Pen Hendra: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Geraint (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 3: Llinell 3:
1. ''Allt 'Rhendra'', sef yr allt o Drefor i [[Llanaelhaearn]].
1. ''Allt 'Rhendra'', sef yr allt o Drefor i [[Llanaelhaearn]].


2. Ceir yma dŷ o'r enw ''Hendra'' a arferai fod yn gartref i un o feirdd amlwg y fro, [[William Roberts (Gwilym Ceiri)]], awdur yr englyn adnabyddus i'r Pistyll.
2. Ceir yma dŷ o'r enw ''Hendref'' a arferai fod yn gartref i un o feirdd amlwg y fro, [[William Roberts (Gwilym Ceiri)]], awdur yr englyn adnabyddus i'r Pistyll.


3. Un o ffermydd hynaf a phwysicaf yr ardal yw ''Hendre Fawr'', sydd wrth sawdl yr Eifl. Yma bu achos cynnar Bedyddwyr y plwyf yn cyfarfod cyn codi eu capel cyntaf, [[Capel Saron (B), Llanaelhaearn]] ym 1814.
3. Un o ffermydd hynaf a phwysicaf yr ardal yw ''Hendre Fawr'', sydd wrth sawdl yr Eifl. Yma bu achos cynnar Bedyddwyr y plwyf yn cyfarfod cyn codi eu capel cyntaf, [[Capel Saron (B), Llanaelhaearn]] ym 1814.

Golygiad diweddaraf yn ôl 22:22, 18 Mai 2020

Pen Hendra (neu Ben Hendra) yw'r enw a ddefnyddir bob amser gan drigolion Trefor am sgwâr y pentref. Hendref, neu Hendra, oedd hen enw'r ardal hon wrth droed Yr Eifl yn Arfon cyn gosod carreg sylfaen pentref newydd y Cwmni Ithfaen Cymreig ar y 12fed o Ebrill 1856, sef pentref Trefor. Deil yr enw Hendra i gael ei ddefnyddio yn Nhrefor hyd heddiw :

1. Allt 'Rhendra, sef yr allt o Drefor i Llanaelhaearn.

2. Ceir yma dŷ o'r enw Hendref a arferai fod yn gartref i un o feirdd amlwg y fro, William Roberts (Gwilym Ceiri), awdur yr englyn adnabyddus i'r Pistyll.

3. Un o ffermydd hynaf a phwysicaf yr ardal yw Hendre Fawr, sydd wrth sawdl yr Eifl. Yma bu achos cynnar Bedyddwyr y plwyf yn cyfarfod cyn codi eu capel cyntaf, Capel Saron (B), Llanaelhaearn ym 1814.

4. "Mynd draw i'r Hendra" wnaiff trigolion ardal glan y môr ; "mynd lawr Hendra" wneir o ran arall, ac "i fyny'r Hendra" o'r gwaelodion.

5. Bu fferm fechan o'r enw Hendref yng nghanol lle saif y pentref heddiw, ond fe chwalodd y Cwmni Ithfaen Cymreig y ffermdy a chodi tai i'r chwarelwyr ar y tir.

Cyfeirir hefyd, wrth gwrs, at bobl Trefor fel Pobol 'Rhendra.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma