John Roberts, Lleiniau Hirion: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Ychydig a wyddom am | Ychydig a wyddom am '''John Roberts''', un o feirdd yr [[Hendre]] (gwaelod plwyf [[Llanaelhaearn]]). Roedd yn byw yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. | ||
Ar un cyfnod bu'n cadw ysgol yn hen gapel Llithfaen. | Ar un cyfnod bu'n cadw ysgol yn hen gapel Llithfaen. |
Fersiwn yn ôl 13:47, 10 Chwefror 2020
Ychydig a wyddom am John Roberts, un o feirdd yr Hendre (gwaelod plwyf Llanaelhaearn). Roedd yn byw yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Ar un cyfnod bu'n cadw ysgol yn hen gapel Llithfaen.
Ym 1832 aeth i Sasiwn Pwllheli lle y pregethai John Elias o Fôn ag arddeliad arbennig ar 'Berson Crist'. Cafodd y bregeth ysgytwol hon effaith mawr ar John ac yn ystod yr awr ginio yn yr ysgol y diwrnod dilynol, eisteddodd ar ben camfa ger y capel a'r plant yn chwarae o'i amgylch. Cyfansoddodd y pennill hwn, seiliedig ar bregeth John Elias :
Mab uniganedig, un odiaeth, 'R un fath ei naturiaeth â'r Tad, 'R un oedran, 'r un anian, 'r un enw, 'R un ddelw - hardd loyw, 'r un wlad ; 'R un iaith, yr un waith, yr un ethol, 'R un 'wyllys i'w bobl gael byw, 'R un nerth, yr un gwerth, yr un gwyrthiau, 'R un geiriau, 'r un deddfau, 'r un Duw.
Ar ôl yr ysgol y diwrnod hwnnw, aeth John draw i hen fferm y Gwynus yn y Pistyll at hen wreigan dduwiol oedd yn byw yno, ac adrodd ei bennill newydd iddi. Aeth y ddau i orfoleddu a moliannu wrth ganmol Crist. Yr hen wraig honno gofiodd y pennill.