Hendref (Llanaelhaearn): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''Hendre''', neu '''Yr Hendre''' yw hen enw ardal isaf plwyf Llanaelhaearn, lle ceir pentref Trefor heddiw. Ni sefydlwyd y pentref tan yr 1850au, a c...'
 
B Symudodd Heulfryn y dudalen Hendre i Hendre (Llanaelhaearn) heb adael dolen ailgyfeirio
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 18:35, 10 Chwefror 2020

Hendre, neu Yr Hendre yw hen enw ardal isaf plwyf Llanaelhaearn, lle ceir pentref Trefor heddiw. Ni sefydlwyd y pentref tan yr 1850au, a chyn hynny, casgliad o ffermydd a thyddynnod oedd yn yr ardal. Mae ambell un hyd heddiw yn cyfeirio at yr ardal fel "'Rhendre". Hendre ei hun yn golygu fferm yr aeaf, lle cedwid y stoc dros y gaeaf. Yn yr haf, byddid yn gyrru'r anifeiliaid i dir uwch i bori tra thyfid cnydau a gwair ar y tir isel gorau yn yr hendre. Gellir gweld mor addas yw ardal Trefor fel man i sefydlu hendre oherwydd mae'r rhan fwyaf o blwyf Llanaelhaearn yn fwy mynyddig a/neu gorsiog.