Llyfni Huws: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Geraint (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ganwyd William Llyfni Huws ar yr ail o Fehefin 1889 ym Mhen-y-groes yn fab i William Hughes, a anwyd yn Llanllechid, a Jane, gwraig o ardal Llangwnnadl yn...'
 
Geraint (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Ganwyd William Llyfni Huws ar yr ail o Fehefin 1889 ym Mhen-y-groes yn fab i William Hughes, a anwyd yn Llanllechid, a Jane, gwraig o ardal Llangwnnadl yng ngwlad Llŷn. Ganwyd y ddau riant ym mlwyddyn y Llyfrau Gleision, 1847. Mab arall i William a Jane oedd y bardd Llyfnwy. Roedd yr aelwyd yn 30 Stryd y Bedyddwyr ym Mhen-y-groes yn un ddiwylliedig iawn mae'n amlwg.
Ganwyd William Llyfni Huws ar yr ail o Fehefin 1889 yn Llys y Delyn, Pen-y-groes, yn fab i William Hughes (a anwyd yn Llanllechid), a Jane ei wraig (o ardal Llangwnnadl yng ngwlad Llŷn a pherthynas i Dic Aberdaron). Ganwyd y ddau riant ym mlwyddyn y Llyfrau Gleision, 1847. Mab arall i William a Jane oedd y bardd Llyfnwy. Roedd yr aelwyd yn 30 Stryd y Bedyddwyr ym Mhen-y-groes yn un ddiwylliedig iawn mae'n amlwg. Roedd William Hughes y tad yn gryn englynwr a dysgodd ei grefft farddonol trwy gyfrwng llyfr cynganeddion a fenthycodd oddi wrth Urias Stephens, gwdeithiwr yng ngorsaf rheilffordd Pen-y-groes.

Priododd Llyfni Huws â merch o'r enw Matilda Jane Owen (1898-1987) o Lanwnnog yn Sir Drefaldwyn. Roedd yn ferch gerddorol iawn ac fe'i galwai ei hun yn Gerddores Eryri. Fe'i hurddwyd yn Eisteddfod Corwen ym 1919.

Fersiwn yn ôl 01:33, 17 Mawrth 2020

Dilynodd Llyfni ei dad i'r chwarel ac yno y bu'n gweithio hyd ddydd ei briodas. Yna daeth yn argraffydd ac yn siopwr bach, gan ei anfarwoli ei hun fel bardd a cherddor, yn ganwr penillion a thelynor hyfedr.

Bu farw at y 4ydd o Ebrill 1962 ac fe'i claddwyd ym mynwent Macpela, Pen-y-groes.