Howell Roberts (Hywel Tudur): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
   
   
Roedd '''Howell Roberts''' (Hywel Tudur) (1840-1922) yn fardd, pregethwr a dyfeisydd.  Fe'i ganwyd ar yr 21ain o Awst 1840 yn drydydd o wyth o blant mewn bwthyn ger y ffordd rhwng Pandy Tudur a Moelogan. Adeiladydd oedd ei dad, Humphrey Roberts, a fyddai'n codi a gwerthu tai. Dechreuodd ymddiddori mewn barddoni yn gynnar a threuliodd dymor yng Ngholeg Hyfforddi Caernarfon cyn mynd i bentref [[Llanllyfni]] i gadw ysgol - heb fod nepell o [[Clynnog Fawr|Glynnog]] lle y trigai ei eilun [[Eben Fardd]].  
Roedd '''Howell Roberts''' (Hywel Tudur) (1840-1922) yn fardd, pregethwr a dyfeisydd.  Fe'i ganwyd ar yr 21ain o Awst 1840 yn drydydd o wyth o blant mewn bwthyn ger y ffordd rhwng Pandy Tudur a Moelogan. Adeiladydd oedd ei dad, Humphrey Roberts, a fyddai'n codi a gwerthu tai.  
 
Ar ôl treulio cyfnod yn cael ei hyfforddi'n athro yng Ngholeg Hyfforddi Caernarfon penodwyd Hwyel Tudur yn athro am gyfnod byr yn Ysgol Clynnog Fawr, cyn symud yn ysgolfeistr i bentref [[Llanllyfni]]. Yn fuan wedi iddo symud i Glynnog, priododd ar 30 Medi 1863 â Margaret Jane Williams o fferm Hafod-y-Wern, Clynnog a chawsant bump o blant. Erbyn Cyfrifiad 1871 roedd y teulu wedi ymgartrefu yn Nhŷ'r Ysgol Llanllyfni, lle'r arhosodd yn athro tan 1874. Er fod Hywel Tudur yn un a ymddiddorai'n fawr mewn llenyddiaeth a barddoniaeth Gymraeg, eto gweithredid trefn atgas y "Welsh Not" yn ystod ei gyfnod yn Llanllyfni, fel y nododd yn llyfr log yr ysgol ar 20 Rhagfyr 1872: "The past week is memorable in the fact that Welsh has been transported from the premises in all the Standards below Standard 3". (Mae fel pe bai'n ymfalchïo yn y ffaith rhywsut, ac yn wir gwaherddid plant Standard 5 a 6 rhag siarad Cymraeg hyd yn oed ar y ffordd i'r ysgol!)
 
Yn Llanllyfni ymunodd ag achos y Methodistiaid Calfinaidd yno. Daeth yn flaenor yn fuan ac yna dechreuodd bregethu fel pregethwr cynorthwyol. Erbyn 1879 daeth i weinidogaethu dros yr achos yn Capel Uchaf Clynnog ac fe'i hordeiniwyd yn weinidog yn y Gymdeithasfa a gynhaliwyd yng Nghaernarfon ym 1881. Yn ddiweddarach daeth yn weinidog capel Seion, Gurn Goch yn ogystal.
 
Mae'n ymddangos iddo golli ei swydd fel ysgolfeistr Llanllyfni ym 1874 a symudodd gyda'i deulu i gartref ei wraig, Hafod-y-Wern lle bu'n ffermio gyda'i dad-yng-nghyfraith am gyfnod yn ogystal â chyflawni ei ddyletswyddau fel gweinidog. Bu farw Margaret Jane ei wraig yn ddynes bur ifanc ac yn ddiweddarach ailbriododd Hywel Tudur â merch o'i fro enedigol, a oedd yn chwaer i'r Parch. Dewi Williams, a fu am nifer o flynyddoedd yn brifathro Ysgol Ragbaratoawl Clynnog, a gynhelid yn yr Ysgoldy, sydd bellach yn gartref i Ganolfan Hanes Uwchgwyrfai. Cafwyd dau o blant o'r ail briodas.


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Fersiwn yn ôl 15:53, 26 Awst 2022

Roedd Howell Roberts (Hywel Tudur) (1840-1922) yn fardd, pregethwr a dyfeisydd. Fe'i ganwyd ar yr 21ain o Awst 1840 yn drydydd o wyth o blant mewn bwthyn ger y ffordd rhwng Pandy Tudur a Moelogan. Adeiladydd oedd ei dad, Humphrey Roberts, a fyddai'n codi a gwerthu tai.

Ar ôl treulio cyfnod yn cael ei hyfforddi'n athro yng Ngholeg Hyfforddi Caernarfon penodwyd Hwyel Tudur yn athro am gyfnod byr yn Ysgol Clynnog Fawr, cyn symud yn ysgolfeistr i bentref Llanllyfni. Yn fuan wedi iddo symud i Glynnog, priododd ar 30 Medi 1863 â Margaret Jane Williams o fferm Hafod-y-Wern, Clynnog a chawsant bump o blant. Erbyn Cyfrifiad 1871 roedd y teulu wedi ymgartrefu yn Nhŷ'r Ysgol Llanllyfni, lle'r arhosodd yn athro tan 1874. Er fod Hywel Tudur yn un a ymddiddorai'n fawr mewn llenyddiaeth a barddoniaeth Gymraeg, eto gweithredid trefn atgas y "Welsh Not" yn ystod ei gyfnod yn Llanllyfni, fel y nododd yn llyfr log yr ysgol ar 20 Rhagfyr 1872: "The past week is memorable in the fact that Welsh has been transported from the premises in all the Standards below Standard 3". (Mae fel pe bai'n ymfalchïo yn y ffaith rhywsut, ac yn wir gwaherddid plant Standard 5 a 6 rhag siarad Cymraeg hyd yn oed ar y ffordd i'r ysgol!)

Yn Llanllyfni ymunodd ag achos y Methodistiaid Calfinaidd yno. Daeth yn flaenor yn fuan ac yna dechreuodd bregethu fel pregethwr cynorthwyol. Erbyn 1879 daeth i weinidogaethu dros yr achos yn Capel Uchaf Clynnog ac fe'i hordeiniwyd yn weinidog yn y Gymdeithasfa a gynhaliwyd yng Nghaernarfon ym 1881. Yn ddiweddarach daeth yn weinidog capel Seion, Gurn Goch yn ogystal.

Mae'n ymddangos iddo golli ei swydd fel ysgolfeistr Llanllyfni ym 1874 a symudodd gyda'i deulu i gartref ei wraig, Hafod-y-Wern lle bu'n ffermio gyda'i dad-yng-nghyfraith am gyfnod yn ogystal â chyflawni ei ddyletswyddau fel gweinidog. Bu farw Margaret Jane ei wraig yn ddynes bur ifanc ac yn ddiweddarach ailbriododd Hywel Tudur â merch o'i fro enedigol, a oedd yn chwaer i'r Parch. Dewi Williams, a fu am nifer o flynyddoedd yn brifathro Ysgol Ragbaratoawl Clynnog, a gynhelid yn yr Ysgoldy, sydd bellach yn gartref i Ganolfan Hanes Uwchgwyrfai. Cafwyd dau o blant o'r ail briodas.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma