John Glynn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ganwyd '''John Glynn''', yr olaf o sgweiriaid Ystad Glynllifon i fod â'r cyfenw hwnnw, yn unig blentyn i Thomas Glynn (AS a botanegydd) o gwmpas...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Ganwyd '''John Glynn''', yr olaf o sgweiriaid [[Ystad Glynllifon]] i fod â'r cyfenw hwnnw, yn unig blentyn i [[Thomas Glynn (AS a botanegydd)]] o gwmpas y flwyddyn 1644, a chafodd ei fagu gan ei fam wedi i'w dad farw'n weddol ifanc ym 1648 ac o dan warchodaeth ei ewyrth, [[Edmund Glynn]]. Etifeddodd yr ystad felly pan nad oedd ond tua phump oed.
Ganwyd '''John Glynn''', yr olaf o sgweiriaid [[Ystad Glynllifon]] i fod â'r cyfenw hwnnw, yn unig blentyn i [[Thomas Glynn (AS a botanegydd)]] a'i wraig Ellen o gwmpas y flwyddyn 1644, a chafodd ei fagu gan ei fam wedi i'w dad farw'n weddol ifanc ym 1648 ac o dan warchodaeth ei ewyrth, [[Edmund Glynn]]. Etifeddodd yr ystad felly pan nad oedd ond tua phump oed.


Chwareuodd ei ran ym mywyd y sir, gan weithredu fel Uchel Siryf Sir Gaernarfon, 1668-9.
Chwareuodd ei ran ym mywyd y sir, gan weithredu fel Uchel Siryf Sir Gaernarfon, 1668-9. Priododd Elizabeth Owen, merch Syr Hugh Owen, barwnig cyntaf Orielton, Sir Benfro (bu fawr 1670), AS dros Sir Benfro, 1626-60, oedd hefyd â thiroedd yn Sir Gaernarfon a Sir Fôn. Cawsant ddwy ferch (Frances ac Ellen) ond dim mab, ac felly pasiodd etifeddiaeth ystad Glynllifon i'r hynaf, Frances, a briododd Thomas Wynn, Boduan, gan uno ystdaopedd Glynllifon a Boduan. O hynny ymlaen a hyd heddiw, Wynn fyddai cyfenw teulu [[Glynllifon]].

Fersiwn yn ôl 13:46, 16 Ionawr 2020

Ganwyd John Glynn, yr olaf o sgweiriaid Ystad Glynllifon i fod â'r cyfenw hwnnw, yn unig blentyn i Thomas Glynn (AS a botanegydd) a'i wraig Ellen o gwmpas y flwyddyn 1644, a chafodd ei fagu gan ei fam wedi i'w dad farw'n weddol ifanc ym 1648 ac o dan warchodaeth ei ewyrth, Edmund Glynn. Etifeddodd yr ystad felly pan nad oedd ond tua phump oed.

Chwareuodd ei ran ym mywyd y sir, gan weithredu fel Uchel Siryf Sir Gaernarfon, 1668-9. Priododd Elizabeth Owen, merch Syr Hugh Owen, barwnig cyntaf Orielton, Sir Benfro (bu fawr 1670), AS dros Sir Benfro, 1626-60, oedd hefyd â thiroedd yn Sir Gaernarfon a Sir Fôn. Cawsant ddwy ferch (Frances ac Ellen) ond dim mab, ac felly pasiodd etifeddiaeth ystad Glynllifon i'r hynaf, Frances, a briododd Thomas Wynn, Boduan, gan uno ystdaopedd Glynllifon a Boduan. O hynny ymlaen a hyd heddiw, Wynn fyddai cyfenw teulu Glynllifon.