Llanwnda (pentref): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 7: | Llinell 7: | ||
Prif res o dai pentref Llanwnda yw Rhes Gwelfor. Cyn i'r rheiny gael eu codi, safai hen fythynnod digon sâl ar y safle,ar gyfer tlodion anghenus a dderbyniai gymorth y plwyf; Stryd y Glem oedd enw'r ardal ar y rhes honno.<ref>W. Gilbert Williams. ''Moel Tryfan i'r Traeth'', (Pen-y-groes, 1983), t.152</ref> | Prif res o dai pentref Llanwnda yw Rhes Gwelfor. Cyn i'r rheiny gael eu codi, safai hen fythynnod digon sâl ar y safle,ar gyfer tlodion anghenus a dderbyniai gymorth y plwyf; Stryd y Glem oedd enw'r ardal ar y rhes honno.<ref>W. Gilbert Williams. ''Moel Tryfan i'r Traeth'', (Pen-y-groes, 1983), t.152</ref> | ||
Arferai fod dwy dafarn yn y pentref tan ddechrau'r 20g. Yn ogystal â'r Goat, roedd [[Tafarn y Railway]] yr ochr arall i bont y lein | Arferai fod dwy dafarn yn y pentref tan ddechrau'r 20g. Yn ogystal â'r Goat, roedd [[Tafarn y Railway]] yr ochr arall i bont y lein yn gwasanaethu'r ardal. | ||
==Cyfarwyddiadur Llanwnda, 1889-90<ref>''Sutton's Directory of North Wales, 1889-90''</ref>== | ==Cyfarwyddiadur Llanwnda, 1889-90<ref>''Sutton's Directory of North Wales, 1889-90''</ref>== |
Fersiwn yn ôl 10:25, 4 Rhagfyr 2020
Mae pentref Llanwnda, yn wahanol i'r pentrefi eraill yn y cwmwd sy'n rhannu eu henw gyda'r plwyf, tua milltir i ffwrdd o eglwys y plwyf o'r un enw. Mae'r eglwys honno yn sefyll mewn cymuned arall yn y plwyf a elwir heddiw yn Dinas. Gweler yr erthygl ar y plwyf, sef Llanwnda am fanylion eraill. Serch yr enw modern, dichon ei fod wedi cael ei fabwysiadu oherwydd dyna enw'r orsaf, a alwyd yn y lle cyntaf yn "Pwllheli Road". Ymddengys fodd bynnag mai'r enw gwreiddiol ar y casgliad bach o dai yn y lleoliad yma oedd "Graeanfryn".[1]
Tyfodd gasgliad o dai ar ochr lôn Pwllheli gyferbyn â'r orsaf a enwyd yn 'Llanwnda' yn niwedd y 19g, ac 'roedd Swyddfa Bost a iard lo yn agored tan ychydig flynyddoedd yn ôl. Bu tafarn boblogaidd iawn yno hefyd, sef Y Goat tan yn bur ddiweddar. Tua 200 lath ar ochr Caernarfon i'r pentref roedd Ysgoldy Graeanfryn (MC) a godwyd gan y Methodistiaid Calfinaidd. Chwalwyd yr adeilad wrth ledu'r ffordd ac mae plac sy'n dynodi'r lle wedi ei osod ar y wal wrth y gylchfan.
Prif res o dai pentref Llanwnda yw Rhes Gwelfor. Cyn i'r rheiny gael eu codi, safai hen fythynnod digon sâl ar y safle,ar gyfer tlodion anghenus a dderbyniai gymorth y plwyf; Stryd y Glem oedd enw'r ardal ar y rhes honno.[2]
Arferai fod dwy dafarn yn y pentref tan ddechrau'r 20g. Yn ogystal â'r Goat, roedd Tafarn y Railway yr ochr arall i bont y lein yn gwasanaethu'r ardal.
Cyfarwyddiadur Llanwnda, 1889-90[3]
Mae cyfarwyddiaduron masnach y 19g yn rhoi llawer o ffeirthiau am fasnach yn ein pentrefi a threfi, er i'r rhai cynnar dueddu i ganolbwyntio ar y trefi, gan beidio â rhestru ond y busnesau pwysicaf yn y wlad o'u cwmpas. Mae Cyfarwyddiadur Sutton am 1889-90, fodd bynnag, yn rhoi manylion fesul pentref neu blwyf. Y masnachwyr a restrir yn y llyfr hwnnw ar gyfer pentref Llanwnda yw'r canlynol:
William Griffiths, gwerthwr glo a thafarnwr y Goat Hotel John Jones, tafarnwr y Railway Inn R Williams a'i fab, depo gwagenni rheilffordd
Hefyd fe restrir y canlynol yng ngwaelodion plwyf Llanwnda, er nad yw;r cyfarwyddiadur yn nodi ym mha le yr oedd y busnesau canlynol:
Ellis Davies, groser Evan Evans, siopwr Jane Jones, siopwr
ac mae'n bur sicr yr oedd o leiaf un o siopydd y rhai hyn yn Llanwnda gerllaw'r orsaf.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma