Siop y Groeslon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
{{[[Delwedd:Hen bost y groeslon.jpg|bawd|de|400px|Y siop a gododd John Jones]]
'''Siop y Groeslon''' oedd enw'r siop gyntaf y gwyddys amdani i gael ei chodi yn [[Y Groeslon]], a hynny ym 1856. Gelwir y lle yn ''Hen Bost'' ers blynyddoedd lawer, ac fe saif o hyd (a newydd gael ei hadnewyddu'n llwyr fel tŷ annedd modern) ar ochr yr hen lôn bost rhwng [[Pen-y-groes]] a Chaernarfon.
'''Siop y Groeslon''' oedd enw'r siop gyntaf y gwyddys amdani i gael ei chodi yn [[Y Groeslon]], a hynny ym 1856. Gelwir y lle yn ''Hen Bost'' ers blynyddoedd lawer, ac fe saif o hyd (a newydd gael ei hadnewyddu'n llwyr fel tŷ annedd modern) ar ochr yr hen lôn bost rhwng [[Pen-y-groes]] a Chaernarfon.



Fersiwn yn ôl 12:48, 4 Rhagfyr 2020

{{

Y siop a gododd John Jones

Siop y Groeslon oedd enw'r siop gyntaf y gwyddys amdani i gael ei chodi yn Y Groeslon, a hynny ym 1856. Gelwir y lle yn Hen Bost ers blynyddoedd lawer, ac fe saif o hyd (a newydd gael ei hadnewyddu'n llwyr fel tŷ annedd modern) ar ochr yr hen lôn bost rhwng Pen-y-groes a Chaernarfon.

Fe'i godwyd gan John Jones, Bryn'rodyn fel cartref a busnes, gan ei fod yn ddyn busnes lleol yn ogystal â gweinidog ar Gapel Bryn'rodyn. Ar draws y ffordd wrth ochr y rheilffordd yr oedd iard lo, lle gweithiodd John Jones yn bennaf, tra bod ei wraig, Ellen Jones, yn rhedeg y siop. Mewn cofiant i'r gweinidog, disgrifir y siop fel a ganlyn:

Yr oedd "Siop y Groeslon", fel ei gelwid, yn un gymysg ac amrywiol, yn cyfuno pob math o nwyddau at use gwlad, mewn tê a siwgr; blawd a bara; dill;ad a chlogsiau clasbiau; llestri pren a llestri pridd; snisyn a tybaco; hoelion a sgriws; cyffuriau meddygol dynion ac anifeiliaid; llythyrdy y Llywodraeth, a Mrs. Jones a ofalai am dani yn ei holl ranau, a hyny yn wir ddeheuig.
Yr yr ochr arall i'r ffordd, gyferbyn â'r siop, ceid yr "Iard lô", ac yr hyn y gofalai John Jones. Byddai ynddi drwy y dydd ar adegau prysur, yn mesur ac yn pwyso yr "adamant du" i'w wahanol gwsmeriaid, ac mewn ymddangosiad yn  real coal merchant, os nad yn real collier. Byddai y "cadach gwyn" a arhosai am ei wddf ar ol y Sabboth, a'i wyneb llyfn a diflew, mor ddued a'r gloyn a rawiai i'r clorian.[1]

Fel y tyfodd y pentref yn fwy, agorwyd dros dwsin a hanner o siopau eraill a sawl siop fechan mewn tŷ yn y gymdogaeth (gweler yr erthygl ar Siopau'r Groeslon). Ond parhaodd John Jones i gynnal y siop am flynyddoedd lawer, er gwaethaf iddo golli ei wraig. Aeth hi fel y bostfeistres i gwrdd â thren y post bob bore, ac un bore ym 1886 fe gafodd hi ei tharo gan injan y trên a marwodd o'i hanafiadau. Gan nad oedd John Jones, y pregethwr a'r masnachwr glo, yn gyfarwydd â materion y siop, cafodd gryn trafferth a cholledion.[2]


Cyfeiriadau

  1. John Jones (Pwllheli), John Jones, Brynrodyn (Caernarfon, 1903), t.27
  2. John Jones (Pwllheli), John Jones, Brynrodyn (Caernarfon, 1903), t.88