John Hughes (Idanfryn): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 4: Llinell 4:

  IDANFRYN.—Y mae genych eiriau fel hyn: Tewyllwch—Dinion—Tiwydd—Canio—Digwidd—&c. Ac y mae genych benill mor ddigrif a hwn hefyd:  
  IDANFRYN.—Y mae genych eiriau fel hyn: Tewyllwch—Dinion—Tiwydd—Canio—Digwidd—&c. Ac y mae genych benill mor ddigrif a hwn hefyd:  
       ''Mae'r hail yn gweni ar y brun,''
       ''Mae'r'' hail ''yn'' gweni ''ar y ''brun,  
       ''Wrth wel'd ei gisgod yn y llin;''
       ''Wrth wel'd ei'' gisgod ''yn y'' llin;  
       ''Ac mae pob din yn hoffi 'i wres,''
       ''Ac mae pob'' din ''yn hoffi 'i wres,''
       ''Gan ddeid ei fod yn ddyrfawr les."  
       ''Gan ''ddeid'' ei fod yn ''ddyrfawr'' les."  
  Da chwi, Idanfryn, mynwch gael Geiriadur a dysgwch wybod y gwahaniaeth sydd rhwng i ac y, a rhwng u, ac y. Y mae genych waith mawr i ddysgu adnabod y llythyrenau, cyn y deuwch i wybod sut i roddi eich meddwl ar bapur yn briodol.  Ac un o'r bethau mwyaf anoddefol genym, yw gweled un nas gall ysgrifenu yr enw ''dyn'' yn cerdded yn warsyth, ac yn cymeryd amo fod yn rhyw beth, ac yntau heb fod yn ddim!

Fersiwn yn ôl 11:45, 25 Ebrill 2020

Roedd John Hughes (Idanfryn) (1832-1876) yn athro Ysgol Capel Horeb, Rhostryfan am flwyddyn neu ddwy tua 1866-7.[1] Cafodd ei eni ym Mrynsiencyn, Ynys Môn (lle mae tŷ o'r enw Idanfryn). Roedd o'n athro yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant yn union cyn ddod i Rostryfan, a symudodd wedyn i Amlwch erbyn 1869 lle bu'n athro ar yr Ysgol Frytanaidd yno[2] ac wedyn i Gaernarfon lle bu'n byw hyd ei farwolaeth. Roedd wedi priodi merch y Capten Hugh Owen o Fangor, a bu hithau'n byw yno nes symud at ei merch yng Nghaerdydd tua 1910 a marw yn 1915 yn 73 oed.[3]

Roedd Idanfryn yn fardd a gafodd gryn sylw yn ystod ei oes ac mae ei waith ar gael yn y Llyfrgell Genedlaethol.[4] Arferai gyfansoddi cerddi moeswersol digon swynol a ymddangosodd weithiau yn Trysorfa y Plant yn yr 1860au, ac ambell i emyn, yn ogystal â chyflwyno ysgrifau i gyfnodolion amrywiol. Fodd bynnag, nid oedd heb gloffi weithiau yn ei ymdrechion. Dyma feirniadaethj ar ei waith yng ngholofn Y Tyst Cymreig:

IDANFRYN.—Y mae genych eiriau fel hyn: Tewyllwch—Dinion—Tiwydd—Canio—Digwidd—&c. Ac y mae genych benill mor ddigrif a hwn hefyd: 
     Mae'r hail yn gweni ar y brun, 
     Wrth wel'd ei gisgod yn y llin; 
     Ac mae pob din yn hoffi 'i wres,
     Gan ddeid ei fod yn ddyrfawr les." 
Da chwi, Idanfryn, mynwch gael Geiriadur a dysgwch wybod y gwahaniaeth sydd rhwng i ac y, a rhwng u, ac y. Y mae genych waith mawr i ddysgu adnabod y llythyrenau, cyn y deuwch i wybod sut i roddi eich meddwl ar bapur yn briodol.  Ac un o'r bethau mwyaf anoddefol genym, yw gweled un nas gall ysgrifenu yr enw dyn yn cerdded yn warsyth, ac yn cymeryd amo fod yn rhyw beth, ac yntau heb fod yn ddim!

Bu farw 31 Fai 1876, pan oedd yn byw yn Stryd y Felin, Twtil, Caernarfon ar ôl cystudd hir, gan adael gweddw, pedwar mab a dwy ferch.[5] Yn eu mysg oedd Gwilym Hughes (Ap Idanfryn), newyddiadurwr amlwg ac ysgrifennydd y "Welsh National Memorial Association".[6]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.236
  2. Trysorfa y Plant, Tachwedd 1869, t.28
  3. Cambrian Daily Leader, 4.5.1915, t.4
  4. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llsg.NLW MS 8469A - Gwaith John Hughes ('Idanfryn')
  5. Llais y Wlad, 9 Mehefin 1876, t.8; Tarian y Gweithiwr, 9 Mehefin 1876, t.1
  6. Gwefan Rainbow Dragon, [1], cyrchwyd 23.4.2020