Aled Jones Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Offeiriad yr Eglwys yng Nghymru, llenor a dramodydd Cymry|Cymreig yw '''Aled Jones Williams''' (ganed ym 1953).<ref>''Tuchan o flaen Duw.'' Hunangofiant A...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 15: Llinell 15:
[[Categori:Beirdd]]
[[Categori:Beirdd]]
[[Categori:Awduron]]
[[Categori:Awduron]]
[[Categori:Llenorion]]
[[Categori:Pobl]]

Fersiwn yn ôl 15:08, 22 Awst 2019

Offeiriad yr Eglwys yng Nghymru, llenor a dramodydd Cymry|Cymreig yw Aled Jones Williams (ganed ym 1953).[1]

Yn 2002, enillodd Coron Eisteddfod Genedlaethol Cymru Tŷ Ddewi 2002 gydag Awelon. Cafodd ei lyfr Ychydig Is Na’r Angylion ei enwebu ar gyfer rhestr hir Llyfr y Flwyddyn 2007. Achoswyd cryn ymryson gan ei ddrama Iesu yn 2008, gan iddo bortreadu Iesu fel merch.

Fe'i aned yn Llanwnda, yn unig blentyn i ficer y plwyf a'i wraig, R. E. a Megan Williams. Addysgwyd yn Ysgol Gynradd Bontnewydd ac Ysgol Dyffryn Nantlle cyn mynychu Prifysgol Bangor a graddio ym 1977. Aeth ymlaen i Goleg Diwinyddol Mihangel, Llandaf, a Phrifysgol Caerdydd. Fe ordeinwyd i'r Eglwys yng Nghymru ym 1979 gan wasanaethu yng Nghonwy, Llanrug a Machynlleth. Wedi cyfnod yn dioddef o alcoholiaeth fe adawodd yr eglwys, daeth yn aelod o gymuned L'Arche yn Lerpwl gan rannu ei fywyd â rhai oedd ag anabledd meddwl. Yn ystod ei gyfnod yno fe briododd ac mae ganddo fo a'i wraig dri o blant. Erbyn hyn mae'n byw ym Mhorthmadog.

Mae o'n awdur toreithiog, ac wedi cyfansoddi o leiaf 10 o ddramâu, ac wedi ysgrifennu 12 o lyfrau o ryddiaith a barddoniaeth.[2]


Cyfeiriadau

  1. Tuchan o flaen Duw. Hunangofiant Aled Jones Williams, Gwasg Carreg Gwalch (2012)
  2. Erthygl Wicipedia, [1], cyrchwyd 222.9.2019