Y Gurn Ddu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
B Symudodd Heulfryn y dudalen Gurn Ddu i Y Gurn Ddu
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 14:06, 29 Mawrth 2021

Mae Gurn Ddu yn fynydd uwchben pentref Gurn Goch. Mae'r copa ym mhlwyf Llanaelhaearn er bod rhai o'r mynydd ym mhlwyf Clynnog Fawr. Ar yr ochr agosaf at y môr ceir nifer o hen chwareli ithfaen, er nad oedd yr un mor lewyrchus â chwareli'r Eifl. Ar lethrau uchel y mynydd ar yr ochrau i'r de a'r gorllewin ceir olion hen weithfeydd manganîs o'r 19g. Mae copa'r mynydd 1712 troedfedd (522 metr) uwchben lefel y môr. Dyma, felly, copa uchaf y pum copa Gurn Ddu, Gurn Goch, Bwlch Mawr, Clipuau a Moel Bronmiod. Mae hen garneddau, sef pentyrrau o gerrig o'r Oes Efydd ar ystys de-ddwyreiniol y mynydd, ac olion hen drigfannau megis cytiau crwn o'r Oes Haearn yn y bwlch bach rhwng Gurn Ddu a Gurn Goch. Ail-ddefnyddiwyd rhai o'r hen waliau hyn i greu corlannau defaid ar ryw adeg.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau