Stent Uwchgwyrfai 1352: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''Stent Uwchgwyrfai''' sy'n dyddio o 1352 yn rhan o stet am holl diroedd siroedd Caernarfon a Môn. Dogfen ydyw sy'n cofnodi holl dollau, trethi a dy...' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Mae '''Stent Uwchgwyrfai''' sy'n dyddio o 1352 yn rhan o | Mae '''Stent Uwchgwyrfai''' sy'n dyddio o 1352 yn rhan o stent am holl diroedd siroedd Caernarfon a Môn. | ||
Y dull o gasglu gwybodaeth oedd trwy gynnal sesiynau o flaen John de Delves, dirprwy Iarll Arundel, lle holwyd holl denantiaid caeth a rhydd | ==Y ddogfen wreiddiol== | ||
Dogfen ydyw sy'n cofnodi holl dollau, trethi a dyletswyddau yr oedd yn ofynnol i ddeiliaid y tir gyflwyno i'r arglwydd, sef (erbyn 1352), goron Lloegr neu (a bwrw bod tywysog Cymru'n bod) i'r dywysog Seisnig hwnnw fel rhan o diroedd [[Tywysogaeth Gogledd Cymru]]. Mewn gwirionedd, math o "Lyfr Domesday" yw'r stent, ac mae'n ffynhonell hynod o bwysig (ond nad y bwysicaf un) ar gyfer deall cymdeithas [[Uwchgywrfai]] yn ystod y 14g. | |||
Y dull o gasglu gwybodaeth oedd trwy gynnal sesiynau o flaen John de Delves, dirprwy Iarll Arundel (ustus y tywysog yng Ngogledd Cymru), lle holwyd holl denantiaid caeth a rhydd. Cofnodwyd yr holl ganfyddiadau gan glerc neu glercod, ac wedyn fe'i archwiliwyd gan reithgor o ddeuddeg o ddynion rhydd y cwmwd. Diddorol yw nodi fod enwau'r rheithwyr yn dangos eu bod oll ag enwau Cymraeg. | |||
Cofnodwyd yr wybodaeth mewn Lladin, ac fe adysgrifiwyd y ddogfen gan Syr John Ellis, Prif Lyfrgellydd yr Amgueddfa Brydeinig, a'i chyhoeddi gan Gomisynwyr y Cofnodion Cyhoeddus ym 1838, mewn llyfr o'r enw ''The [[Record of Caernarvon'']]<ref>''Registrum Vulgariter Nuncupatum "The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696.'' (Llundain, 1838)</ref>. Er bod rhan y stent ar gyfer Môn wedi ei gyfieithu (ac mae'r cyfieithiad hwnnw'n werthfawr iawn oherwydd y rhagair a'r troednodiadau i ni yn Uwchgwyrfai hefyd)<ref>A.D. Carr, "The Extent of Anglesey, 1352" ''(Trafodion Cymdeithas Hynafiaeithwyr Môn''), (1971-2) tt.150-272</ref>, ni wnaed erioed gyfieiethiad o stent Sir Gaernarfon. Prosiect gan '''Gof y Cwmwd''' yw cyhoeddi cyfieithiad rhydd o'r testun o dipyn i beth ar lein yn yr erthygl hon. |
Fersiwn yn ôl 08:38, 27 Mai 2020
Mae Stent Uwchgwyrfai sy'n dyddio o 1352 yn rhan o stent am holl diroedd siroedd Caernarfon a Môn.
Y ddogfen wreiddiol
Dogfen ydyw sy'n cofnodi holl dollau, trethi a dyletswyddau yr oedd yn ofynnol i ddeiliaid y tir gyflwyno i'r arglwydd, sef (erbyn 1352), goron Lloegr neu (a bwrw bod tywysog Cymru'n bod) i'r dywysog Seisnig hwnnw fel rhan o diroedd Tywysogaeth Gogledd Cymru. Mewn gwirionedd, math o "Lyfr Domesday" yw'r stent, ac mae'n ffynhonell hynod o bwysig (ond nad y bwysicaf un) ar gyfer deall cymdeithas Uwchgywrfai yn ystod y 14g.
Y dull o gasglu gwybodaeth oedd trwy gynnal sesiynau o flaen John de Delves, dirprwy Iarll Arundel (ustus y tywysog yng Ngogledd Cymru), lle holwyd holl denantiaid caeth a rhydd. Cofnodwyd yr holl ganfyddiadau gan glerc neu glercod, ac wedyn fe'i archwiliwyd gan reithgor o ddeuddeg o ddynion rhydd y cwmwd. Diddorol yw nodi fod enwau'r rheithwyr yn dangos eu bod oll ag enwau Cymraeg.
Cofnodwyd yr wybodaeth mewn Lladin, ac fe adysgrifiwyd y ddogfen gan Syr John Ellis, Prif Lyfrgellydd yr Amgueddfa Brydeinig, a'i chyhoeddi gan Gomisynwyr y Cofnodion Cyhoeddus ym 1838, mewn llyfr o'r enw The Record of Caernarvon''[1]. Er bod rhan y stent ar gyfer Môn wedi ei gyfieithu (ac mae'r cyfieithiad hwnnw'n werthfawr iawn oherwydd y rhagair a'r troednodiadau i ni yn Uwchgwyrfai hefyd)[2], ni wnaed erioed gyfieiethiad o stent Sir Gaernarfon. Prosiect gan Gof y Cwmwd yw cyhoeddi cyfieithiad rhydd o'r testun o dipyn i beth ar lein yn yr erthygl hon.