Glynn Wynn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd y Cyrnol '''Glynn Wynn'', AS (?1739-1793) yn bedwerydd mab [[Syr Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough]], ond dim ond yr ail fab i'w basio'r bedair oed, dau frawd hyn yn marw'n blant bach. Ar 11 Ionawr 1766, fe briododd Bridget, merch Plas Penrhyn Creuddyn ger Llandudno. Fe wanaethodd fel aelod seneddol Bwrdeistrefi Caernarfon, 1768-1781. Bu i'r cwpl bedwar o feibion, sef John, 1766; William (William Glynn Coetmor, cyfenw a fabwysiadodd i gofnodi etifeddu eiddo teulu Plas ym Mhenrhyn, sef Coetmor); [[Thomas Wynn Belasyse|Thomas Edward Glynn]] (a ychwanegodd cyfenw ''Belasyse'' wrth briodi Charlotte, merch Iarll Fauconberg); Glynn (a briododd Elizabeth Hamilton); ac un ferch, Bridget (marw 1826), a briododd John, 4ydd Iarll Egmont. <ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t.173</ref>
Roedd y Cyrnol '''Glynn Wynn'', AS (?1739-1793) yn frawd iau [[Syr Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough]], ac yn fab i [[Syr John Wynn, 2il Farwnig]]. Ar 11 Ionawr 1766, fe briododd Bridget, merch Plas Penrhyn Creuddyn ger Llandudno. Fe wanaethodd fel aelod seneddol Bwrdeistrefi Caernarfon, 1768-1781. Bu i'r cwpl bedwar o feibion, sef John, 1766; William (William Glynn Coetmor, cyfenw a fabwysiadodd i gofnodi etifeddu eiddo teulu Plas ym Mhenrhyn, sef Coetmor); [[Thomas Wynn Belasyse|Thomas Edward Glynn]] (a ychwanegodd cyfenw ''Belasyse'' wrth briodi Charlotte, merch Iarll Fauconberg); Glynn (a briododd Elizabeth Hamilton); ac un ferch, Bridget (marw 1826), a briododd John, 4ydd Iarll Egmont sef ŵyr tad-yng-nghyfraith ei hewyrth  . <ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t.173</ref>


Bu'n filwr proffesiynol 1755-1773. Daliodd swydd protonotari a chlerc y Goron ar gyfer Gogledd Cymru, swydd gweinyddol a ddaeth a chyflog eithaf dda iddo, o 1762 hyd ei farwolaeth, ac efallai roedd wedi camu'n ôl o wasanaeth llawn amser yn y fyddin am flynyddoedd cyn ei ymddeoliad, artfer cyffredin yn yr 18g.
Bu'n filwr proffesiynol 1755-1773. Daliodd swydd protonotari a chlerc y Goron ar gyfer Gogledd Cymru, swydd gweinyddol a ddaeth a chyflog eithaf dda iddo, o 1762 hyd ei farwolaeth, ac efallai roedd wedi camu'n ôl o wasanaeth llawn amser yn y fyddin am flynyddoedd cyn ei ymddeoliad, artfer cyffredin yn yr 18g.

Fersiwn yn ôl 10:09, 31 Mawrth 2020

Roedd y Cyrnol 'Glynn Wynn, AS (?1739-1793) yn frawd iau Syr Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough, ac yn fab i Syr John Wynn, 2il Farwnig. Ar 11 Ionawr 1766, fe briododd Bridget, merch Plas Penrhyn Creuddyn ger Llandudno. Fe wanaethodd fel aelod seneddol Bwrdeistrefi Caernarfon, 1768-1781. Bu i'r cwpl bedwar o feibion, sef John, 1766; William (William Glynn Coetmor, cyfenw a fabwysiadodd i gofnodi etifeddu eiddo teulu Plas ym Mhenrhyn, sef Coetmor); Thomas Edward Glynn (a ychwanegodd cyfenw Belasyse wrth briodi Charlotte, merch Iarll Fauconberg); Glynn (a briododd Elizabeth Hamilton); ac un ferch, Bridget (marw 1826), a briododd John, 4ydd Iarll Egmont sef ŵyr tad-yng-nghyfraith ei hewyrth . [1]

Bu'n filwr proffesiynol 1755-1773. Daliodd swydd protonotari a chlerc y Goron ar gyfer Gogledd Cymru, swydd gweinyddol a ddaeth a chyflog eithaf dda iddo, o 1762 hyd ei farwolaeth, ac efallai roedd wedi camu'n ôl o wasanaeth llawn amser yn y fyddin am flynyddoedd cyn ei ymddeoliad, artfer cyffredin yn yr 18g.

Ym 1768, 1774 a 1780 cafodd ei ethol a'i ailethol yn ddiwrthwynebiad fel aelod seneddol dros fwrdeistrefi Caernarfon (sef Caernarfon, Conwy, Cricieth, Pwllheli a Nefyn). Roedd gan ei deulu a'i gefnogwyr reolaeth dros fwyafrif y pleidleiswyr, ond hefyd nodwyd ar y pryd ei fod "yn fwy poblogaidd o lawer yn y sir na'i frawd hŷn, Arglwydd Newborough". Nid oedd ei gefnogaeth i'r naill ochr yn y senedd yn gyson, ac roedd teuluoedd Paget a Bulkeley yn ei gefnogi neu ei wrthwynebu yn ôl eu diddordebau hwy ar y pryd. Ym 1784, fe wnaeth y ddau deulu hyn gamu'n ôl o'i wrthwynebu yn yr etholiad, ond fe safodd Thomas, Arglwydd Newborough - ei frawd hŷn - yn ei erbyn. Roedd Glynn Wynn yn llwyddiannus, ond fe holltodd y frwydr rhwng dau frawd y gefnogaeth i'r teulu. Dyna oedd diwedd ymwneud teulu Wynn â'r senedd; chafodd yr un Wnn o Lynllifon ei ethol wedyn. Yn etholiad 1790, safodd Paget, sef yr Arglydd Uxbridge, yn erbyn Glynn Wynn ac fe gollodd Wynn ei sedd. Bu farw dair blynedd yn ddiweddarach.[2]

Roedd yr ymrafael rhwng y ddau frawd wedi esgor ar achosion cyfreithiol, a wnaeth gryn dipyn i dlodi cyfoeth y teulu am hanner can mlynedd.[3]

Cyfeiriadau

  1. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.173
  2. ‘’History of Parliament’’ [1], cyrchwyd 30.3.2020. Ceir esboniad manwl ar safbwyntiau Glynn Wynn, a'r sawl newid mewn cyfeiriad gwleidyddol a wnaeth yn yr ethygl.
  3. Archifdy Caernarfon, XD2/passim.