Tom Huws: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 4: Llinell 4:
Roedd  Y Prifardd '''Tom Huws''' (1910-1992) yn frodor o'r [[Y Groeslon|Groeslon]].
Roedd  Y Prifardd '''Tom Huws''' (1910-1992) yn frodor o'r [[Y Groeslon|Groeslon]].


Wedi gwasanaeth milwrol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, aeth i Gaerdydd i hyfforddi fel athro dan gynllun i hyfforddi'r athrawon ychwanegol oedd eu hangen wedi'r rhyfel. Bu'n athro mewn sawl ysgol, yn cynnwys ysgol gynradd yng Nghaerdydd,<ref>Gwybodaeth oddi wrth Philip Lloyd</ref> cyn symud i Ysgol Glan Clwyd (Y Rhyl, a Llanelwy wedyn) fel athro Cymraeg cyn ymddeol yn 65 oed ym 1971.<ref>Wicipedia, [https://cy.wikipedia.org/wiki/Tom_Huws]; gwybodaeth bersonol</ref> Sawl flwyddyn wedi iddo ymddeol, cyfansoddodd yr englyn canlynol ar gyfer llyfr llofnodion a gynhyrchwyd gan Glan Clwyd:
Cafodd ei eni 25 Mai 1910. Wedi gwasanaeth milwrol yn ystod yr Ail Ryfel Byd,  aeth i'r chwarel i weithio yn gyntaf, ac wedyn i fannau eraill cyn ymgeisio am le yng Ngholeg Harlch, "Coleg yr Ail Gyfle" er mwyn sichau addysg bellach, ac yr oedd yn un o'r ychydig a gafodd le yno. Wedi treulio tymor yno, aeth i Goleg Cyncoed, Gaerdydd i hyfforddi fel athro dan gynllun i hyfforddi'r athrawon ychwanegol oedd eu hangen wedi'r rhyfel. Bu'n athro mewn sawl ysgol, yr un gyntaf oedd Ysgol Gynradd Parc y Rhath yng Nghaerdydd,<ref>Gwybodaeth oddi wrth Philip Lloyd</ref> cyn symud i Ysgol Glan Clwyd (Y Rhyl, a Llanelwy wedyn) ym 1960 fel athro Cymraeg, gan symud i fyw gyda'r teulu i'r Rhyl. Ymddeolodd yn 65 oed ym 1971.<ref>Wicipedia, [https://cy.wikipedia.org/wiki/Tom_Huws]; gwybodaeth bersonol gan ei ferch, Non Huws</ref> Sawl flwyddyn wedi iddo ymddeol, cyfansoddodd yr englyn canlynol ar gyfer llyfr llofnodion a gynhyrchwyd gan Glan Clwyd:


     ''' ''Hiraeth hen athro am Ysgol Glan Clwyd'' '''
     ''' ''Hiraeth hen athro am Ysgol Glan Clwyd'' '''
Llinell 15: Llinell 15:




Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, 1959 am bryddest ar y testun ''Cadwynau'' lle ymdrinodd â dirywiad y gymdeithas a'r cyni wedi i'r chwarel leol yn Nyffryn Nantlle gau:
Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, 1959 am bryddest ar y testun ''Cadwynau'' lle ymdrinodd â dirywiad y gymdeithas a'r cyni wedi i'r chwarel leol yn Nyffryn Nantlle gau. Mewn telegram yn ei longyfarch, geiriau'r Dr Iorwerth Peate oedd "O rebel i rebel".<ref>Gwybodaeth gan ei ferch Non Huws</ref> Mae'r llinellau canlynol yn cyfleu naws y gwaith arobryn:


     Rhynllyd gefnau ar y waliau boliog,
     Rhynllyd gefnau ar y waliau boliog,

Fersiwn yn ôl 12:03, 1 Rhagfyr 2020

Tom Huws ym 1970

Roedd Y Prifardd Tom Huws (1910-1992) yn frodor o'r Groeslon.

Cafodd ei eni 25 Mai 1910. Wedi gwasanaeth milwrol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, aeth i'r chwarel i weithio yn gyntaf, ac wedyn i fannau eraill cyn ymgeisio am le yng Ngholeg Harlch, "Coleg yr Ail Gyfle" er mwyn sichau addysg bellach, ac yr oedd yn un o'r ychydig a gafodd le yno. Wedi treulio tymor yno, aeth i Goleg Cyncoed, Gaerdydd i hyfforddi fel athro dan gynllun i hyfforddi'r athrawon ychwanegol oedd eu hangen wedi'r rhyfel. Bu'n athro mewn sawl ysgol, yr un gyntaf oedd Ysgol Gynradd Parc y Rhath yng Nghaerdydd,[1] cyn symud i Ysgol Glan Clwyd (Y Rhyl, a Llanelwy wedyn) ym 1960 fel athro Cymraeg, gan symud i fyw gyda'r teulu i'r Rhyl. Ymddeolodd yn 65 oed ym 1971.[2] Sawl flwyddyn wedi iddo ymddeol, cyfansoddodd yr englyn canlynol ar gyfer llyfr llofnodion a gynhyrchwyd gan Glan Clwyd:

    Hiraeth hen athro am Ysgol Glan Clwyd 
Pallodd nwyd a'r breuddwydion - ddoe a'i nef,
ni ddaw nôl yr awron;
Daw hiraeth, hiraeth am hon
Alaeth, a chlwyf i'r galon.."[3]



Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, 1959 am bryddest ar y testun Cadwynau lle ymdrinodd â dirywiad y gymdeithas a'r cyni wedi i'r chwarel leol yn Nyffryn Nantlle gau. Mewn telegram yn ei longyfarch, geiriau'r Dr Iorwerth Peate oedd "O rebel i rebel".[4] Mae'r llinellau canlynol yn cyfleu naws y gwaith arobryn:

   Rhynllyd gefnau ar y waliau boliog,
   Stelcian, stilio a sgwrs,
   Sgwrsio am waith. Nid oes gwaith, wrth gwrs!
   Torri eu henwau ddydd Llun, a dydd Gwener,
   Loetran o gwmpas Tŷ'r Crydd a'r Lôn Newydd,
   A gwybod na ddychwel fyth hen lawenydd.[5]
Tom Huws yn cael ei gadeirio. Cynan sydd ar y chwith eithaf

Ymysg ei gerddi, mae soned a gyfansoddodd ar gyfer canmlwyddiant Capel Brynrhos (MC), Y Groeslon, Capel Brynrhos (1880-1980).[6]

Yn genedlaetholwr pybyr, bu'n llafar yn erbyn ymweliad teulu brenhinol Lloegr i'r Eisteddfod y flwyddyn ar ôl iddo gael ei goroni.

Am fideo o Tom Huws yn cael ei goroni, cliciwch yma: [[ [1]]].

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth oddi wrth Philip Lloyd
  2. Wicipedia, [2]; gwybodaeth bersonol gan ei ferch, Non Huws
  3. Ymddangosir yma gyda chaniatâd y teulu
  4. Gwybodaeth gan ei ferch Non Huws
  5. Cyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caernarfon, 1959
  6. Archifdy Gwynedd, XM/6665/74