Ysgol Capel Horeb, Rhostryfan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ' rhwng 1840 ac 1870' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Agorwyd '''Ysgol Capel Horeb''' fel ysgol breifat dan nawdd [[Capel Horeb (MC), Rhostryfan]] gan ddyn o'r enw Ellis Thomas yn nechrau'r 1840au, ac yn ogystal â'r tâl a dderbyniai gan y rhieni, cyfrannai'r capel hefyd at ei chynnal. Fe ymadawodd tua 1846 â'r tŷ capel fodd bynnag, ac aeth rhai o'r plant i'r ysgol eglwysig yn y [[Bontnewydd]] tra aeth eraill i ysgol a gynhelid ym [[Melin Forgan]] ger [[Capel Bryn'rodyn]]. | |||
Ym 1849, penderfynodd y capel y dylid ceisio sefydlu ysgol mwy effeithiol, a chafwyd gwasanaeth Benjamin Rogers fel ysgolfeistr, a ddaeth o Abergele i Rostryfan. Am rai blynyddoedd cynhelid yr ysgol yn y capel nes adeiladu ysgoldy newydd ym 1855, gyda lle ar gyfer 100 o blant. Ariannwyd yr adeilad yn llwyr gan y capel heb grant, gan nad oedd yn cydymffurfio, ysywaeth, â gofynion yr awdurdodau. |
Fersiwn yn ôl 13:53, 22 Ebrill 2020
Agorwyd Ysgol Capel Horeb fel ysgol breifat dan nawdd Capel Horeb (MC), Rhostryfan gan ddyn o'r enw Ellis Thomas yn nechrau'r 1840au, ac yn ogystal â'r tâl a dderbyniai gan y rhieni, cyfrannai'r capel hefyd at ei chynnal. Fe ymadawodd tua 1846 â'r tŷ capel fodd bynnag, ac aeth rhai o'r plant i'r ysgol eglwysig yn y Bontnewydd tra aeth eraill i ysgol a gynhelid ym Melin Forgan ger Capel Bryn'rodyn.
Ym 1849, penderfynodd y capel y dylid ceisio sefydlu ysgol mwy effeithiol, a chafwyd gwasanaeth Benjamin Rogers fel ysgolfeistr, a ddaeth o Abergele i Rostryfan. Am rai blynyddoedd cynhelid yr ysgol yn y capel nes adeiladu ysgoldy newydd ym 1855, gyda lle ar gyfer 100 o blant. Ariannwyd yr adeilad yn llwyr gan y capel heb grant, gan nad oedd yn cydymffurfio, ysywaeth, â gofynion yr awdurdodau.