Richard Nanney: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Yr oedd '''Richard Nanney''' (1691-1768) yn ficer [[Clynnog Fawr]] am dros hanner can mlynedd, o 1723 hyd ei farwolaeth. Roedd o hefyd yn rheithor plwyf [[Llanaelhaearn]] o 1725 ymlaen. | Yr oedd '''Richard Nanney''' (1691-1768) yn ficer [[Clynnog Fawr]] am dros hanner can mlynedd, o 1723 hyd ei farwolaeth. Roedd o hefyd yn rheithor plwyf [[Llanaelhaearn]] o 1725 ymlaen. | ||
Mab ydoedd i deulu Cefndeuddwr, Trawsfynydd, ac yn aelod o deulu estynedig a hynafol Plas Nannau ger Dolgellau. Cafodd ei addysg o 1710 yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, gan raddio'n BA ym 1714, ac yn MA ym 1719. Roedd ei fam yn ferch i Richard Edwards, Nanhoron - dyn a fu â chryn feddwl o'r anghydffurfwyr cynnar yn y sir, ac yn eu meithrin ar ei ystad ym Mhen Llŷn. Fo, ynghyd â dynion megis [[Edmund Glynn]] o'r [[ | Mab ydoedd i deulu Cefndeuddwr, Trawsfynydd, ac yn aelod o deulu estynedig a hynafol Plas Nannau ger Dolgellau. Cafodd ei addysg o 1710 yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, gan raddio'n BA ym 1714, ac yn MA ym 1719. Roedd ei fam yn ferch i Richard Edwards, Nanhoron - dyn a fu â chryn feddwl o'r anghydffurfwyr cynnar yn y sir, ac yn eu meithrin ar ei ystad ym Mhen Llŷn. Fo, ynghyd â dynion megis [[Edmund Glynn]] o'r [[Hendre (Llanwnda|)|Hendre]] oedd yn cynnal piwritaniaeth yn y genhedlaeth gynt. Dichon mai hyn (ac efallai dylanwadau arno yn y brifysgol) a arweiniodd o at ei agwedd efengylaidd, rhyddfrydol ac eangfrydig. Cafodd ei agwedd at faterion crefyddol y dydd ei gryfhau oherwydd ei gysylltiadau teuluol: roedd ei chwaer Catrin wedi priodi Dr Knight o Gaernarfon, hwnnw â llawer o gysylltiadau ymneilltuol. Yr oedd gwraig Nanney hefyd yn hanu o deulu rhyddfrydig iawn, sef Wynniaid y Wern, Penmorfa. | ||
Fel y cynyddodd y diwygiad Methodistaidd yn ystod ei gyfnod fel ficer Clynnog, bu Nanney'n gynyddol oddefgar os nad yn wir yn gefnogol i'r rhai a ddewisodd gynnal cyfarfodydd ymneilltuol. Nid damwain efallai yw'r ffaith for achos [[Capel Uchaf|Capel Uchaf (MC), Clynnog Fawr]] oedd yr achos Methodistaidd cyntaf yn [[Arfon]], yn tyfu o ymweliad Howell Harris ym 1747. Er iddo beidio â mynd belled â chael ei gyfrif ymysg y clerigwyr Methodistaidd, gyda threigl y blynyddoedd ac yntau'n symud yn nes o hyd at ochr ddiwygiadol yr Eglwys fe ddenodd lu o bobl i wrando arno yn [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr]] oherwydd taerineb ei neges. Roedd hefyd yn gefnogol iawn i'r [[Ysgolion Cylchynol]] a gychwynwyd gan Griffith Jones, Llanddowror, ac yn aml fe'u cynhaliwyd yn eglwys plwyf Clynnog, ar wahân i'r rhai yn ardaloedd pellenig y plwyf, lle defnyddid ffermdai. | Fel y cynyddodd y diwygiad Methodistaidd yn ystod ei gyfnod fel ficer Clynnog, bu Nanney'n gynyddol oddefgar os nad yn wir yn gefnogol i'r rhai a ddewisodd gynnal cyfarfodydd ymneilltuol. Nid damwain efallai yw'r ffaith for achos [[Capel Uchaf|Capel Uchaf (MC), Clynnog Fawr]] oedd yr achos Methodistaidd cyntaf yn [[Arfon]], yn tyfu o ymweliad Howell Harris ym 1747. Er iddo beidio â mynd belled â chael ei gyfrif ymysg y clerigwyr Methodistaidd, gyda threigl y blynyddoedd ac yntau'n symud yn nes o hyd at ochr ddiwygiadol yr Eglwys fe ddenodd lu o bobl i wrando arno yn [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr]] oherwydd taerineb ei neges. Roedd hefyd yn gefnogol iawn i'r [[Ysgolion Cylchynol]] a gychwynwyd gan Griffith Jones, Llanddowror, ac yn aml fe'u cynhaliwyd yn eglwys plwyf Clynnog, ar wahân i'r rhai yn ardaloedd pellenig y plwyf, lle defnyddid ffermdai. |
Fersiwn yn ôl 20:07, 26 Tachwedd 2020
Yr oedd Richard Nanney (1691-1768) yn ficer Clynnog Fawr am dros hanner can mlynedd, o 1723 hyd ei farwolaeth. Roedd o hefyd yn rheithor plwyf Llanaelhaearn o 1725 ymlaen.
Mab ydoedd i deulu Cefndeuddwr, Trawsfynydd, ac yn aelod o deulu estynedig a hynafol Plas Nannau ger Dolgellau. Cafodd ei addysg o 1710 yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, gan raddio'n BA ym 1714, ac yn MA ym 1719. Roedd ei fam yn ferch i Richard Edwards, Nanhoron - dyn a fu â chryn feddwl o'r anghydffurfwyr cynnar yn y sir, ac yn eu meithrin ar ei ystad ym Mhen Llŷn. Fo, ynghyd â dynion megis Edmund Glynn o'r )|Hendre oedd yn cynnal piwritaniaeth yn y genhedlaeth gynt. Dichon mai hyn (ac efallai dylanwadau arno yn y brifysgol) a arweiniodd o at ei agwedd efengylaidd, rhyddfrydol ac eangfrydig. Cafodd ei agwedd at faterion crefyddol y dydd ei gryfhau oherwydd ei gysylltiadau teuluol: roedd ei chwaer Catrin wedi priodi Dr Knight o Gaernarfon, hwnnw â llawer o gysylltiadau ymneilltuol. Yr oedd gwraig Nanney hefyd yn hanu o deulu rhyddfrydig iawn, sef Wynniaid y Wern, Penmorfa.
Fel y cynyddodd y diwygiad Methodistaidd yn ystod ei gyfnod fel ficer Clynnog, bu Nanney'n gynyddol oddefgar os nad yn wir yn gefnogol i'r rhai a ddewisodd gynnal cyfarfodydd ymneilltuol. Nid damwain efallai yw'r ffaith for achos Capel Uchaf (MC), Clynnog Fawr oedd yr achos Methodistaidd cyntaf yn Arfon, yn tyfu o ymweliad Howell Harris ym 1747. Er iddo beidio â mynd belled â chael ei gyfrif ymysg y clerigwyr Methodistaidd, gyda threigl y blynyddoedd ac yntau'n symud yn nes o hyd at ochr ddiwygiadol yr Eglwys fe ddenodd lu o bobl i wrando arno yn Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr oherwydd taerineb ei neges. Roedd hefyd yn gefnogol iawn i'r Ysgolion Cylchynol a gychwynwyd gan Griffith Jones, Llanddowror, ac yn aml fe'u cynhaliwyd yn eglwys plwyf Clynnog, ar wahân i'r rhai yn ardaloedd pellenig y plwyf, lle defnyddid ffermdai.
Yn ôl Dr Thomas Richards, Bangor, hanesydd Piwritaniaeth gynnar Cymru: "nid oedd pethau'r byd hwn yn mennu fawr arno; diofal ydoedd o'i anifeiliaid — cofier ei fod yn dal tir Elernion ger Llanaelhaiarn (os nad y Fachwen hefyd am gyfnod), stad fechan yr oedd gafael cadarn ynddi gan deulu'r wraig — ac (meddai Robert Jones, yn ei lyfr Drych yr Amseroedd) nid adwaenai unrhyw geffyl ond yr un a farchogai ef ei hun."
Roedd ganddo fab, Richard, yntau hefyd yn glerigwr gyda daliadau Piwritanaidd. Roedd ei ferch Catherine yn briod â'r Parch. Richard Ellis, Bodychen a ddilynodd Richard Nanney ei dad-yng-nghyfraith, fel ficer Clynnog.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.18-19; Y Bywgraffiadur Cymreig, (Llundain, 1953), t.641