Thomas Glynn, AS a botanegydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 5: Llinell 5:
Er nad oedd yn ddyn cyhoeddus wrth reddf, fe wnaeth farc sylweddol mewn maes arall, gan ei fod yn un o fotanegwyr cynharaf y gwyddys amdanynt yng Nghymru. Mae'n bur debyg heddiw mai Thomas Glynn ddechreuodd y traddodiad o arddio ar raddfa fawr o gwmpas y plas ac yn sicr roedd yn fotanegydd brwdfrydig<ref>[https://en.wikisource.org/wiki/Page:Journal_of_botany,_British_and_foreign,_Volume_9_(1871).djvu/186 Cyfeiriad ato yn ''Journal of Botany, British and Foreign (1871)'']</ref>. Ceir cyfeiriadau ato mewn amryw o gyhoeddiadau am ddisgyblaeth botanegiaeth. Gellir dadlau ei fod wedi cyfrannu llawer iawn at yr astudiaeth o wahanol fathau o blanhigion, ac wedi gwneud enw iddo'i hun yn y maes.<ref>Alicia Amherst, ''A History of Gardening in England'' (1896)</ref>

Mor gynnar â'r 1630au cynnar os nad cynt, roedd wedi bod yn llythyru â'r botanegydd blaengar, [[Thomas Johnson]], ac yn anfon sbesiminau ato. Dyma, medd yr hanesydd botaneg Dewi Jones, oedd y tro cyntaf y gwyddys amdano i Gymro fynd ati i hel enghreifftiau o blanhigion cynhenid. Glynne oedd y person cyntaf i ddarganfod y planhigyn ''Otanthus maritimus'' neu Edafeddog y môr, a hynny ger [[Dinas Dinlle]]. Ato fo felly y trodd y botanegwr Johnson wrth gychwyn ar ei daith trwy Gymru fis Awst 1639 pan yn chwilio am rai o blanhigion prin yr ardal. Anfonodd Glynn un o'i weision i'w dywys o'r Rhuddlan i Fodysgallen ger Llandudno, lle 'roedd Glynn ei hun yn disgwyl amdano. Arhosodd Johnson ym Mhlas Glynllifon am rai dyddiau, ac aeth Thomas Glynn gydag ef ar ei deithiau i chwilio am blanhigion lleol Eryri.<ref>Dewi Jones, ''The Botanists and Guides of Snowdonia'' (Llanrwst, 1996), tt.16-20</ref>  

{{eginyn}}
{{eginyn}}

Fersiwn yn ôl 12:44, 27 Ionawr 2020

Roedd Thomas Glynn (c1596-1647) yn fab hynaf Syr William Glynn a'i wraig Jane Griffith - y plentyn hynaf o chwe brawd a phedair chwaer yn y cartref ym Mhlas Glynllifon. Gyda thiroedd ym Mon yn ogystal â Sir Gaernarfon, fe'i godwyd yn Uchel Siryf yn y ddwy sir, Sir Gaernarfon ym 1622 a Môn y flwyddyn ganlynol - roedd hi'n arfer y pryd hynny i gydnabod pwysigrwydd meibion hynaf y prif deuluoedd sirol cyn gynted ag y daethant i'w hetifeddiaeth ac roedd Syr William wedi marw ym 1620.

Mae'r hanesydd Yr Athro Glyn Roberts wedi ei ddisgrifio fel "dyn heb unrhyw rinweddau a safai allan",[1] ac i raddau, yn y maes materion sirol a gwleidyddol yr oedd hyn yn wir. Serch hynny (dichon oherwydd ei dras a maint ei diroedd) derbyniodd nifer o swyddi a swyddogaethau arweiniol yn y sir. Roedd yn ddirprwy raglaw, 1620-42 ac yn ynad heddwch o 1621 hyd ei farwolaeth ym 1647, ymysg rhai eraill. Yn ystod y Rhyfel Cartref bu'n gyrnol y milisia sirol, ac yn llywodraethwr Caernarfon 1646-7. Cafodd ei ethol yn aelod seneddol ym 1624 ac eto ym 1626 trwy sicrhau cefnogaeth sgweiriaid Llŷn yn erbyn carfan a oedd yn gefnogol i deulu Gwedir. Bu hefyd yn aelod seneddol yn y Senedd Fer (1640). Er ei fod yn frenhinwr ar ddechrau'r ymrafael rhwng y Goron a'r Piwritaniaid, ac yn swyddog ym myddin y Brenin, gwelodd sut yr oedd y gwynt yn chwythu ac fe newidiodd ei deyrngarwch ym 1646 i fod yn gefnogwr llugoer o achos Plaid y Senedd yn y Rhyfel Cartref. Bu'n gwnstabl Castell Caernarfon, 1646-7.[2] Bron na ellid dweud ei bod yn ollyngdod pan fu farw ar ddiwedd 1647, gan adael gweddw, mab (John Glynn) a merch, Catherine. Mi wnaeth briodi'n ddoeth, fodd bynnag, gan sicrhau estyniad sylweddol i Ystad Glynllifon trwy briodi Ellen Owen, cydaeres Bodafon-y-Glyn, Llanfwrog, Ynys Môn.[3]

Er nad oedd yn ddyn cyhoeddus wrth reddf, fe wnaeth farc sylweddol mewn maes arall, gan ei fod yn un o fotanegwyr cynharaf y gwyddys amdanynt yng Nghymru. Mae'n bur debyg heddiw mai Thomas Glynn ddechreuodd y traddodiad o arddio ar raddfa fawr o gwmpas y plas ac yn sicr roedd yn fotanegydd brwdfrydig[4]. Ceir cyfeiriadau ato mewn amryw o gyhoeddiadau am ddisgyblaeth botanegiaeth. Gellir dadlau ei fod wedi cyfrannu llawer iawn at yr astudiaeth o wahanol fathau o blanhigion, ac wedi gwneud enw iddo'i hun yn y maes.[5]

Mor gynnar â'r 1630au cynnar os nad cynt, roedd wedi bod yn llythyru â'r botanegydd blaengar, Thomas Johnson, ac yn anfon sbesiminau ato. Dyma, medd yr hanesydd botaneg Dewi Jones, oedd y tro cyntaf y gwyddys amdano i Gymro fynd ati i hel enghreifftiau o blanhigion cynhenid. Glynne oedd y person cyntaf i ddarganfod y planhigyn Otanthus maritimus neu Edafeddog y môr, a hynny ger Dinas Dinlle. Ato fo felly y trodd y botanegwr Johnson wrth gychwyn ar ei daith trwy Gymru fis Awst 1639 pan yn chwilio am rai o blanhigion prin yr ardal. Anfonodd Glynn un o'i weision i'w dywys o'r Rhuddlan i Fodysgallen ger Llandudno, lle 'roedd Glynn ei hun yn disgwyl amdano. Arhosodd Johnson ym Mhlas Glynllifon am rai dyddiau, ac aeth Thomas Glynn gydag ef ar ei deithiau i chwilio am blanhigion lleol Eryri.[6]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Glyn Roberts, The Glynnes and the Wynns of Glynllifon, (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.9 (1948)), t.28
  2. Gwefan The History of Parliament, [1]
  3. J E Griffith, Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), tt. 58, 172-3
  4. Cyfeiriad ato yn Journal of Botany, British and Foreign (1871)
  5. Alicia Amherst, A History of Gardening in England (1896)
  6. Dewi Jones, The Botanists and Guides of Snowdonia (Llanrwst, 1996), tt.16-20