Pen Hendra: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Pen Hendra (neu Ben Hendra) yw'r enw a ddefnyddir bob amser gan drigolion Trefor am sgwâr y pentref. ''Hendref'', neu ''Hendra'', oedd hen enw'r ardal ho...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Pen Hendra (neu Ben Hendra) yw'r enw a ddefnyddir bob amser gan drigolion Trefor am sgwâr y pentref. ''Hendref'', neu ''Hendra'', oedd hen enw'r ardal hon wrth droed yr Eifl yn Arfon cyn gosod carreg sylfaen pentref newydd y Cwmni Ithfaen Cymreig ar y 12fed o Ebrill 1856, sef pentref Trefor. Deil yr enw ''Hendra'' i gael ei ddefnyddio yn Nhrefor hyd heddiw :
'''Pen Hendra''' (neu Ben Hendra) yw'r enw a ddefnyddir bob amser gan drigolion [[Trefor]] am sgwâr y pentref. ''Hendref'', neu ''Hendra'', oedd hen enw'r ardal hon wrth droed [[Yr Eifl]] yn Arfon cyn gosod carreg sylfaen pentref newydd y [[Cwmni Ithfaen Cymreig]] ar y 12fed o Ebrill 1856, sef pentref Trefor. Deil yr enw ''Hendra'' i gael ei ddefnyddio yn Nhrefor hyd heddiw :


1. ''Allt 'Rhendra'', sef yr allt o Drefor i Llanaelhaearn.
1. ''Allt 'Rhendra'', sef yr allt o Drefor i [[Llanaelhaearn]].


2. Ceir yma dŷ o'r enw ''Hendra'' a arferai fod yn gartref i un o feirdd amlwg y fro, William Roberts (Gwilym Ceiri), awdur yr englyn adnabyddus i'r Pistyll.
2. Ceir yma dŷ o'r enw ''Hendra'' a arferai fod yn gartref i un o feirdd amlwg y fro, [[William Roberts (Gwilym Ceiri)]], awdur yr englyn adnabyddus i'r Pistyll.


3. Un o ffermydd hynaf a phwysicaf yr ardal yw ''Hendre Fawr'', sydd wrth sawdl yr Eifl. Yma bu achos cynnar Bedyddwyr y plwyf yn cyfarfod cyn codi eu capel cyntaf, Saron, yn Llanaelhaearn ym 1814.
3. Un o ffermydd hynaf a phwysicaf yr ardal yw ''Hendre Fawr'', sydd wrth sawdl yr Eifl. Yma bu achos cynnar Bedyddwyr y plwyf yn cyfarfod cyn codi eu capel cyntaf, [[Capel Saron (B), Llanaelhaearn]] ym 1814.


4. "Mynd draw i'r Hendra" wnaiff trigolion ardal glan y môr ; "mynd lawr Hendra" wneir o ran arall, ac "i fyny'r Hendra" o'r gwaelodion.
4. "Mynd draw i'r Hendra" wnaiff trigolion ardal glan y môr ; "mynd lawr Hendra" wneir o ran arall, ac "i fyny'r Hendra" o'r gwaelodion.
Llinell 11: Llinell 11:
5. Bu fferm fechan o'r enw ''Hendref'' yng nghanol lle saif y pentref heddiw, ond fe chwalodd y Cwmni Ithfaen Cymreig y ffermdy a chodi tai i'r chwarelwyr ar y tir.
5. Bu fferm fechan o'r enw ''Hendref'' yng nghanol lle saif y pentref heddiw, ond fe chwalodd y Cwmni Ithfaen Cymreig y ffermdy a chodi tai i'r chwarelwyr ar y tir.


Cyfeirir hefyd, wrth gwrs, at bobl Trefor fel ''Pobol 'Rhendra.''  
Cyfeirir hefyd, wrth gwrs, at bobl Trefor fel ''Pobol 'Rhendra.''
{{eginyn}}
{{eginyn}}
[[Categori : lleoedd]]
 
[[Categori : Lleoedd]]

Fersiwn yn ôl 17:24, 27 Mehefin 2019

Pen Hendra (neu Ben Hendra) yw'r enw a ddefnyddir bob amser gan drigolion Trefor am sgwâr y pentref. Hendref, neu Hendra, oedd hen enw'r ardal hon wrth droed Yr Eifl yn Arfon cyn gosod carreg sylfaen pentref newydd y Cwmni Ithfaen Cymreig ar y 12fed o Ebrill 1856, sef pentref Trefor. Deil yr enw Hendra i gael ei ddefnyddio yn Nhrefor hyd heddiw :

1. Allt 'Rhendra, sef yr allt o Drefor i Llanaelhaearn.

2. Ceir yma dŷ o'r enw Hendra a arferai fod yn gartref i un o feirdd amlwg y fro, William Roberts (Gwilym Ceiri), awdur yr englyn adnabyddus i'r Pistyll.

3. Un o ffermydd hynaf a phwysicaf yr ardal yw Hendre Fawr, sydd wrth sawdl yr Eifl. Yma bu achos cynnar Bedyddwyr y plwyf yn cyfarfod cyn codi eu capel cyntaf, Capel Saron (B), Llanaelhaearn ym 1814.

4. "Mynd draw i'r Hendra" wnaiff trigolion ardal glan y môr ; "mynd lawr Hendra" wneir o ran arall, ac "i fyny'r Hendra" o'r gwaelodion.

5. Bu fferm fechan o'r enw Hendref yng nghanol lle saif y pentref heddiw, ond fe chwalodd y Cwmni Ithfaen Cymreig y ffermdy a chodi tai i'r chwarelwyr ar y tir.

Cyfeirir hefyd, wrth gwrs, at bobl Trefor fel Pobol 'Rhendra.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma