Llyfni Huws: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Geraint (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Geraint (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Ganwyd William Llyfni Huws ar yr ail o Fehefin 1889 yn Llys y Delyn, Pen-y-groes, yn fab i William Hughes (a anwyd yn Llanllechid), a Jane ei wraig (o ardal Llangwnnadl yng ngwlad Llŷn a pherthynas i Dic Aberdaron). Ganwyd y ddau riant ym mlwyddyn y Llyfrau Gleision, 1847. Mab arall i William a Jane oedd y bardd Llyfnwy. Roedd yr aelwyd yn 30 Stryd y Bedyddwyr ym Mhen-y-groes yn un ddiwylliedig iawn mae'n amlwg. Roedd William Hughes y tad yn gryn englynwr a dysgodd ei grefft farddonol trwy gyfrwng llyfr cynganeddion a fenthycodd oddi wrth Urias Stephens, gwdeithiwr yng ngorsaf rheilffordd Pen-y-groes.

Daeth Llyfni i sylw'r genedl gyfan pan enillodd ar yr unawd canu penillion dean 18 oed yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon ym 1906. Gyda chymorth y Cymro enwog hwnnw, Syr O.M.Edwards, cafodd fyn ast Gwenynen Gwent i Lanofer am gyfnod i weithio a chael gwersi ar ganu'r delyn deires.

Priododd Llyfni Huws â merch o'r enw Matilda Jane Owen (1898-1987) o Lanwnnog yn Sir Drefaldwyn. Roedd yn ferch gerddorol iawn ac fe'i galwai ei hun yn Gerddores Eryri. Fe'i hurddwyd yn Eisteddfod Corwen ym 1919.
Ar 23 o Fawrth 1923, yng Nghapel Pen-dref, Llanfyllin, priododd Llyfni Huws â merch o'r enw Matilda (Mallt) Jane Owen (1898-1987) o Lanwnnog yn Sir Drefaldwyn. Roedd hi yn ferch gerddorol iawn ac fe'i galwai ei hun yn Gerddores Eryri. Fe'i hurddwyd yn Eisteddfod Corwen ym 1919.

Dilynodd Llyfni ei dad i'r chwarel ac yno y bu'n gweithio hyd ddydd ei briodas. Yna daeth yn argraffydd ac yn siopwr bach, gan ei anfarwoli ei hun fel bardd a cherddor, yn ganwr penillion a thelynor hyfedr.

Bu farw at y 4ydd o Ebrill 1962 ac fe'i claddwyd ym mynwent Macpela, Pen-y-groes.

Fersiwn yn ôl 00:39, 17 Mawrth 2020

Ganwyd William Llyfni Huws ar yr ail o Fehefin 1889 yn Llys y Delyn, Pen-y-groes, yn fab i William Hughes (a anwyd yn Llanllechid), a Jane ei wraig (o ardal Llangwnnadl yng ngwlad Llŷn a pherthynas i Dic Aberdaron). Ganwyd y ddau riant ym mlwyddyn y Llyfrau Gleision, 1847. Mab arall i William a Jane oedd y bardd Llyfnwy. Roedd yr aelwyd yn 30 Stryd y Bedyddwyr ym Mhen-y-groes yn un ddiwylliedig iawn mae'n amlwg. Roedd William Hughes y tad yn gryn englynwr a dysgodd ei grefft farddonol trwy gyfrwng llyfr cynganeddion a fenthycodd oddi wrth Urias Stephens, gwdeithiwr yng ngorsaf rheilffordd Pen-y-groes. Daeth Llyfni i sylw'r genedl gyfan pan enillodd ar yr unawd canu penillion dean 18 oed yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon ym 1906. Gyda chymorth y Cymro enwog hwnnw, Syr O.M.Edwards, cafodd fyn ast Gwenynen Gwent i Lanofer am gyfnod i weithio a chael gwersi ar ganu'r delyn deires.