Bad achub Trefor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Agorodd gorsaf '''Bad achub Trefor''' 19 Ebrill 1883, ac fe'i gaewyd ym 1901. Yn swyddogol, galwyd yr orsaf yn orsaf bad achub Llanaelhaearn, gan mai...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Agorodd gorsaf '''Bad achub Trefor''' 19 Ebrill 1883, ac fe'i gaewyd ym 1901. Yn swyddogol, galwyd yr orsaf yn orsaf bad achub [[Llanaelhaearn]], gan mai yn y plwyf hwnnw y lleolwyd y cwch. fe godwyd cwt i'r bad achub ger cei [[Cwmni Ithfaen Trefor]]. Yr unig fad achub parhaol i wasanaethu yn yr orsaf oedd y ''Cyprian'', a enwyd ar ôl y llong a ddrylliwyd wrth Gwmhistir, ac fe'i gyflwynwyd yn rhodd i Sefydliad Cenedlaethol y Badau Achub er cof
Agorwyd gorsaf '''Bad achub Trefor''' 19 Ebrill 1883, ac fe'i gaewyd ym 1901. Yn swyddogol, galwyd yr orsaf yn orsaf bad achub [[Llanaelhaearn]], gan mai yn y plwyf hwnnw y lleolwyd y cwch. fe godwyd cwt i'r bad achub ger cei [[Cwmni Ithfaen Trefor]]. Penderfynwyd bod angen bad achub rhwng Portinlläen a LLanddwyn yn sgil llongddrylliad y ''Cyprian'', llong fawr a gollwyd ar y creigiau ger Cwmhistir.
 
Yr unig fad achub parhaol i wasanaethu yn yr orsaf oedd y ''Cyprian'', cwch modern hunan-gywirol (sef a fyddai'n troi ben chwith i fyny pe bai'r tonnau yn ei droi ben chwith i lawr). Enwyd y cwch hwn ar ôl y llong a ddrylliwyd wrth Gwmhistir, ac fe'i gyflwynwyd yn rhodd i Sefydliad Cenedlaethol y Badau Achub er cof am gapten y ''Cyprian'', Capten Strachan. Tawel fu hynt bad achub Trefor; roedd y cwch sefydlog, y ''Cyprian'', yn cael ei atgyweirio a chwch dros dro aeth allan ar yr alwad cyntaf, na ddigwyddodd tan 1890, pan aeth allan ddwywaith yr un diwrnod i helpu'r sgwner ''Reknown'' o Abertawe, ac wedyn y sgwner ''Ceres'' o Gaernarfon. Unig wasanaeth y ''Cyprian'' ei hun oedd ar 24 Awst 1894, pan aeth allan i gynorthwyocwch pysgota, yr ''Annie Jones''.
 
Arhosodd yr orsaf ar agor tan 1901 ond ni ddaeth alwad arall am wasanaeth y bad achub; erbyn hynny oedd y ''Cyprian'' yn annerbyniol o ran ei gyflwr a ddaethpwyd yr orsaf i ben.
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Morwrol]]

Fersiwn yn ôl 14:36, 16 Chwefror 2020

Agorwyd gorsaf Bad achub Trefor 19 Ebrill 1883, ac fe'i gaewyd ym 1901. Yn swyddogol, galwyd yr orsaf yn orsaf bad achub Llanaelhaearn, gan mai yn y plwyf hwnnw y lleolwyd y cwch. fe godwyd cwt i'r bad achub ger cei Cwmni Ithfaen Trefor. Penderfynwyd bod angen bad achub rhwng Portinlläen a LLanddwyn yn sgil llongddrylliad y Cyprian, llong fawr a gollwyd ar y creigiau ger Cwmhistir.

Yr unig fad achub parhaol i wasanaethu yn yr orsaf oedd y Cyprian, cwch modern hunan-gywirol (sef a fyddai'n troi ben chwith i fyny pe bai'r tonnau yn ei droi ben chwith i lawr). Enwyd y cwch hwn ar ôl y llong a ddrylliwyd wrth Gwmhistir, ac fe'i gyflwynwyd yn rhodd i Sefydliad Cenedlaethol y Badau Achub er cof am gapten y Cyprian, Capten Strachan. Tawel fu hynt bad achub Trefor; roedd y cwch sefydlog, y Cyprian, yn cael ei atgyweirio a chwch dros dro aeth allan ar yr alwad cyntaf, na ddigwyddodd tan 1890, pan aeth allan ddwywaith yr un diwrnod i helpu'r sgwner Reknown o Abertawe, ac wedyn y sgwner Ceres o Gaernarfon. Unig wasanaeth y Cyprian ei hun oedd ar 24 Awst 1894, pan aeth allan i gynorthwyocwch pysgota, yr Annie Jones.

Arhosodd yr orsaf ar agor tan 1901 ond ni ddaeth alwad arall am wasanaeth y bad achub; erbyn hynny oedd y Cyprian yn annerbyniol o ran ei gyflwr a ddaethpwyd yr orsaf i ben.

Cyfeiriadau