Syr Thomas Wynn, Barwnig 1af: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
B Symudodd Heulfryn y dudalen Syr Thomas Wynn,Barwnig 1af i Syr Thomas Wynn, Barwnig 1af heb adael dolen ailgyfeirio
Dim crynodeb golygu
Llinell 2: Llinell 2:


Roedd gan Thomas Wynn a Frances bump o blant, sef un mab, [[Syr John Wynn, 2il Farwnig|John]], Catharine, Elizabeth, (1705-?), Dorothy (1707-44), gwraig cyntaf William Thomas,Coed Helen, a Frances (1713-84) a farwodd yn ddi-briod.<ref>J E Griffith, ''Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t. 173</ref>
Roedd gan Thomas Wynn a Frances bump o blant, sef un mab, [[Syr John Wynn, 2il Farwnig|John]], Catharine, Elizabeth, (1705-?), Dorothy (1707-44), gwraig cyntaf William Thomas,Coed Helen, a Frances (1713-84) a farwodd yn ddi-briod.<ref>J E Griffith, ''Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t. 173</ref>
{{eginyn}}
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Tirfeddianwyr]]
[[Categori:Unigolion a theuluoedd nodedig]]
[[Categori:Gwleidyddion]]

Fersiwn yn ôl 10:29, 27 Ionawr 2020

Penteulu teulu Wynniaid Boduan ym Mhen Llŷn oedd Thomas Wynn (1678-1749), a wnaed yn farwnig ym 1742. Mab ydoedd i Griffith Wynn, sgweier Boduan a Catharine ei wraig, merch William Vaughan, Corsygedol, Dyffryn Ardudwy. Priododd Frances, merch John Glynn ac aeres Ystad Glynllifon. Roedd ganddo frawd, William (1678-1754), a ddaeth yn Syr William, efallai oherwydd iddo fod yn fanergludydd i fintai o bensiynwyr bonheddig. Ar farwolaeth John Glynn, etifeddodd ystad Glynllifon trwy ei wraig, gan uno ystadau Boduan a Glynllifon (er i'r ddwy ystad gael eu rhedeg r wahân i raddau helaeth am y ddwy ganrif nesaf). Yn y man, symudodd y teulu i fyw i Glynllifon gan osod plasty Boduan neu ei ddefnyddio ar gyfer aelodau iau y teulu.[1]

Roedd gan Thomas Wynn a Frances bump o blant, sef un mab, John, Catharine, Elizabeth, (1705-?), Dorothy (1707-44), gwraig cyntaf William Thomas,Coed Helen, a Frances (1713-84) a farwodd yn ddi-briod.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. J E Griffith, Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), tt. 171-3
  2. J E Griffith, Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t. 173