherddor.

Ym Mhant-glas y ganed ef ond symudodd y teulu'n ddiweddarach i Coed Cae Newydd (Coecia ar lafar) yn Llanllyfni, ac wedi marw ei rieni symudodd ef a'i frawd i'r Felin yn Llanllyfni, lle treuliodd grynswth ei oes. Yna, ym 1930, ddwy flynedd cyn ei farw annhymig, symudodd i dŷ ym mhentref Pen-y-groes. Gadawodd yr ysgol yn bedair ar ddeg oed a'i brentisio'n saer coed. Yn ddyn ifanc treuliodd rai blynyddoedd yn gweithio yn Ne Cymru, ac roedd ym mhwll glo Senghennydd pan fu'r danchwa enbyd yno ym 1913. Treuliodd ddwy flynedd yn y fyddin o 1916 tan 1918 pryd y cafodd ei wenwyno gan nwy. Effeithiodd hynny'n sylweddol arno a bu'n fregus ei iechyd weddill ei oes.

Roedd gan Wallter Llyfni lais bariton cyfoethog a byddai'n cystadlu'n rheolaidd mewn eisteddfodau fel unawdydd ac fel deuawdydd gyda Dafydd ei frawd. Am gyfnod sylweddol bu'n cyfrannu colofn gerddorol i bapur newydd Y Dinesydd Cymreig dan y ffugenw Largo, a chyfrannai'n achlysurol i Y Cerddor Newydd dan olygyddiaeth W.S. Gwynn Williams. Gwelid ei waith yn ogystal yn rhai o gylchgronau amlycaf y dydd, megis Yr Haul, Y Llan,Y Brython, Y Llenor a'r Ford Gron. Cafodd ei urddo â'r enw barddol Gwallter Llyfnwy yn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli, er mai enw gwneud ar Afon Llyfni a fabwysiadwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yw "Llyfnwy" mewn gwirionedd. Dewisodd alw'i hun yn Gwallter Llyfni yn ddiweddarach, ond glynodd rhai at y "Llyfnwy" wrth gyfeirio ato.

Cyfansoddodd lawer o gerddi (nifer dda ohonynt ar bynciau lleol) yn ystod ei oes a chasglodd dorreth o ddeunydd ar hynafiaethau a hanes lleol gan eu teipio'n drefnus a'u rhwymo'n gyfrolau. Fodd bynnag, ar wahân i'w erthyglau mewn papurau newydd a chylchgronau, ni lwyddodd i gyhoeddi unrhyw lyfrau o'i waith er ei holl lafur yn casglu'r deunyddiau a rhoi trefn arnynt. Nid oedd cyhoeddwyr yng nghyfnod llwm y 1920au a'r 30au yn fodlon mentro eu cyhoeddi ac nid oedd gan Wallter yntau yr arian i ariannu'r gwaith na noddwyr i roi cymorth iddo. Bu cael ei wrthod sawl gwaith gan gyhoeddwyr amlwg y dydd yn siom eithriadol iddo. Siom fawr arall iddo oedd na lwyddwyd i atgyfodi'r cylchgrawn Y Llwyfan. Penodwyd Gwallter yn olygydd arno ym 1930 ond, o ddiffyg arian, ni lwyddwyd i fwrw ymlaen â'r fenter.

Ac yntau'n dioddef oddi wrth anhwylderau'r frest, cododd dŷ ha' bach pren iddo'i hun ar lan y môr o dan fferm Tŷ Coch rhwng Clynnog-fawr ac Aberdesach a deuai yno ar gyfnodau yn ystod blynyddoedd olaf ei oes i fwynhau gwynt y môr. "Y Nyth" oedd enw'r caban pren (sydd wedi llwyr ddiflannu ers blynyddoedd) ac oddi yno y cyfeiriodd Gwallter rai o'i lythyrau at ei gyfaill Carneddog - y cyfeirir atynt isod.

Roedd Gwallter Llyfni'n sosialydd o genedlaetholwr. Pan sefydlwyd Byddin Ymreolaeth Cymru ym 1921 fe'i hetholwyd yn llywydd. Bu'n drefnydd i'r Blaid Lafur ym Môn am gyfnod, ond ym 1930 ymgeisiodd am swydd trefnydd y Blaid Genedlaethol, a sefydlwyd bum mlynedd ynghynt adeg Eisteddfod Pwllheli. Roedd yn hynod frwd dros ddarparu gwaith llenorion gwerinol yn rhad i'r werin a gellir ei ystyried yn genedlaetholwr diwylliannol yn bennaf. Roedd yn casau'r arweinwyr sefydliadol hynny a ddibrisiai ddiwylliant gwerin a deuai rhai o fawrion yr Eisteddfod Genedlaethol dan ei lach yn aml.

Anfarwolwyd Gwallter yn anad dim yng ngherdd enwogR. Williams Parry, "Yr Hen Gantor" [1], ac o dan deitl y gerdd honno mae R. Williams Parry yn nodi fel a ganlyn - Ffyddlondeb i'w gyfeillion, a hunan-dyb diniwed, oedd ei nodweddion amlycaf. Ac mae atgofion Hywel D. Roberts amdano yn werth eu croniclo:

Un o gymeriadau lliwgar Llanllyfni oedd Walter S. Jones (Gwallter Llyfnwy). Cof plentyn sy gen i amdano yn yr eisteddfodau - gŵr digon mawreddog, het fawr fel artist, wyneb tenau dyn gwael a rhyw stori fod ganddo gwt ar lan y môr tua Chlynnog i fynd am awyr iach i helpu ei iechyd bregus ... [2]

Do, fe lithrodd Gwallter Llyfni i anghofrwydd i raddau helaeth am flynyddoedd lawer, ond yn 2010 fe wnaeth Dr Bleddyn Owen Huws gymwynas fawr drwy gyhoeddi'r gyfrol Diflanedig Fyd: Gohebiaeth Carneddog a Gwallter Llyfni, 1926-1932.. Yn y gyfrol honno ceir Rhagymadrodd cynhwysfawr, (a phriodol yw cydnabod dibyniaeth y sylwadau uchod ar y rhagymadrodd hwnnw), yn ogystal â 95 o lythyrau ar amryfal bynciau yr anfonodd Gwallter a Charneddog (Richard Griffith 1861 - 1947) at ei gilydd. Yn y llythyrau hynny daw'r ddau fardd, hynafiaethydd a sylwedyddion craff hyn ar y byd a'i bethau yn fyw o flaen ein llygaid unwaith eto, ac i'r neb a fyn wybod mwy am y ddau gymeriad hynod yma, mae'r llythyrau hyn yn werth eu darllen. Beth bynnag, maent yn rhoi mesur o anfarwoldeb i Wallter Llyfni, gŵr a brofodd yn helaeth o helbulon a siomedigaethau bywyd, fel y noda Bleddyn Owen Huws:

Anelai'n uchel ond methai â chyrraedd y nod. Nid o ddiffyg ymdrech, mae'n sicr, ond oherwydd fod amgylchiadau yn ei erbyn. Bu farw flwyddyn cyn cyrraedd ei hanner cant oed. Y cyfan a erys heddiw i'w anfarwoli yw'r cyfrolau teipiedig a baratôdd ar gyfer y wasg sydd ymhlith ei bapurau anghofiedig yn Archifdy Prifysgol Bangor. [3] 

Cyfeiriadau

[[cyfeiriadau]

  1. R. Williams Parry, Cerddi'r Gaeaf, (Gwasg Gee, 1952), t.32.
  2. Hywel D. Roberts, Prifardd y Dyffryn - R. Williams Parry, Darlith Flynyddol Llyfrgell Pen-y-groes 1973-74, (Caernarfon, 1974), t.21.
  3. Bleddyn Owen Huws, Diflanedig Fyd: Gohebiaeth Carneddog a Gwallter Llyfni 1926-1932, (Cyhoeddiadau Barddas 2010), t.xxv.