Math fab Mathonwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Math fab Mathonwy''', arglwydd Gwynedd, yn ymddangos yn y chwedl, ''Pedwaredd Gainc y Mabinogi'', sydd wedi'i henwi ar ei ôl. Roedd ei lys yng Nghaer Dathl yn Arfon.  
Mae '''Math fab Mathonwy''', arglwydd [[Gwynedd]], yn ymddangos yn y chwedl, ''Pedwaredd Gainc y Mabinogi'', sydd wedi'i henwi ar ei ôl. Roedd ei lys yng Nghaer Dathl yn Arfon.  

Roedd hynodrwydd arbennig yn perthyn i Math, sef bod rhaid iddo gadw ei draed yng nghôl morwyn (sef yn yr ystyr yma, dynes nad oedd erioed wedi cael rhyw), ac eithrio pan fyddai'n rhaid iddo adael ei lys i fynd i ryfela. Nid oes unrhyw eglurhad yn y chwedl pam roedd rhaid iddo wneud hynny, ond efallai ei fod yn deillio o ryw hen gred bod modd cael grym ac ieuenctid parhaus drwy gysylltiad corfforol o'r fath â gwyryf ifanc. Y gyntaf i gyflawni'r swyddogaeth hon iddo oedd Goewin, ferch Pebin o [[Dyffryn Nantlle|Ddyffryn Nantlleu]], ond cafodd hi ei threisio gan Gilfaethwy, nai i Math, ar ôl i Math gael ei hudo i adael ei lys am mynd i ryfela yn erbyn Pryderi, arglwydd Dyfed. Digwyddodd hynny trwy dwyll ac ystrywiau Gwydion, brawd Gilfaethwy, er mwyn i Gilfaethwy gael cysgu gyda Goewin. Roedd Math yn gynddeiriog gyda nhw ar ôl iddo ddychwelyd o'r rhyfel, a gostiodd mor ddrud i'r ddwy ochr, ac fe wnaeth droi'r ddau ddyn ifanc yn anifeiliaid am dair blynedd.  

Golygiad diweddaraf yn ôl 20:39, 26 Tachwedd 2020

Mae Math fab Mathonwy, arglwydd Gwynedd, yn ymddangos yn y chwedl, Pedwaredd Gainc y Mabinogi, sydd wedi'i henwi ar ei ôl. Roedd ei lys yng Nghaer Dathl yn Arfon.

Roedd hynodrwydd arbennig yn perthyn i Math, sef bod rhaid iddo gadw ei draed yng nghôl morwyn (sef yn yr ystyr yma, dynes nad oedd erioed wedi cael rhyw), ac eithrio pan fyddai'n rhaid iddo adael ei lys i fynd i ryfela. Nid oes unrhyw eglurhad yn y chwedl pam roedd rhaid iddo wneud hynny, ond efallai ei fod yn deillio o ryw hen gred bod modd cael grym ac ieuenctid parhaus drwy gysylltiad corfforol o'r fath â gwyryf ifanc. Y gyntaf i gyflawni'r swyddogaeth hon iddo oedd Goewin, ferch Pebin o Ddyffryn Nantlleu, ond cafodd hi ei threisio gan Gilfaethwy, nai i Math, ar ôl i Math gael ei hudo i adael ei lys am mynd i ryfela yn erbyn Pryderi, arglwydd Dyfed. Digwyddodd hynny trwy dwyll ac ystrywiau Gwydion, brawd Gilfaethwy, er mwyn i Gilfaethwy gael cysgu gyda Goewin. Roedd Math yn gynddeiriog gyda nhw ar ôl iddo ddychwelyd o'r rhyfel, a gostiodd mor ddrud i'r ddwy ochr, ac fe wnaeth droi'r ddau ddyn ifanc yn anifeiliaid am dair blynedd.

Y nesaf i gael ei hystyried i fod yn wyryf o'r fath i Math oedd Arianrhod, chwaer i Gwydion a Gilfaethwy. Roedd rhaid iddi basio prawf ei bod yn wyryf drwy gamu dros ffon hud Math, ond methodd y prawf yn druenus, gan roi genedigaeth i ddau fachgen bach, Dylan a Lleu. Yn ddiweddarach yn y chwedl mae Math a Gwydion yn defnyddio eu pwerau fel dewiniaid i greu merch o flodau, Blodeuwedd, yn wraig i Lleu, ar ôl i'w fam Arianrhod roi tynged arno na fyddai'n cael enw, arfau na gwraig o blith meibion dynion.

Mewn rhan arall o'r Bedwaredd Gainc mae Math yn gysylltiedig â'r chwedl a oedd yn egluro sut y daeth moch i Brydain gyntaf. Mae Gwydion yn hysbysu Math fod moch gan Pryderi, arglwydd Dyfed, a bod Pwyll, tad Pryderi, wedi eu cael yn rhodd gan ei gyfaill, Arawn brenin Annwn (neu'r isfyd). Mae Gwydion yn defnyddio ei bwerau fel dewin i gael gafael ar y moch drwy dwyll a dod â nhw i Wynedd, a dyna oedd achos y rhyfel enbyd y cyfeirir ato uchod.

Nodwedd bwysicaf Math oedd y pwerau hud oedd ganddo ac mae'n debygol fod ei gymeriad wedi'i seilio ar un o'r duwiau Celtaidd. Mae'n fwy medrus fel dewin na hyd yn oed Gwydion gan ei fod yn y chwedl yn rhoi melltith ar ei ddau nai a'u trawsnewid yn anifeiliaid. Efallai ei bod yn bwysig hefyd bod yr anifeiliaid hyn yn newid bob blwyddyn am dair blynedd - o geirw i foch gwyllt ac i fleiddiaid - a bod Gwydion a Gilfaethwy yn cael eu newid yn wryw a benyw bob yn ail blwyddyn tra maent yn rhith yr anifeiliaid hynny a rhoi genedigaeth i rai bach. Mae'n bosib felly, o ystyried y pwerau hyn a oedd gan Math, a'r ffaith ei fod yn cael ei gysylltu â gwyryfon ifanc, fod yn y chwedl hon adleisiau o hen dduw, neu dduwiau, Celtaidd a oedd yn gysylltiedig â ffrwythlondeb.

Cyfeiriadau

Y Mabinogion, Diweddariad gan Dafydd a Rhiannon Ifans, (Gwasg Gomer, 1980), tt.48-66.

Miranda J. Green, Dictionary of Celtic Myth and Legend, (Thames and Hudson Ltd., Llundain, 1992), t.145.