W. Jarrett Roberts (Pencerdd Eifion): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 6: | Llinell 6: | ||
'''Carnarvon Musical Instrument Warehouse''' | '''Carnarvon Musical Instrument Warehouse''' | ||
Bridge Street. | Bridge Street. | ||
Perchennog : W. Jarrett Roberts. | Perchennog : W. Jarrett Roberts. | ||
Dros 150 o pianos a harmoniums mewn stoc, | Dros 150 o pianos a harmoniums mewn stoc, | ||
o 3 gini hyd at 200 gini. | o 3 gini hyd at 200 gini. | ||
Brass Bands etc. mewn stoc. | Brass Bands etc. mewn stoc. | ||
Fersiwn yn ôl 09:37, 4 Chwefror 2020
Ganwyd W. Jarrett Roberts (1844-1886), a alwai'i hun yn Pencerdd Eifion, yn Awst, 1844, yn fab i William a Grace Roberts, Berth, Llanllyfni. Yn llanc, aeth i Lerpwl i weithio fel saer coed.
Dychwelodd i Gymru tua 1874 gan ddechrau busnes fel 'gwneuthurwr offerynnau cerdd' yng Nghaernarfon. Roedd yn entrepreneur craff a llwyddodd y busnes gan sefydlu canghennau iddo yn Ninbych, Bangor, Llandudno, Ffestiniog a Llangefni. Bu gan y Pencerdd warws enfawr yn y Bont Bridd, Caernarfon - y Carnarvon Musical Instrument Warehouse lle ceid amrywiaeth eang o offerynnau a cherddoriaeth.
Hysbysebai'n gyson yn y papurau lleol, a thu hwnt yn wir. Dyma un enghraifft o'i hysbyseb, a hynny'n 1879, a'r busnes yn ffynnu.
Carnarvon Musical Instrument Warehouse Bridge Street. Perchennog : W. Jarrett Roberts. Dros 150 o pianos a harmoniums mewn stoc, o 3 gini hyd at 200 gini. Brass Bands etc. mewn stoc.
Roedd yn gerddor rhagorol ac yn cyfansoddi llawer e.e. y gantata Gorlifiad Cantre'r Gwaelod y bu helynt mawr ynglŷn â hi yn Eisteddfod Genedlaethol Merthyr ym 1881. Hefyd y motet Gweledigaeth Ioan, a llu o unawdau ac anthemau. Ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, 1877, cyfansoddodd y scena i fariton, Atgofion y Morwr, y geiriau o bryddest Llew Llwyfo, Drylliad y Royal Charter. Cân arall ganddo oedd Caled yw ei Chalon (ar gyfer y tenorydd enwog James Sauvage) i eiriau Morwyllt o Langefni. Ond ei gân fwyaf poblogaidd oedd Hogyn Gyrru'r Wedd, y geiriau gan Mynyddog.
Bu farw'r Pencerdd ar yr ail o Dachwedd 1886 yn ei gartref yn 163 Stryd Fawr, Bangor.