Bachwen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Bachwen.jpg|bawd|350px|de]]
[[Delwedd:Bachwen.jpg|bawd|350px|de]]


Mae '''Bachwen''' yn fferm fawr rhwng pentref [[Clynnog Fawr]] a'r traeth. Mae'n enwog yn benodol am bresenoldeb hen gromlech neu simbr gladdiu ar y tir. Mae'r heneb yn sefyll ar godiad bach o dir allai fod yn olion pentwr o bridd a arferai orchuddio'r siambr gladdu.
Mae '''Bachwen''' yn fferm fawr rhwng pentref [[Clynnog Fawr]] a'r traeth. Mae'n enwog yn benodol am bresenoldeb hen gromlech neu simbr gladdiu ar y tir. Mae'r heneb yn sefyll ar godiad bach o dir allai fod yn olion pentwr o bridd a arferai orchuddio'r siambr gladdu. Mae'n weddol agos at y môr sydd i'w weld yn glir o'r heneb; gall safle arfordirol fel hyn adlewyrchu pwysigrwydd y môr mewn rhyw ffordd neu'i gilydd i'r rhai a'i gododd.


Mae'r olion sydd yno bellach yn cynnwys maen capan, sef slab mawr o garreg, gyda phedwar maen sylweddol yn ei gynnal; yr oedd un wedi diflannu, ond fe wnaeth sgweier [[Glynllifon]], [[Frederick George Wynn|F.G. Wynn]] tua diwedd y 19g. osod un newydd yn lle'r un oedd ar goll. Wrth i'r gwaith gael ei wneud, cafwyd hyd i olion palmant o gerrig mân ac olion llwch du.
Mae'r olion sydd yno bellach yn cynnwys maen capan, sef slab mawr o garreg, gyda phedwar maen sylweddol yn ei gynnal; yr oedd un wedi diflannu, ond fe wnaeth sgweier [[Glynllifon]], [[Frederick George Wynn|F.G. Wynn]] tua diwedd y 19g. osod un newydd yn lle'r un oedd ar goll. Wrth i'r gwaith gael ei wneud, cafwyd hyd i olion palmant o gerrig mân ac olion llwch du.

Fersiwn yn ôl 14:16, 22 Awst 2019

Mae Bachwen yn fferm fawr rhwng pentref Clynnog Fawr a'r traeth. Mae'n enwog yn benodol am bresenoldeb hen gromlech neu simbr gladdiu ar y tir. Mae'r heneb yn sefyll ar godiad bach o dir allai fod yn olion pentwr o bridd a arferai orchuddio'r siambr gladdu. Mae'n weddol agos at y môr sydd i'w weld yn glir o'r heneb; gall safle arfordirol fel hyn adlewyrchu pwysigrwydd y môr mewn rhyw ffordd neu'i gilydd i'r rhai a'i gododd.

Mae'r olion sydd yno bellach yn cynnwys maen capan, sef slab mawr o garreg, gyda phedwar maen sylweddol yn ei gynnal; yr oedd un wedi diflannu, ond fe wnaeth sgweier Glynllifon, F.G. Wynn tua diwedd y 19g. osod un newydd yn lle'r un oedd ar goll. Wrth i'r gwaith gael ei wneud, cafwyd hyd i olion palmant o gerrig mân ac olion llwch du.

Mae dwsinau o bantau cwpan (cup-holes) ar y maen capan nad oes eglurhad ar eu cyfer, er eu bod yn artiffisial.[1]


Cyfeiriadau

  1. Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’ Cyf II (Llundain, 1960), t.55