Robert Roberts, almanaciwr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Malan% (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '== Robert Roberts yr Almanaciwr == Roedd '''Robert Roberts (1777-1836)''' yn fab i Siôn Robert Lewis (John Roberts) o Llanaelhaearn/Lanaelhaearn...'
 
Malan% (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
== Robert Roberts yr Almanaciwr ==
== Robert Roberts, Almanaciwr ==


Roedd '''Robert Roberts (1777-1836)''' yn fab i [[Siôn Robert Lewis]] (John Roberts) [[o Llanaelhaearn/Lanaelhaearn]] yn wreiddiol a Margaret Roberts (née Jones), Caergybi.  
Roedd '''Robert Roberts (1777-1836)''' yn fab i [[Siôn Robert Lewis]] (John Roberts) [[o Llanaelhaearn/Lanaelhaearn]] yn wreiddiol a Margaret Roberts (née Jones), Caergybi.  
Llinell 8: Llinell 8:


Bu farw 2 Awst 1836 yn 58 mlwydd oed.<ref>Allan o ''Y Bywgraffiadur Cymraeg''</ref>
Bu farw 2 Awst 1836 yn 58 mlwydd oed.<ref>Allan o ''Y Bywgraffiadur Cymraeg''</ref>
{{eginyn}}
==Cyfeiriadau==
[[Categori:Pobl ]]
[[Categori:Diwylliant]]
[[Categori:Awduron]]

Fersiwn yn ôl 22:48, 22 Chwefror 2020

Robert Roberts, Almanaciwr

Roedd Robert Roberts (1777-1836) yn fab i Siôn Robert Lewis (John Roberts) o Llanaelhaearn/Lanaelhaearn yn wreiddiol a Margaret Roberts (née Jones), Caergybi.

Dilynodd ei dad fel cyhoeddwr a golygydd almanaciau poblogaidd Caergybi, o dan y teitlau ’’Cyfaill Glandeg’’, ’’Cyfaill Taeredd’’, ayb., o 1805 hyd 1837. Argraffwyd y rhain gan John Jones o Drefriw gyda ffugargraffnod Dulyn arnynt er mwyn osgoi treth y Llywodraeth. Cyhoeddodd hefyd ’’Eurgrawn Môn’’, neu ’’Y Drysorfa Hanesyddol’’, 1825-6, a ddarfu gyda rhif 21.

Ef hefyd oedd awdur ’’Daearyddiaeth Gymreig’’ (Caer, 1816), a ’’Seryddiaeth neu lyfr gwybodaeth yn dangos rheoliad y planedau ar bersonau dynion’’ (Llanrwst, 1830).

Bu farw 2 Awst 1836 yn 58 mlwydd oed.[1]


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Allan o Y Bywgraffiadur Cymraeg