Yr Hen Offis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Geraint (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Geraint (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 8: Llinell 8:
Defnyddiwyd y rheilffordd hon am oddeutu 14 blynedd, a phan gaewyd Chwarel Craig y Farchas ac agor y chwarel newydd, Chwarel yr Eifl, cafwyd inclên newydd o'r mynydd yn syth i lawr i'r Swyddfeydd newydd yn y Weirglodd Fawr. Hyn oll yn haf 1867. Bellach nid oedd angen y rheilffordd o'r Hen Offis i'r Weirglodd Fawr. Trowyd yr hen swyddfa yn dai, ac addaswyd y stablau hefgyd yn dai ar gyfer y chwarelwyr. Y tai hyn oedd y gris cyntaf fel petae i deuluoedd newydd, ac i aros am dŷ mwy a gwell yn y pentref ei hun. Bu pobl yn byw ynddynt am dros bedwar ugain o flynyddoedd.

Ers blynyddoedd bellach diflannodd yr hen dai bach a addaswyd o'r hen stablau, ond deil yr Hen Offis (deulawr) yn ddau dŷ, a hen dŷ unllawr Trefor Jones yn anneddleoedd tlws. Mae'r tri thŷ yn eiddo i un o wragedd cyfoethocaf Lloegr ac yn cael eu gosod ganddi fel tai gwyliau, yn ogystal â dod yno'i hun i aros yn yr haf.
Ers blynyddoedd bellach diflannodd yr hen dai bach a addaswyd o'r hen stablau, ond deil yr Hen Offis (deulawr) yn ddau dŷ, a hen dŷ unllawr Trefor Jones yn anneddleoedd tlws. Mae'r tri thŷ yn eiddo i un o wragedd cyfoethocaf Lloegr ac yn cael eu gosod ganddi fel tai gwyliau, yn ogystal â dod yno'i hun i aros yn yr haf. Perthynas yw hi (ganwyd 3 Ionawr 1933) i deulu'r Darbishires fu â llaw amlwg ym mherchnogaeth a rheolaeth Chwarel yr Eifl am flynyddoedd lawer, a byddai'n treulio ei gwyliau ym Mhlas yr Eifl gyda'r teulu. Ei henw bryd hynny oedd Anya Eltenton a threuliodd lawer o'i phlentyndod yg Nghaliffornia, UDA.
 
Yn 14 oed daeth i Loegr i fyw a dod yn ddisgybl yn Ysgol Sadler's Wells yn Llundain. Roedd yn ddawnswraig ''ballet'' arbennig o dalentog. Yn un ar hugain oedd fe'i dyrchafwyd yn 'Unawdydd', a phedair blynedd yn ddiweddarach yn ''Ballerina''. Ymddeolodd ym 1963 pan briododd John Sainsbury.
 
Y wraig hon yw'r Farwnes Sainsbury o Preston Candover, a chyda'i gŵr, hi yw perchennog y gadwyn siopau enfawr Sainsbury's. Mae'r cwmni wedi datblygu taten hybrid newydd sbon a'i henwi'n Anya. Mae ganddynt dri o blant - Sarah, John a Mark. Mae ganddynt hefyd lawer o wahanol ymddiriedolaethau a chronfeydd elusennol, a'r fwyaf yw'r Linbury Trust - yr enw'n gyfuniad o Linden a Sainsbury. Mae pobl Trefor yn gyfarwydd â'i gweld yr cyrraedd y cae sydd o flaen yr Hen Offis mewn hofrennydd !

Fersiwn yn ôl 00:05, 19 Mawrth 2020

Yr Hen Offis oedd swyddfa gyntaf y Cwmni Ithfaen Cymreig (Welsh Granite Company) oedd yn cloddio yn chwarel gynta'r Eifl ar fôn Craig y Farchas. Lleolid y chwarel hon o ddwy bonc ym mhen draw y Gorllwyn (a gyfenwid ar lafar yn West End) wrth droed Mynydd Garnfor, yr agosaf i'r môr o dri mynydd yr Eifl ger Trefor. Fel Tai Bach West End yr adnabyddir y tai yn lleol.

Erbyn y flwyddyn 1854 roedd cerrig rhyddion yr Hen Ffolt ym Mhant y Farchas wedi eu dihysbyddu, Dyma pryd yr agorwyd y chwarel go-iawn gyntaf yn Nhrefor, a hynny ar y graig uwchben yr hen gloddfa, ac uwchben rhan o Allt Eithin Nant Bach. Dwy bonc oedd i'r chwarel hon ac fe'i hagorwyd gan Trefor Jones. Ar y cychwyn llwythid y cerrig i longau ar lan-môr y Gorllwyn - gwaith peryglus dros ben ac yn dibynnu'n llwyr ar gael tywydd teg. Ganol blynyddoedd y 1850au adeiladodd y Cwmni ei gei cyntaf yr ochr arall (ddwyreiniol) i Drwyn y Tâl (Y Clogwyn) a bu'n rhaid gosod cledrau yr holl ffordd o Graig y Farchas i'r Cei.

Llusgid y wagenni fesul dwy, yn llawn cerrig sets, gan geffyl. Yn y Gorllwyn, adeiladwyd swyddfa gerrig bwrpasol ar fin y tramwe, ynghyd â thŷ i Drefor Jones y Rheolwr, a stablau i'r ceffylau. Roedd hyn yn y flwyddyn 1853, ac agorwyd y tramwe y flwyddyn honno. Yma hefyd y pwysid y cerrig cyn eu cartio i'r Cei ac i'r llongau. Daeth Trefor Jones i fyw i'w dŷ newydd ym 1852 ar ôl dwyflynedd yn lojio yng Ngwydir Bach, ac yno y bu'n byw hyd ei farwolaeth ym Mehefin 1860 yn 52 oed. .

Defnyddiwyd y rheilffordd hon am oddeutu 14 blynedd, a phan gaewyd Chwarel Craig y Farchas ac agor y chwarel newydd, Chwarel yr Eifl, cafwyd inclên newydd o'r mynydd yn syth i lawr i'r Swyddfeydd newydd yn y Weirglodd Fawr. Hyn oll yn haf 1867. Bellach nid oedd angen y rheilffordd o'r Hen Offis i'r Weirglodd Fawr. Trowyd yr hen swyddfa yn dai, ac addaswyd y stablau hefgyd yn dai ar gyfer y chwarelwyr. Y tai hyn oedd y gris cyntaf fel petae i deuluoedd newydd, ac i aros am dŷ mwy a gwell yn y pentref ei hun. Bu pobl yn byw ynddynt am dros bedwar ugain o flynyddoedd.

Ers blynyddoedd bellach diflannodd yr hen dai bach a addaswyd o'r hen stablau, ond deil yr Hen Offis (deulawr) yn ddau dŷ, a hen dŷ unllawr Trefor Jones yn anneddleoedd tlws. Mae'r tri thŷ yn eiddo i un o wragedd cyfoethocaf Lloegr ac yn cael eu gosod ganddi fel tai gwyliau, yn ogystal â dod yno'i hun i aros yn yr haf. Perthynas yw hi (ganwyd 3 Ionawr 1933) i deulu'r Darbishires fu â llaw amlwg ym mherchnogaeth a rheolaeth Chwarel yr Eifl am flynyddoedd lawer, a byddai'n treulio ei gwyliau ym Mhlas yr Eifl gyda'r teulu. Ei henw bryd hynny oedd Anya Eltenton a threuliodd lawer o'i phlentyndod yg Nghaliffornia, UDA.

Yn 14 oed daeth i Loegr i fyw a dod yn ddisgybl yn Ysgol Sadler's Wells yn Llundain. Roedd yn ddawnswraig ballet arbennig o dalentog. Yn un ar hugain oedd fe'i dyrchafwyd yn 'Unawdydd', a phedair blynedd yn ddiweddarach yn Ballerina. Ymddeolodd ym 1963 pan briododd John Sainsbury.