Tom Huws: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 26: Llinell 26:


[[Delwedd:Coron Tom Huws 2.jpg|bawd|chwith|250px]]
[[Delwedd:Coron Tom Huws 2.jpg|bawd|chwith|250px]]
[[Delwedd:Coron Tom Huws.jpg|bawd|canol|250px]]


Ymysg ei gerddi, mae soned a gyfansoddodd ar gyfer canmlwyddiant [[Capel Brynrhos (MC), Y Groeslon]], ''Capel Brynrhos (1880-1980)''.<ref>Archifdy Gwynedd, XM/6665/74</ref>
Ymysg ei gerddi, mae soned a gyfansoddodd ar gyfer canmlwyddiant [[Capel Brynrhos (MC), Y Groeslon]], ''Capel Brynrhos (1880-1980)''.<ref>Archifdy Gwynedd, XM/6665/74</ref>

Fersiwn yn ôl 11:49, 1 Rhagfyr 2020

Tom Huws ym 1970

Roedd Y Prifardd Tom Huws (1910-1992) yn frodor o'r Groeslon.

Wedi gwasanaeth milwrol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, aeth i Gaerdydd i hyfforddi fel athro dan gynllun i hyfforddi'r athrawon ychwanegol oedd eu hangen wedi'r rhyfel. Bu'n athro mewn sawl ysgol, yn cynnwys ysgol gynradd yng Nghaerdydd,[1] cyn symud i Ysgol Glan Clwyd (Y Rhyl, a Llanelwy wedyn) fel athro Cymraeg cyn ymddeol yn 65 oed ym 1971.[2] Sawl flwyddyn wedi iddo ymddeol, cyfansoddodd yr englyn canlynol ar gyfer llyfr llofnodion a gynhyrchwyd gan Glan Clwyd:

    Hiraeth hen athro am Ysgol Glan Clwyd 
Pallodd nwyd a'r breuddwydion - ddoe a'i nef,
ni ddaw nôl yr awron;
Daw hiraeth, hiraeth am hon
Alaeth, a chlwyf i'r galon.."[3]



Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, 1959 am bryddest ar y testun Cadwynau lle ymdrinodd â dirywiad y gymdeithas a'r cyni wedi i'r chwarel leol yn Nyffryn Nantlle gau:

   Rhynllyd gefnau ar y waliau boliog,
   Stelcian, stilio a sgwrs,
   Sgwrsio am waith. Nid oes gwaith, wrth gwrs!
   Torri eu henwau ddydd Llun, a dydd Gwener,
   Loetran o gwmpas Tŷ'r Crydd a'r Lôn Newydd,
   A gwybod na ddychwel fyth hen lawenydd.[4]

Ymysg ei gerddi, mae soned a gyfansoddodd ar gyfer canmlwyddiant Capel Brynrhos (MC), Y Groeslon, Capel Brynrhos (1880-1980).[5]

Yn genedlaetholwr pybyr, bu'n llafar yn erbyn ymweliad teulu brenhinol Lloegr i'r Eisteddfod y flwyddyn ar ôl iddo gael ei goroni.

Am fideo o Tom Huws yn cael ei goroni, cliciwch yma: [[ [1]]].

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth oddi wrth Philip Lloyd
  2. Wicipedia, [2]; gwybodaeth bersonol
  3. Ymddangosir yma gyda chaniatâd y teulu
  4. Cyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caernarfon, 1959
  5. Archifdy Gwynedd, XM/6665/74