Syr Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Thomas Wynn, later 3rd Bt and 1st Baron Newborough (1736-1807), by Nathaniel Hone.jpg|bawd|400px|de|Portread o'r Thomas Wynn ifanc gan Nathaniel Hone]]
Ganwyd '''Thomas Wynn''' o [[Glynllifon|Lynllifon]] a Boduan (1736-1807) yn fab hynaf i [[Syr John Wynn]], yr 2il Farwnig a Jane Wynne ei wraig, merch John Wynne o Felai, Llanfair Talhaearn, Sir Ddinbych. Etifeddodd y teitl Syr a'r farwnigaeth ar farwolaeth ei dad ym 1773. Roedd yn wleidydd ac yn aelod seneddol hynod o deyngar (os nad yn wir yn gwbl gynffonllyd) i'r Brenin Sior III, ac mae yna le i ddadlau mai ceisio sedd yn Nhŷ'r Arglwyddi ac efallai swydd fras o dan y Goron oedd ei nod yn ei holl waith gwleidyddol. Bu'n aelod seneddol dros Sir Gaernarfon, 1761-74 nes iddo golli etholiad; dros St Ives yng Nghernyw, 1775-80; a dros Biwmares, 1796-1807. Ceisiodd sefyll ar etholaeth Bwrdeistrefi Caernarfon ym 1783 yn erbyn ei frawd ei hun, [[Glynn Wynn]]. Roedd y ddau frawd wedi ffraeo, a sonnir bod Glyn Wynn yn fwy poblogaidd o lawr na'i frawd yn y sir. Roedd hanesion ei ddyledion a'r ffaith ei fod wedi ei garcharu yng ngharchar Maidstone am ddyled ym 1780 wedi peri iddo golli ei swyddi a statws yn lleol. Roedd ei hanes diweddarach, fodd bynnag, yn creu embaras ar raddfa fwy o lawer, i ddiplomyddion yr yr Eidal. Er i'w ffrindiau a chyd-dirfeddianwyr Bulkeley o Faron Hill, Biwmares ac Arglwydd Uxbridge o Blas Newydd, Llanfairpwllgwyngyll geisio perswadio'r Brenin i roi Arglwyddiaeth Brydeinig iddo er mwyn i Thomas Wynn gael eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi, aflwyddiannus oedd eu hymdrechion, methiant nad oedd yn peri syndod yn wyneb hanesion buchedd Thomas efallai. Rhaid oedd iddo dderbyn nawdd Bulkeley trwy dderbyn sedd fel aelod seneddol Biwmares.<ref>"Wynn, Thomas (1736-1807), of Glynnllivon, Caern.", (''The History of Parliament: the House of Commons 1754-1790'', gol.. L. Namier, J. Brooke., 1964) ar gael ar lein: [http://www.historyofparliamentonline.org/volume/1754-1790/member/wynn-thomas-1736-1807]</ref>

Fersiwn yn ôl 10:15, 28 Medi 2021

Portread o'r Thomas Wynn ifanc gan Nathaniel Hone

Ganwyd Thomas Wynn o Lynllifon a Boduan (1736-1807) yn fab hynaf i Syr John Wynn, yr 2il Farwnig a Jane Wynne ei wraig, merch John Wynne o Felai, Llanfair Talhaearn, Sir Ddinbych. Etifeddodd y teitl Syr a'r farwnigaeth ar farwolaeth ei dad ym 1773. Roedd yn wleidydd ac yn aelod seneddol hynod o deyngar (os nad yn wir yn gwbl gynffonllyd) i'r Brenin Sior III, ac mae yna le i ddadlau mai ceisio sedd yn Nhŷ'r Arglwyddi ac efallai swydd fras o dan y Goron oedd ei nod yn ei holl waith gwleidyddol. Bu'n aelod seneddol dros Sir Gaernarfon, 1761-74 nes iddo golli etholiad; dros St Ives yng Nghernyw, 1775-80; a dros Biwmares, 1796-1807. Ceisiodd sefyll ar etholaeth Bwrdeistrefi Caernarfon ym 1783 yn erbyn ei frawd ei hun, Glynn Wynn. Roedd y ddau frawd wedi ffraeo, a sonnir bod Glyn Wynn yn fwy poblogaidd o lawr na'i frawd yn y sir. Roedd hanesion ei ddyledion a'r ffaith ei fod wedi ei garcharu yng ngharchar Maidstone am ddyled ym 1780 wedi peri iddo golli ei swyddi a statws yn lleol. Roedd ei hanes diweddarach, fodd bynnag, yn creu embaras ar raddfa fwy o lawer, i ddiplomyddion yr yr Eidal. Er i'w ffrindiau a chyd-dirfeddianwyr Bulkeley o Faron Hill, Biwmares ac Arglwydd Uxbridge o Blas Newydd, Llanfairpwllgwyngyll geisio perswadio'r Brenin i roi Arglwyddiaeth Brydeinig iddo er mwyn i Thomas Wynn gael eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi, aflwyddiannus oedd eu hymdrechion, methiant nad oedd yn peri syndod yn wyneb hanesion buchedd Thomas efallai. Rhaid oedd iddo dderbyn nawdd Bulkeley trwy dderbyn sedd fel aelod seneddol Biwmares.[1]

Ym 1766, fe briododd â Catherine Perceval, merch 2il Iarll Egmont. Cafwyd un plentyn, John (1772-1800) a fyddai wedi etifeddu'r teitl. Fe briododd hwnnw â Lena Vanderkeen o'r Hâg yn ys Iseldiroedd.[2]

Er fod ystadau Glynllifon a Boduan, ynghyd ag ystadau Melai a Maenan a etifeddwyd gan Thomas Wynn o ochr ei fam, yn dod ag incwm sylweddol, nid oeddent yn ddigonol i gynnal ffordd Thomas o fyw. Buddsoddodd arian mewn codi Caer Williamsburg ar dir Glynllifon a Chaer Belan fel rhan o'i weithgaredd fel Cyrnol Militisia'r Sir - a dichon hefyd fel ffordd o geisio cymeradwyaeth y Brenin.

Erbyn y 1780au, ac wedi colli ei wraig gyntaf ym 1782, ac er mwyn osgoi erlyniaeth ei gredydwyr, fe ddihangodd gyda'i fab i'r Eidal, lle cafodd hyd i ail wraig a ymddangosodd i bawb yn hynod o anaddas i "meilord" 50 oed; Maria Stella Petronella Chiappini, cantores ifanc a merch ceidwad carchar o Modigliana ger Fflorens oedd y wraig newydd, nad oedd hi ond tua 13 oed. Ceisiodd ei thad odro Thomas Wynn am arian, gan hyd yn oed sicrhau iddo gael ei garcharu pan geisiodd ymadael â Fflorens ym 1792. Perthynas oeraidd oedd rhyngddynt, mae'n debyg, ac arswydodd y teulu, a dosbarth crachaidd yn Lloegr a Chymru yn gyffredinol, at ei ddewis, ond pan ddychwelodd y cwpl adref i Glynllifon ym 1792 fe gymerodd y werin ati'n syth. Cafwyd dau fab i'r cwpl, wedi i John Wynn, etifedd yr ystad a'r teitl, farw ym 1800, sef Thomas John a Spencer Bulkeley.

Marwodd 12 Hydref 1807, gan adael nifer o achosion cyfreithiol drudfawr heb eu datrys. Ailbriododd Maria Stella ag uchelwr o Estonia, y Barwn Ungern Sternberg, gan adael y ddau fab ifanc yng ngofal gwarcheidwaid ac ymddiriedolwyr o'r teulu, nes i Thomas John ddod i'w etifeddiaeth wrth gyrraedd yr oedran 21 oed.[3]

Cyfeiriadau

  1. "Wynn, Thomas (1736-1807), of Glynnllivon, Caern.", (The History of Parliament: the House of Commons 1754-1790, gol.. L. Namier, J. Brooke., 1964) ar gael ar lein: [1]
  2. Ail-briododd Lena â Dr Werninck ac mae nifer helaeth o lythyrau gan aelodau o deulu Werninck, o Lundain a'r cyffiniau'n bennaf, ymysg y llythyrau a dderbyniwyd gan y 3ydd Arglwydd Newborough. Archifdy Gwynedd, XD2/passim.
  3. Oni nodir yn wahanol, mae'r ffeithiau ar gyfer yr erthygl hon yn ei ffurf wreiddiol yn dod o J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), tt.172-3; Syr Ralph Payne-Gallway, The Mystery of Maria Stella, Lady Newborough, (Llundain, 1907); a Glyn Roberts, "The Glynnes and the Wynns of Glynllifon", (Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, Cyf.9), tt.25-40.