Y Seler Ddu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 11: | Llinell 11: | ||
[[Categori:Daearyddiaeth ffisegol]] | [[Categori:Daearyddiaeth ffisegol]] | ||
[[Categori:Mwynfeydd]] | [[Categori:Mwynfeydd]] | ||
[[ | [[Categori:Manganîs]] |
Fersiwn yn ôl 10:09, 10 Ionawr 2020
Y Seler Ddu yw enw'r cwm serth sydd yn gorwedd ar lethrau dwyreiniol Mynydd Bwlch Mawr gyferbyn â Hengwm. Tir diffaith a charegog sydd yno gyda phorfa ar gyfer defaid. Yno mae un o flaennentydd Afon Dwyfach yn codi.
Bu gwaith manganîs yno yn y gorffennol, ac er bod yr hanes yn brin, mae sicrwydd i'r gwaith fod ar fynd 1872-6 pan oedd un John Cowper yn gapten ar y gwaith. Ni ddefnyddid unrhyw ffrwydron yn y gwaith, dim ond ceibiau'n unig. Mae'r gloddfa'n nodedig am y ffordd unigryw o gynnal to'r gwaith, sef trwy godi pileri o gerrig sychion.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma