David Jones (Dewi Arfon): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Hebog (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ganwyd '''David Hugh Jones''' (1833-69), a adnabyddir fel arall heddiw yn ôl ei enw barddol ''Dewi Arfon'', yn y Tŷ Du, Llanberis. Brawd iddo oedd cyfan...' |
Hebog (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 4: | Llinell 4: | ||
==Darllen pellach== | ==Darllen pellach== | ||
''Gweithiau Dewi sef, cynhyrchion barddonol a rhyddieithol y diweddar Barch. David Jones (Dewi Arfon)'' (Caernarfon 1873), gol. Gutyn Arfon | * ''Gweithiau Dewi sef, cynhyrchion barddonol a rhyddieithol y diweddar Barch. David Jones (Dewi Arfon)'' (Caernarfon 1873), gol. Gutyn Arfon | ||
Anthropos, ''Camrau Llwyddiant: trem ar fywyd Dewi Arfon'' | * Anthropos, ''Camrau Llwyddiant: trem ar fywyd Dewi Arfon'' | ||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== |
Fersiwn yn ôl 12:07, 18 Chwefror 2020
Ganwyd David Hugh Jones (1833-69), a adnabyddir fel arall heddiw yn ôl ei enw barddol Dewi Arfon, yn y Tŷ Du, Llanberis. Brawd iddo oedd cyfansoddwr yr emyn-dôn Llef. Roedd ei dad yn chwarelwr.
Cafodd rywfaint o addysg nes iddo fod yn 11 oed pan aeth yntau i'r chwarel i weithio. Yn 20 oed bu'n wael iawn, ac ni chafodd iechyd cadarn wedi hynny. Penderfynodd fynd yn ddisgybl-athro gan ddilyn gyrfa fel athro, ac fe ddysgodd yn Llanberis (yn ei hen ysgol),cyn derbyn hyfforddiant yng ngholeg hyfforddi athrawon y Borough yn Llundain. Dychwelodd i Gymru i swydd fel athro yn Llanrwst am 4 blynedd cyn penderfynu ymgweisio am y weinidogaeth, gan fynd at Eben Fardd yn ei ysgol yng Nghlynnog Fawr i dderbyn mwy o hyfforddiant. Dilynodd Eben Fardd fel athro [[Ysgol Eben Fardd|yr ysgol, a chafodd ei ordeinio ym 1867. Bu farw ym 1869 fodd bynnag, cyn iddo fedru symud i dŷ a baratowyd iddo gan yr achos yng Nghlynnog.[1]
Darllen pellach
- Gweithiau Dewi sef, cynhyrchion barddonol a rhyddieithol y diweddar Barch. David Jones (Dewi Arfon) (Caernarfon 1873), gol. Gutyn Arfon
- Anthropos, Camrau Llwyddiant: trem ar fywyd Dewi Arfon
Cyfeiriadau
- ↑ W. Hobley, ‘’Hanes Methodistiaeth Arfon’’, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.93