Angharad Tomos: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 5: Llinell 5:
Fe'i ganed ym Bangor|Mangor, a chafodd ei magu yn un o bum chwaer yn Llanwnda. Mynychodd Ysgol Gynradd Bontnewydd ac [[Ysgol Dyffryn Nantlle]]. Cychwynnodd ei haddysg uwch ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, ond bu iddi adael er mwyn gweithio i Gymdeithas yr Iaith. Cafodd radd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor yn ddiweddarach.
Fe'i ganed ym Bangor|Mangor, a chafodd ei magu yn un o bum chwaer yn Llanwnda. Mynychodd Ysgol Gynradd Bontnewydd ac [[Ysgol Dyffryn Nantlle]]. Cychwynnodd ei haddysg uwch ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, ond bu iddi adael er mwyn gweithio i Gymdeithas yr Iaith. Cafodd radd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor yn ddiweddarach.


Mae'n ymgyrchydd iaith digyfaddawd, yn llenor disglair, ac wedi gwneud cyfraniad enfawr gyda'i llyfrau i blant. Bu'n gadeirydd [[Cymdeithas yr Iaith]]. Enillodd goron [Eisteddfod yr Urdd â'i chyfrol ''Hen Fyd Hurt'' ym 1982.
Mae'n ymgyrchydd iaith digyfaddawd, yn llenor disglair, ac wedi gwneud cyfraniad enfawr gyda'i llyfrau i blant. Bu'n gadeirydd [[Cymdeithas yr Iaith]]. Enillodd goron Eisteddfod yr Urdd â'i chyfrol ''Hen Fyd Hurt'' ym 1982.


Mae hi'n ysgrifennu a darlunio llyfrau i blant, gan gynnwys ei chyfres ''Rwdlan'', a leolir yng Ngwlad y Rwla. ''Rala Rwdins'' oedd y gyfrol gyntaf yn y gyfres hon, cyhoeddwyd gan Y Lolfa ym 1983.
Mae hi'n ysgrifennu a darlunio llyfrau i blant, gan gynnwys ei chyfres ''Rwdlan'', a leolir yng Ngwlad y Rwla. ''Rala Rwdins'' oedd y gyfrol gyntaf yn y gyfres hon, cyhoeddwyd gan Y Lolfa ym 1983.
Llinell 11: Llinell 11:
Ym 1985 derbyniodd wobr yr Academi Gymreig am ei nofel ''Yma o Hyd'' sydd am fywyd carchar y cafodd hi ei hun brofiad ohono fel ymgyrchydd iaith. Enillodd Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, ym 1991 ac ym 1997, a Gwobr Tir na n-Og ddwywaith yn ogystal, ym 1986 ac 1994
Ym 1985 derbyniodd wobr yr Academi Gymreig am ei nofel ''Yma o Hyd'' sydd am fywyd carchar y cafodd hi ei hun brofiad ohono fel ymgyrchydd iaith. Enillodd Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, ym 1991 ac ym 1997, a Gwobr Tir na n-Og ddwywaith yn ogystal, ym 1986 ac 1994


Enillodd Wobr Mary Vaughan Jones yn 2009 am ei chyfraniad tuag at llenyddiaeth plant yng Nghymru.<ref>{{dyf gwe| url=http://www.cllc.org.uk/newyddion-news/news-detail?diablo.lang=cym&id=12136| dyddiad=24 Tachwedd 2009| cyhoeddwr=Cyngor Llyfrau Cymru| teitl=Anrhydeddu Awdur Llyfrau Plant - Tlws Mary Vaughan Jones 2009}}</ref>
Enillodd Wobr Mary Vaughan Jones yn 2009 am ei chyfraniad tuag at llenyddiaeth plant yng Nghymru.<ref>Dyfyniad o'r we [url=http://www.cllc.org.uk/newyddion-news/news-detail?diablo.lang=cym&id=12136| dyddiad=24 Tachwedd 2009| cyhoeddwr=Cyngor Llyfrau Cymru| teitl=Anrhydeddu Awdur Llyfrau Plant - Tlws Mary Vaughan Jones 2009]</ref>


Mae hi'n briod â Ben Gregory ac yn byw ym Mhen-y-Groes.
Mae hi'n briod â Ben Gregory ac yn byw ym Mhen-y-Groes.
Llinell 29: Llinell 29:
* ''Llyfr Lliwio Gwlad y Rwla'' (Y Lolfa, 2011)
* ''Llyfr Lliwio Gwlad y Rwla'' (Y Lolfa, 2011)
* '''Dydw i Ddim Eisiau' - Stori Jona'' (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
* '''Dydw i Ddim Eisiau' - Stori Jona'' (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
* '''Un Bach Ydwyf''' (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
* ''Un Bach Ydwyf'' (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
* ''Ar y Brig - Stori Saceus'' (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
* ''Ar y Brig - Stori Saceus'' (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
* ''I Mewn i'r Arch â Nhw'' (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
* ''I Mewn i'r Arch â Nhw'' (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)

Fersiwn yn ôl 13:15, 7 Gorffennaf 2019

Mae Angharad Tomos (ganed 1958) yn ymgyrchydd iaith, nofelydd, awdures plant ac darlunydd llyfrau. Mae hi'n hanu o waelodion plwyf Llanwnda er iddi fyw ym mhentref Pen-y-groes bellach, lle mae hi'n weithgar iawn gyda phrosiectau cymunedol. Hi a'i gŵr fu'n bennaf gyfrifol am achub Siop Griffiths yn y pentref a'i throi'n ganolfan ar gyfer amryw o weithgareddau ac yn gaffi cymunedol, "Yr Orsaf".

Fe'i ganed ym Bangor|Mangor, a chafodd ei magu yn un o bum chwaer yn Llanwnda. Mynychodd Ysgol Gynradd Bontnewydd ac Ysgol Dyffryn Nantlle. Cychwynnodd ei haddysg uwch ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, ond bu iddi adael er mwyn gweithio i Gymdeithas yr Iaith. Cafodd radd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor yn ddiweddarach.

Mae'n ymgyrchydd iaith digyfaddawd, yn llenor disglair, ac wedi gwneud cyfraniad enfawr gyda'i llyfrau i blant. Bu'n gadeirydd Cymdeithas yr Iaith. Enillodd goron Eisteddfod yr Urdd â'i chyfrol Hen Fyd Hurt ym 1982.

Mae hi'n ysgrifennu a darlunio llyfrau i blant, gan gynnwys ei chyfres Rwdlan, a leolir yng Ngwlad y Rwla. Rala Rwdins oedd y gyfrol gyntaf yn y gyfres hon, cyhoeddwyd gan Y Lolfa ym 1983.

Ym 1985 derbyniodd wobr yr Academi Gymreig am ei nofel Yma o Hyd sydd am fywyd carchar y cafodd hi ei hun brofiad ohono fel ymgyrchydd iaith. Enillodd Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, ym 1991 ac ym 1997, a Gwobr Tir na n-Og ddwywaith yn ogystal, ym 1986 ac 1994

Enillodd Wobr Mary Vaughan Jones yn 2009 am ei chyfraniad tuag at llenyddiaeth plant yng Nghymru.[1]

Mae hi'n briod â Ben Gregory ac yn byw ym Mhen-y-Groes.

Ymgyrchu

Mae Angharad Tomos yn ymgyrchydd sydd wedi cefnogi sawl achos. Yn ogystal ag ymgyrchoedd dros y Gymraeg mae hi wedi gweithredu dros heddwch a gwrth-ryfel[2] ac yn erbyn cerflun Henry Morton Stanley yn Ninbych[3].

Llyfryddiaeth

Delwedd:Byd a'r Betws, Y - Colofnau Angharad Tomos (llyfr).jpg
  • Bodlon - Byw'n Hapus ar Lai (Gwasg Gwynedd, 2011)
  • Sothach a Sglyfath (Y Lolfa, 1993)
  • Cnonyn Aflonydd (Gwasg Gwynedd, 2001)
  • Hen Fyd Hurt (Y Lolfa, 1992)
  • Hiraeth am Yfory (Gwasg Gomer, 2002)
  • Dysgu'r Wyddor gyda Rwdlan (Y Lolfa, 2005)
  • Llyfr Lliwio Gwlad y Rwla (Y Lolfa, 2011)
  • 'Dydw i Ddim Eisiau' - Stori Jona (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
  • Un Bach Ydwyf (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
  • Ar y Brig - Stori Saceus (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
  • I Mewn i'r Arch â Nhw (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
  • Paid Siglo'r Cwch (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
  • Rhywun i'w Garu (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
  • Y Wal Na Ddaeth i Lawr (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
  • Yn Ffau'r Llewod (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
  • I Mewn i'r Arch â Nhw (Cyhoeddiadau'r Gair, 2001)
  • Nadolig heb Goeden (Cyhoeddiadau'r Gair, 2001)
  • Nadolig heb Goeden (Cyhoeddiadau'r Gair, 1999)
  • Eira'r Gaeaf (Y Lolfa, 2010)
  • Gwanwyn Gwlad y Rwla (Y Lolfa, 2010)
  • Haf Braf (Y Lolfa, 2010)
  • Halibalŵ Yr Hydref (Y Lolfa, 2010)
  • Parti Cwmwl (Y Lolfa, 1998)
  • Pecyn Cyfres Darllen Mewn Dim (Y Lolfa, 2007)
  • Rhagom (Gwasg Carreg Gwalch, 2004)
  • Si Hei Lwli (Y Lolfa, 2005)
  • Stwnsh Rwdlan (Y Lolfa, 1997)
  • Titrwm (Y Lolfa, 1994)
  • Wele'n Gwawrio (Y Lolfa, 2004)
  • Wrth fy Nagrau i]' (Gwasg Carreg Gwalch, 2007)
  • Yma o Hyd (Y Lolfa, 1985)
  • Y Llipryn Llwyd (Y Lolfa, 1985)

Gwobrau ac anrhydeddau

  • 1982 - Medal Lenyddiaeth Eisteddfod yr Urdd am Hen Fyd Hurt
  • 1986 - Gwobr Tir na n-Og am Y Llipryn Llwyd (Cyfres Rwdlan)
  • 1991 - Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru yr Wyddgrug 1991 am Si Hei Lwli
  • 1997 - Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau 1997 am Wele'n Gwawrio
  • 1994 - Gwobr Tir na n-Og am Sothach a Sglyfath (Cyfres Cled)
  • 2009 - Gwobr Mary Vaughan Jones

Mae hi hefyd yn cyfrannu'n gyson i dudalenni Herald Cymraeg y Daily Post, bob yn ail ddydd Mercher. Mae hi hefyd yn cyfrannu nodiadau i'r plant ym mhapur deufisol y Wesleiaid, Y Gwyliedydd Newydd. Am chwarter canrif bu'n ysgrifennydd Capel Salem (W), Tŷ'nlôn nes i hwnnw gau.

Mae hi'n wyres i'r darlithydd, Sosialydd ac awdur David Thomas.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau