Hugh Williams, Cwm: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Geraint (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 50: | Llinell 50: | ||
Roedd Hugh Williams yn Hen-hen-hen-hen-daid i'r Prifardd [[Guto Dafydd]], enillydd y goron yn Eisteddfodau Sir Gâr (2014) a Sir Conwy (2019). | Roedd Hugh Williams yn Hen-hen-hen-hen-daid i'r Prifardd [[Guto Dafydd]], enillydd y goron yn Eisteddfodau Sir Gâr (2014) a Sir Conwy (2019). | ||
Claddwyd Hugh Williams ym mynwent Llanaelhaearn. | Claddwyd Hugh Williams ym mynwent Llanaelhaearn ganol mis Mawrth 1893. Gwasanaethwyd yn ei angladd gan y Parchedigion Roderick Lumley (ei weinidog), Roberts, Pwllheli, a Davies, Llithfaen. Claddwyd dan y drefn newydd. | ||
[[Categori:Pobl]] | [[Categori:Pobl]] | ||
[[Categori:Beirdd]] | [[Categori:Beirdd]] | ||
[[Categori:Emynwyr]] | [[Categori:Emynwyr]] |
Fersiwn yn ôl 20:59, 24 Chwefror 2020
Brodor o gyffiniau'r Efailnewydd ger Pwllheli oedd Hugh Williams a chafodd waith yn hogyn ifanc fel gwas ffarm yng Nghwm Coryn, Llanaelhaearn. Dyna pryd y dechreuodd fynychu oedfaon Capel Bethlehem (A), Trefor.
Priododd ag Elizabeth, merch William Thomas, hen godwr canu'r Bedyddwyr yn y plwyf, a bu'r ddau yn weithgar gyda'r Ysgol Sul undebol a gynhelid am gyfnod ym Meudy Gwyn Sychnant (gerllaw Cae Cropa). Yn fuan ar ôl priodi aethant i fyw i Caerfoty-bach, sydd er canrif a rhagor o dan domen fawr Chwarel yr Eifl. Bu'n gweini ar y ffermydd lleol a hefyd yn ystod y cynhaeaf ŷd yn Sir Fôn, yn ogystal â bod yn un o weithlu cloddio twnel y rheilffordd ym Mhenmaenmawr.
Bu'n nodedig am ei sêl i'r achos ym Methlehem (Maesyneuadd) gydol ei oes ac am gyfnod yn y 1850au yn gyd-ddiacon yno â Threfor Jones, Rheolwr Chwarel yr Eifl. Byddai wrth ei fodd yn cyfansoddi emynau, a mabwysiadodd yn enw barddol, Iolo Goch. Gwaetha'r modd nid erys ond un o'i emynau.
Llwyddiant yr Efengyl Boed llwyddiant i'r Efengyl Ledaenu tros y byd, Nes cael i lawr y delwau A'r holl eilunod mud ; Y bwystfil a'r gau-broffwyd A'r pagan gyda hwy Fo'n plygu i enw'r Iesu A'i ddwyfol farwol glwy.
Yr Iesu a groeshoeliwyd Ar fynydd Calfarî, Yw Awdur yr Efengyl A'i theilwng wrthrych hi. Daw eto lwythau Israel O bedwar gwynt y nef A'u dagrau ar eu gruddiau I'w ogoneddu ef.
Ysbeiliodd angau creulon O'i hen awdurdod gaeth Cyn toriad gwawr y bora Yn rhydd o'i rwymau daeth. Goriadau pyrth marwolaeth Oedd wrth ei wregys Ef, Esgynnodd i ogoniant, Mae 'nghadw yn y nef.
Ceir rhai pytiau byrion o'i waith hwnt ac yma, a'r oll, hyd y gwyddys, yn Feiblaidd e.e.
Danfonodd Duw ei Air i ni Oedd addas i'n cynghori, Trwy ysbrydoliaeth Tri yn Un Derbyniodd y proffwydi...
Elias ar lan afon Cerith Y gigfran ddaeth ar adain gyflym A darn o fara yn ei gylfin, Digon, gwir, a bara yn ei chylfin.
Roedd Hugh Williams yn Hen-hen-hen-hen-daid i'r Prifardd Guto Dafydd, enillydd y goron yn Eisteddfodau Sir Gâr (2014) a Sir Conwy (2019).
Claddwyd Hugh Williams ym mynwent Llanaelhaearn ganol mis Mawrth 1893. Gwasanaethwyd yn ei angladd gan y Parchedigion Roderick Lumley (ei weinidog), Roberts, Pwllheli, a Davies, Llithfaen. Claddwyd dan y drefn newydd.