Bachwen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 9: | Llinell 9: | ||
{{cyfeiriadau}} | {{cyfeiriadau}} | ||
[[Categori:Archeoleg]] | [[Categori:Archeoleg]] | ||
[[Categori:Safleoedd nodedig]] |
Fersiwn yn ôl 13:11, 22 Awst 2019
Mae Bachwen yn fferm fawr rhwng pentref Clynnog Fawr a'r traeth. Mae'n enwog yn benodol am bresenoldeb hen gromlech neu simbr gladdiu ar y tir. Mae'r heneb yn sefyll ar godiad bach o dir allai fod yn olion pentwr o bridd a arferai orchuddio'r siambr gladdu.
Mae'r olion sydd yno bellach yn cynnwys maen capan, sef slab mawr o garreg, gyda phedwar maen sylweddol yn ei gynnal; yr oedd un wedi diflannu, ond fe wnaeth sgweier Glynllifon, F.G. Wynn tua diwedd y 19g. osod un newydd yn lle'r un oedd ar goll. Wrth i'r gwaith gael ei wneud, cafwyd hyd i olion palmant o gerrig mân ac olion llwch du.
Mae dwsinau o bantau cwpan (cup-holes) ar y maen capan nad oes eglurhad ar eu cyfer, er eu bod yn artiffisial.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’ Cyf II (Llundain, 1960), t.55