Samuel Holland: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 12: Llinell 12:


Bu farw ym 1892, a bu farw'i briod, Caroline Jane Burt, ym 1924.
Bu farw ym 1892, a bu farw'i briod, Caroline Jane Burt, ym 1924.
Yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ceir llawysgrif hynod o ddiddorol gan Samuel Holland - 'MEMOIRS' - a'i chyfeiriad yw NLW MS 4983 C. Dyma gyfieithiad o'r rhannau sy'n berthnasol i hanes dechreuadau'r diwydiant ithfaen ym mro'r Eifl :
Admiral Lloyd, Tregaean, Môn, oedd perchennog Mynydd y Gwylwyr. Gwneuthum gais iddo am brydles o'r mynydd a chefais un
dros gyfnod heb rhent penodedig ond fyu mod i dalu dwy geiniog y dunnell ar yr holl gerrig fyddai'n cael eu cario oddi yno.
Pan aeth ein cynllun o gael rheilffordd o Fangor i Bortinllaen i'r gwellt, a minnau wedi cael prydles y Gwylwyr ar delerau mor ffafriol
gan Admiral Lloyd, meddyliais am rywbeth i'w wneud â'r lle a hynny trwy sylwi ar y cerrig. Teimlais eu bod yn edrych yn addas ar gyfer gwneud setiau palmantu, ac felly mi a euthum gyda dyn roeddwn yn ei gyflogi, un Trefor Jones, draw i Benmaen-mawr lle ceid dwy neu dair chwarel yn cynhyrchu setiau. Edrychasom arnynt ac ar y dull o'u cynhyrchu, ac euthum ati'n syth i gyflogi dau o'r dynion i ddod draw i'r Gwylwyr gyda'u morthwylion. Rhoesom gynnig ar y cerrig yno.


[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Diwydianwyr a Chyfalafwyr]]
[[Categori:Diwydianwyr a Chyfalafwyr]]

Fersiwn yn ôl 17:18, 4 Chwefror 2021

Samuel Holland oedd y gŵr a gyflogodd Trefor Jones yn Chwarel y Gwylwyr, Nefyn, fel Fforman. Maes o law, daeth Trefor Jones dros yr Eifl ac agor Chwarel yr Eifl yn Nhrefor a rhoi ei enw ei hun ar y pentref.

Un o Lerpwl oedd Samuel Holland a bu ei dad (o'r un enw) yn hapfasnachwr llwyddiannus gan weithio gwaith copor ym Mronygadair ger Tremadog 1824-30. Ym 1819 agorodd chwarel lechi Rhiwbryfdir yn ardal Ffestiniog, a chwarel arall yn Nhrefriw ym 1826. Ei wraig oedd Katherine Menzies.

Eu mab hwy oedd Samuel Holland yr erthygl hon, a anwyd ar 17 Hydref, 1803, yn Duke Street, Lerpwl. Roedd Samuel yn gefnder i Elizabeth Cleghorn Gaskell (1810-65), cofiannydd Charlotte Bronte ac un o nofelwyr Saesneg mwyaf poblogaidd ei dydd. Hi sgwennodd Ruth (1853), North and South (1855) a Wives and Daughters(1866).

Tua 1821-22 daeth Holland yn oruchwyliwr chwarel ei dad yn Rhiwbryfdir, a dros y blynyddoedd dilynnol daeth yn ŵr busnes (entrepreneur) mentrus a llwyddiannus dros ben.

Bu'n Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros Feirionnydd (1870-92), ac ef oedd prif hyrwyddwr sefydlu yr ysgol i ferched yn Nolgellau, Ysgol John Williams.

Trigai ym Mhlas Penrhyn, Penrhyndeudraeth, ac at ddiwedd ei oes yng Nghaer Deon, rhwng y Bermo a Dolgellau.

Bu farw ym 1892, a bu farw'i briod, Caroline Jane Burt, ym 1924.

Yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ceir llawysgrif hynod o ddiddorol gan Samuel Holland - 'MEMOIRS' - a'i chyfeiriad yw NLW MS 4983 C. Dyma gyfieithiad o'r rhannau sy'n berthnasol i hanes dechreuadau'r diwydiant ithfaen ym mro'r Eifl :

Admiral Lloyd, Tregaean, Môn, oedd perchennog Mynydd y Gwylwyr. Gwneuthum gais iddo am brydles o'r mynydd a chefais un

dros gyfnod heb rhent penodedig ond fyu mod i dalu dwy geiniog y dunnell ar yr holl gerrig fyddai'n cael eu cario oddi yno.

Pan aeth ein cynllun o gael rheilffordd o Fangor i Bortinllaen i'r gwellt, a minnau wedi cael prydles y Gwylwyr ar delerau mor ffafriol gan Admiral Lloyd, meddyliais am rywbeth i'w wneud â'r lle a hynny trwy sylwi ar y cerrig. Teimlais eu bod yn edrych yn addas ar gyfer gwneud setiau palmantu, ac felly mi a euthum gyda dyn roeddwn yn ei gyflogi, un Trefor Jones, draw i Benmaen-mawr lle ceid dwy neu dair chwarel yn cynhyrchu setiau. Edrychasom arnynt ac ar y dull o'u cynhyrchu, ac euthum ati'n syth i gyflogi dau o'r dynion i ddod draw i'r Gwylwyr gyda'u morthwylion. Rhoesom gynnig ar y cerrig yno.