R.P. Hughes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Geraint (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Bu Robert Peter Hughes yn Reithor plwyf Llanaelhaearn o 1894 hyd 1902. Roedd yn ŵr priod ac yn frodor o'r Rhyl, ac ym 1876 graddiodd yn B.A. ym Mhrifysg...'
 
B Symudodd Heulfryn y dudalen R. P. Hughes i R.P. Hughes heb adael dolen ailgyfeirio
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 10:53, 7 Chwefror 2020

Bu Robert Peter Hughes yn Reithor plwyf Llanaelhaearn o 1894 hyd 1902.

Roedd yn ŵr priod ac yn frodor o'r Rhyl, ac ym 1876 graddiodd yn B.A. ym Mhrifysgol Llundain. Fe'i ordeiniwyd yn ddiacon ym mis Mai 1877 ac yn offeiriad flwyddyn yn ddiweddarach. O 1877 hyd 1894 bu'n gurad Llanbeblig, Caernarfon, a thra yno roedd hefyd yn Gaplan Carchar Caernarfon (1881-94). O 1886 hyd 1888 bu'n Gaplan i Uchel Siryf y sir.

Fe'i sefydlwyd yn Reithor plwyf Llanaelhaearn ar 25 Ionawr 1894. Gadawodd y plwyf ym 1902 i fod yn rheithor Llanfaethlu ym Môn, lle y bu hyd ei farwolaeth ym 1909. Cair tabled er cof amdano yn yr eglwys honno.