Prosiect:Amdanom: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Llinell 20: Llinell 20:


== Y wici ==
== Y wici ==
Y nod cychwynnol yw llunio tua 400 o eginynnau neu erthyglau cyflawn erbyn diwedd Gorffennaf 2018, pan daeth grant y Loteri i ben. Erbyn hynny, roedd bron i 500 o erthyglauac eginynnau wedi eu llwytho ar y '''Cof'''.Nid yr adeg honno fodd bynnag daeth y '''Cof''' ei hun i ben. Maeo'n dal i gael ei gynnal yn barhaol fel y gall pobl ddal i gyfrannu at ein gwybodaeth o'r fro.
Y nod cychwynnol yw llunio tua 400 o eginynnau neu erthyglau cyflawn erbyn diwedd Gorffennaf 2018, pan daeth grant y Loteri i ben. Erbyn hynny, roedd bron i 500 o erthyglauac eginynnau wedi eu llwytho ar y '''Cof'''. Nid yr adeg honno fodd bynnag daeth y '''Cof''' ei hun i ben. Mae o'n dal i gael ei gynnal yn barhaol fel y gall pobl ddal i gyfrannu at ein gwybodaeth o'r fro. Fis Ebrill 2020, pasiodd y '''Cof''' y cyfanswm o 1,000 o erthygl;au unigol. OND mae pell i fynd eto cyn y bydd holl hanes Uwchgwyrfai ar gof yn y Cof!


Mae '''Cof y Cwmwd''' yn wici, sef casgliad o erthyglau y mae croeso i unrhyw un eu newid neu ychwanegu atynt, os ydynt yn gyfarwydd â'r pwnc. Mae 'wici', gyda llaw, yn air o Ynysoedd Hawaii sy'n golygu 'sydyn', a'r syniad y tu ôl i'r gair yw bod rhywun yn gallu cyfeirio at bethau mewn dim o dro. Gall unrhyw un gyfrannu ffeithiau newydd hefyd, a hynny heb fawr o drafferth yn y fan a'r lle. Mae'n debyg y byddwch wedi defnyddio Wicipedia ar y We rywbryd neu'i gilydd, ac efallai eich bod wedi 'golygu' (sef newid neu gyfrannu at) rai o'r erthyglau yno. Cofiwch: mae '''Cof y Cwmwd''' yn gweithio yn yr un ffordd yn union â Wicipedia, ac felly os ydych wedi defnyddio'r wefan fawr honno - neu Wikipaedia yn Saesneg - bydd y peth yn hollol gyfarwydd i chi.
Mae '''Cof y Cwmwd''' yn wici, sef casgliad o erthyglau y mae croeso i unrhyw un eu newid neu ychwanegu atynt, os ydynt yn gyfarwydd â'r pwnc. Mae 'wici', gyda llaw, yn air o Ynysoedd Hawaii sy'n golygu 'sydyn', a'r syniad y tu ôl i'r gair yw bod rhywun yn gallu cyfeirio at bethau mewn dim o dro. Gall unrhyw un gyfrannu ffeithiau newydd hefyd, a hynny heb fawr o drafferth yn y fan a'r lle. Mae'n debyg y byddwch wedi defnyddio Wicipedia ar y We rywbryd neu'i gilydd, ac efallai eich bod wedi 'golygu' (sef newid neu gyfrannu at) rai o'r erthyglau yno. Cofiwch: mae '''Cof y Cwmwd''' yn gweithio yn yr un ffordd yn union â Wicipedia, ac felly os ydych wedi defnyddio'r wefan fawr honno - neu Wikipaedia yn Saesneg - bydd y peth yn hollol gyfarwydd i chi.

Fersiwn yn ôl 09:30, 7 Mehefin 2020

Uwchgwyrfai
Uwchgwyrfai

Hanes

Sefydlwyd Cof y Cwmwd ym mis Hydref 2017, fel un o weithgareddau elusennol Canolfan Hanes Uwchgwyrfai gyda grant hael gan Gronfa Loteri'r Dreftadaeth. Ein nod yw cyflwyno gwir hanes ein cenedl i bobl Uwchgwyrfai a Chymru gyfan, a hynny gyda help unrhyw un sydd am ymuno yn y gwaith.

Amcanion

Y ddau amcan a sefydlwyd ar gyfer Cof y Cwmwd yw:

  • creu bas data sylweddol o wybodaeth am hanes a thraddodiadau Uwchgwyrfai, yn niffyg unrhyw lyfrau cyfoes ar hanes cyffredinol y cwmwd
  • hwyluso, ac yn wir, annog, pobl leol i ymdrin â hanes trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ein bwriad yw gweld Cof y Cwmwd yn datblygu fel prif ffynhonnell gwybodaeth am hanes a thraddodiadau ein cwr bach ni o Gymru. Erfyniwn arnoch i wneud eich rhan er mwyn cyrraedd y nod hwnnw. Mae Cof y Cwmwd yn ymdrin ag ardal yr hen gwmwd, gan gadw at yr hen ffiniau canoloesol - sef plwyfi hanesyddol Clynnog-fawr, Llanaelhaearn, Llandwrog, Llanllyfni a Llanwnda. Mae hyn yn cynnwys Dyffryn Nantlle i gyd bron hyd at Ryd-ddu ac wedyn ar hyd yr afon Gwyrfai o Ryd-ddu trwy'r Bontnewydd ac at y môr.

Pobl

Penodwyd Carl Morris, Cymro Tseiniaidd Cymraeg ac arbenigwr ar greu a chynnal wicïau, i osod y meddalwedd angenrheidiol, sef MediaWiki, meddalwedd rydd a ddefnyddir gan Wicipedia ei hun, a fe hefyd a baratôdd sgerbwd y wici.

Penodwyd Miriam Lloyd Jones o'r Bontnewydd i greu eginynau fel sail i erthyglau ar lawer o destunau sy'n berthnasol i Uwchgwyrfai. Wrth i gyfnod Miriam ddod i ben yn swydfdogol, diolchwyd iddi'n ddiffuant am ei holl gyfraniad at lwyddiant y Cof.

Rhaid hefyd gydnabod cefnogaeth a chyngor sylweddol Robin Llwyd ab Owain, rheolwr WikiMedia yng Nghymru, sydd wedi cymryd diddordeb rhagweithiol yn yr fenter hon; a Jason Evans, Y Wicipediwr Cenedlaethol.

Y wici

Y nod cychwynnol yw llunio tua 400 o eginynnau neu erthyglau cyflawn erbyn diwedd Gorffennaf 2018, pan daeth grant y Loteri i ben. Erbyn hynny, roedd bron i 500 o erthyglauac eginynnau wedi eu llwytho ar y Cof. Nid yr adeg honno fodd bynnag daeth y Cof ei hun i ben. Mae o'n dal i gael ei gynnal yn barhaol fel y gall pobl ddal i gyfrannu at ein gwybodaeth o'r fro. Fis Ebrill 2020, pasiodd y Cof y cyfanswm o 1,000 o erthygl;au unigol. OND mae pell i fynd eto cyn y bydd holl hanes Uwchgwyrfai ar gof yn y Cof!

Mae Cof y Cwmwd yn wici, sef casgliad o erthyglau y mae croeso i unrhyw un eu newid neu ychwanegu atynt, os ydynt yn gyfarwydd â'r pwnc. Mae 'wici', gyda llaw, yn air o Ynysoedd Hawaii sy'n golygu 'sydyn', a'r syniad y tu ôl i'r gair yw bod rhywun yn gallu cyfeirio at bethau mewn dim o dro. Gall unrhyw un gyfrannu ffeithiau newydd hefyd, a hynny heb fawr o drafferth yn y fan a'r lle. Mae'n debyg y byddwch wedi defnyddio Wicipedia ar y We rywbryd neu'i gilydd, ac efallai eich bod wedi 'golygu' (sef newid neu gyfrannu at) rai o'r erthyglau yno. Cofiwch: mae Cof y Cwmwd yn gweithio yn yr un ffordd yn union â Wicipedia, ac felly os ydych wedi defnyddio'r wefan fawr honno - neu Wikipaedia yn Saesneg - bydd y peth yn hollol gyfarwydd i chi.

Mae croeso i rywun hefyd gywiro camgymeriadau teipio neu iaith anghywir.

Help

Am gyfarwyddiadau am sut i gyfrannu at Cof y Cwmwd, cliciwch yma. Mae manylion pellach hefyd ar y dudalen Cymorth - cliciwch ar y ddolen ar y chwith.

Trwydded

Dylid nodi nad ydym wedi mabwysiadu trwydded hollol agored Comin Creu, sef CC-BY-SA, oherwydd dymuniad Cronfa Dreftadaeth y Loteri i rwystro defnydd masnachol o'r wefan. Fodd bynnag, rydym yn disgwyl i bobl roi gwybodaeth ar ein gwefan heb gyfyngiad, fel y gallwn ni roi caniatâd i bobl ddefnyddio deunydd ar gyfer pethau a gyhoeddir. Rhaid gwneud hyn gan fod y gair masnachol, yn ôl diffiniad Comin Creu, yn cynnwys unrhyw ddefnydd lle mae arian yn newid dwylo - e.e. lle mae ysgol yn codi tâl am raglen cyngerdd gyda llun o'r wefan!

E-bost

Os oes gennych ymholiadau, anfonwch e-bost at wiciuwchgwyrfai@talktalk.net.

Trydar

Dilynwch ni ar Trydar! Ceir yma wybodaeth am ddigwyddiadau a newidiadau ddiweddaraf y prosiect: @WiciUwchgwyrfai.

Cliciwch yma ar gyfer ein cyfrif Trydar

Cysylltiad â'r gymuned wici ehangach

Mae Cof y Cwmwd yn cael ei gynrychioli ar Grŵp Defnyddwyr Cymuned Wicimedia Cymru:[1]