W. Jarrett Roberts (Pencerdd Eifion): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Geraint (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ganwyd W. Jarrett Roberts, a alwai'i hun yn '''Pencerdd Eifion''', yn Awst, 1844, yn fab i William a Grace Roberts, Berth, Llanllyfni. Yn llanc, aeth i Le...'
 
B Symudodd Heulfryn y dudalen Pencerdd eifion i Pencerdd Eifion heb adael dolen ailgyfeirio
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 09:32, 4 Chwefror 2020

Ganwyd W. Jarrett Roberts, a alwai'i hun yn Pencerdd Eifion, yn Awst, 1844, yn fab i William a Grace Roberts, Berth, Llanllyfni. Yn llanc, aeth i Lerpwl i weithio fel saer coed.

Dychwelodd i Gymru tua 1874 gan ddechrau busnes fel 'gwneuthurwr offerynnau cerdd' yng Nghaernarfon. Roedd yn entrepreneur craff a llwyddodd y busnes gan sefydlu canghennau iddo yn Ninbych, Bangor, Llandudno, Ffestiniog a Llangefni. Bu gan y Pencerdd warws enfawr yn y Bont Bridd, Caernarfon - y Carnarvon Musical Instrument Warehouse lle ceid amrywiaeth eang o offerynnau a cherddoriaeth.

Hysbysebai'n gyson yn y papurau lleol, a thu hwnt yn wir. Dyma un enghraifft o'i hysbyseb, a hynny'n 1879, a'r busnes yn ffynnu.

Carnarvon Musical Instrument Warehouse

Bridge Street.

Perchennog : W. Jarrett Roberts.

Dros 150 o pianos a harmoniums mewn stoc,

o 3 gini hyd at 200 gini.

Brass Bands etc. mewn stoc.

Roedd yn gerddor rhagorol ac yn cyfansoddi llawer e.e. y gantata Gorlifiad Cantre'r Gwaelod y bu helynt mawr ynglŷn â hi yn Eisteddfod Genedlaethol Merthyr ym 1881. Hefyd y motet Gweledigaeth Ioan, a llu o unawdau ac anthemau. Ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, 1877, cyfansoddodd y scena i fariton, Atgofion y Morwr, y geiriau o bryddest Llew Llwyfo, Drylliad y Royal Charter. Cân arall ganddo oedd Caled yw ei Chalon (ar gyfer y tenorydd enwog James Sauvage) i eiriau Morwyllt o Langefni. Ond ei gân fwyaf poblogaidd oedd Hogyn Gyrru'r Wedd, y geiriau gan Mynyddog.

Bu farw'r Pencerdd ar yr ail o Dachwedd 1886 yn ei gartref yn 163 Stryd Fawr, Bangor.