Gorsaf reilffordd Pwllheli Road: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
B Symudodd Heulfryn y dudalen Gorsaf reilffordd Clynnog Road i Gorsaf reilffordd Pwllheli Road heb adael dolen ailgyfeirio
Dim crynodeb golygu
Llinell 4: Llinell 4:
==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}
[[Categori: ]]
[[Categori:Gorsafoedd rheilffordd]]

Fersiwn yn ôl 11:21, 4 Rhagfyr 2020

Clynnog Road oedd enw'r orsaf a sefydlwyd ym 1856 ar Reilffordd Nantlle, pan ddechreuodd y rheolwr newydd, Edward Preston gyhoeddi amserlenni a rhedeg trenau'n unswydd ar gyfer teithwyr - er mai tryciau agored a dynnid gan geffylau oedd y trenau![1] Mabwysiadwyd yr enw gan Rheilffordd Sir Gaernarfon pan agorwyd y lein honno ar yr un llwybr â'r hen Reilffordd Nantlle, ond yn y man fe newidwyd yr enw i Llanwnda. Gwasanaethai'r tai o gwmpas treflan Graeanfryn, ond ei brif ddiben oedd darparu gorsaf ar gyfer ardal ehangach ar hyd y lôn fawr i gyfeiriad Clynnog Fawr - a hyd yn oed Pwllheli (cofier: ni fyddai rheilffordd yn cyrraedd y dref honno tan 1866). Er bod Gorsaf reilffordd Pen-y-groes (Rheilffordd Nantlle) lawn agosed, roedd y tramiau'n symud mor araf fel y byddai'n gynt gadael y trên yma yn hytrach na theithio ymlaen hyd Penygroes - ac mewn oes pan nad oedd gan y rhan fwyaf o bobl ddewis ond cerdded milltiroedd lawer er mwyn teithio o le i le, byddai hyd yn oed "pás" am dair milltir yn cyfrif.

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. JIC Boyd, Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire, Cyf 1, (Oakwood, 1981), t.29