Pont y Gelynnen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) B Symudodd Heulfryn y dudalen Pont Gelenau i Pont y Gelynnen |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 11:23, 15 Tachwedd 2020
Saif Pont y Gelynnen ar yr B4410, sef yr hen ffordd dyrpeg, ger y Gelli rhwng Nantlle a Drws-y-coed. Mae'r bont yn sefyll hanner ffordd rhwng Ysgol Gynradd Baladeulyn a fferm Gelli-ffrydiau. Pont weddol ddi-nôd yw, dros nant sy'n rhedeg i mewn i Llyn Nantlle Uchaf, sef Afon Pontygelynnen[1]. Weithiau, ceir y ffurf Pont Gelenau ar enw'r bont, ond mae enw'r afon - a'r cyfeiriad isod - yn dangos beth yw enw cywir y bont.
Bwa syml wedi ei wneud o gerrig yw’r bont, tua 12 troedfedd o led a phen y bwa 9 troedfedd uwchben dŵr yr afon. Fe adeiladwyd yn newydd ym 1855, ar ôl i swyddog y sir, Owen Jones, ysgrifennu at yr Arglwydd Newborough, Cadeirydd y Llys Chwarter, i ddweud fod y brif angen yn y sir am waith ar bontydd newydd oedd ger Gelli-ffrydiau, nid nepell o bentref Nantlle, yn cynnwys '"Pont y Gelynan".[2] Yr oedd rhaid i’r contractwr ddarparu ffordd dros dro tra oedd y gwaith yn mynd rhagddo. Fe adeiladwyd gan William Thomas, adeiladydd o Ffordd Ysgubor Degwm yng Nghaernarfon. Cost y gwaith oedd £52.10s.
Mewn dogfennau cyn cyfnod y mapiau Ordnans, fe elwir y bont yn Bont Gelynan. Nid yw'n glir pa enw yw'r un cywir erbyn hyn. [3]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma