Gorsaf reilffordd Pant-glas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''Gorsaf | '''Gorsaf Pant-glas''' oedd yr orsaf nesaf i [[Gorsaf reilffordd Pen-y-groes|orsaf Pen-y-groes]], i'r de, a thua 4 milltir yn nes at orsaf Afon-wen. Fe agorwyd ym 1869, ychydig ar ôl i'r lein ei hun agor. Fe wasanaethai bentref Pant-glas, rhan uchaf plwyf [[Clynnog-fawr]] a llethrau'r [[Bwlch Mawr]]. Yn fwy diweddar, roedd [[Pant-glas]] y tu allan i ffiniau pwyf Clynnog-fawr, ond pan godwyd y lein cynhwysai'r plwyf lwybr y rheilffordd bron hyd at pentref (a gorsaf) Bryncir), ac felly gellir hawlio Pant-glas fel un o orsafoedd Uwchgwyrfai. Fe safai wrth groesfan y lein tua 200 lath o'r ffordd fawr ar y ffordd i [[Capel Uchaf|Gapel Uchaf]]. Mae ychydig o olion yr orsaf i'w gweld o hyd. | ||
'Roedd un seidin fer ar gyfer nwyddau, yr ochr ogleddol i'r groesfan, ond ychydig iawn o ddefnydd gafodd hi. Peidiodd trenau nwyddau â galw ym 1955, a chaewyd yr orsaf ar gyfer teithwyr ym 1957. | 'Roedd un seidin fer ar gyfer nwyddau, yr ochr ogleddol i'r groesfan, ond ychydig iawn o ddefnydd gafodd hi. Peidiodd trenau nwyddau â galw ym 1955, a chaewyd yr orsaf ar gyfer teithwyr ym 1957. |
Fersiwn yn ôl 13:07, 13 Ebrill 2018
Gorsaf Pant-glas oedd yr orsaf nesaf i orsaf Pen-y-groes, i'r de, a thua 4 milltir yn nes at orsaf Afon-wen. Fe agorwyd ym 1869, ychydig ar ôl i'r lein ei hun agor. Fe wasanaethai bentref Pant-glas, rhan uchaf plwyf Clynnog-fawr a llethrau'r Bwlch Mawr. Yn fwy diweddar, roedd Pant-glas y tu allan i ffiniau pwyf Clynnog-fawr, ond pan godwyd y lein cynhwysai'r plwyf lwybr y rheilffordd bron hyd at pentref (a gorsaf) Bryncir), ac felly gellir hawlio Pant-glas fel un o orsafoedd Uwchgwyrfai. Fe safai wrth groesfan y lein tua 200 lath o'r ffordd fawr ar y ffordd i Gapel Uchaf. Mae ychydig o olion yr orsaf i'w gweld o hyd.
'Roedd un seidin fer ar gyfer nwyddau, yr ochr ogleddol i'r groesfan, ond ychydig iawn o ddefnydd gafodd hi. Peidiodd trenau nwyddau â galw ym 1955, a chaewyd yr orsaf ar gyfer teithwyr ym 1957.
Ffynonellau
- LMS Branch Lines in North Wales, W.G.Rear, Wild Swan Publns., (1986), tt.86-8.